01/05/2010

Mae'r Bleidlais yn y Post.

Gan nad ydwyf yn gallu gyrru bellach, a gan fy mod yn byw tri chwarter milltir i ffwrdd o fy ngorsaf pleidleisio leol, mi ofynnais am bleidlais post eleni. Henaint ni ddaw ei hunan!

Profiad rhyfedd oedd pleidleisio y tu allan i'r blwch pleidleisio arferol.

Rhwng etholiadau San Steffan, Ewrop, Y Cynulliad, Y Cynghorau Sir a'r Cynghorau Plwyf a sawl refferendwm rwy'n amcangyfrif fy mod wedi pleidleisio tua 27 o weithiau mewn blwch pleidleisio, roedd 'na rywbeth anghynnes braidd parthed rhoi'r groes yn y gegin yn hytrach na'r bwth eleni. Doedd o ddim yn teimlo'n iawn!

Dydd Iau nesaf pan fydd pawb arall yn pleidleisio go iawn mi fyddwyf yn teimlo'r golled o beidio bod yn rhan o'r ddefod. Ac o hyn i Ddydd Iau yn teimlo fel clystfeiniwr ar bob sylw sy'n ymwneud a'r etholiad, ac yn dwyllwr wrth geisio perswadio eraill i newid eu teyrngarwch.

Ond dyna fo yr wyf wedi pleidleisio ar gyfer fy nethol ymgeisydd. Mae'r fôt yn y post ac fe gaiff ei gyfrif. Ni fydd modd newid fy meddwl, gan fod fy meddwl a chroes ar ei chyfer yn barod, ond rwy'n teimlo'n drist braidd fy mod i allan o'r gêm bellach!

8 comments:

  1. Anonymous1:24 pm

    Pwy gafodd y pleidlais? ;-)

    ReplyDelete
  2. Anonymous4:47 pm

    Fuost ti'n clustfeinio ar Gordon Brown yn rhoi Gillian Duffy dan ei lach trwy'i galw hi'n fonesig gul ei barn ac os do beth a feddyli di o hynny ?

    ReplyDelete
  3. Anhysbys 1:24 Mae yna gymal aneglur yn neddf cynrychiolaeth y bobl sydd yn awgrymu'r posibilrwydd o erlyn am ddatgelu i bwy mae un wedi pleidleisio cyn i'r canlyniad cael ei gyhoeddi, dyna pam na ddywedais pwy gafodd fy nghroes yn y sylwadau uchod. Ond mae yna gliw bach yn y bathodyn sydd ar ochor uchaf colofn chwith y blog.

    Dafydd, do mi glywais i sylwadau'r bonwr Brown am gulni Mrs Duffy. Yr oedd Brown yn anffodus mewn ffordd yn cael ei ddal yn wneud rhywbeth yr ydym i gyd yn euog ohoni weithiau. Rwy'n siŵr dy fod di, fel yr wyf fi, wedi rhoi wen deg i rywun ar y stryd ac yna wedi ei blagardio tu ôl i ddrysau caeedig.

    Camgymeriad Brown oedd yr ymddiheuriad, oherwydd yr oedd yn amlwg bod yr ymddiheuriad yn ffals, llawer gwell ar ôl iddo gael ei ddal byddid petai o wedi sefyll ar ei farn, egluro pam ei fod yn credu bod agweddau'r fonesig yn gul ac yna ddamnio'r cyfryngau am glustfeinio ar a chyhoeddi sylwadau preifat.

    ReplyDelete
  4. Anonymous9:55 pm

    Un cysur o bleidlais post. Petai rhywbeth yn digwydd i ti rhwng rwan a dydd Iau fe fyddi wedi gadael dy farc !! Dwi yn llawer iau na ti ac wedi ethol i gael pleidlais bost.

    ReplyDelete
  5. Anonymous10:52 am

    Alwyn, fe'm syfrdanwyd gan dy sylwadau ynghylch disgrifiad preifat Gordon Brown o Mrs. Duffy druan a'r ffordd y dylai ef fod wedi ymateb i'r broblem a greodd hynny iddo.

    Os bonesig gul ei barn yw Mrs. Duffy yng ngolwg George Brown am ofyn cewstiwn iddo ynghylch mewnfudo i Brydain ymhlith nifer o rai eraill yna dyn cul ei farn ydwyf finnau hefyd!

    Heb yn gyntaf ymgynghori gyda thrigolion y wlad mae llywodraeth Lafur Brown a Blair o'i flaen ef wedi gadael i filiynau o bobl o bedwar ban byd setlo ym Mhrydain ers 1997. Mae hynny wedi creu problemau lu mewn amryfal feysydd megis, er enghraifft, y byd addysg a'r gwasanaeth iechyd.

    Yn fy marn i roedd yn briodol fod Mrs. Duffy wedi holi cwestiynau i Gordon Brown ynghylch materion o'r fath.

    Ai llathen o'r un brethyn wyt ti a Gordon Brown pan ddywedi di mai ei gamgymeriad ef yn yr achos dan sylw oedd ei ymddiheuriad i Mrs. Duffy?

    Dafydd.

    ReplyDelete
  6. Wnes i ddim dweud nad oedd gan Mrs Duffy yr hawl i ofyn yr hyn a holodd hi, nag ychwaith dweud bod barn Brown bod h'n gul ei meddwl yn gywir. Yr hyn a ddwedais oedd bod Brown wedi gwneud camgymeriad gwleidyddol trwy roi ymddiheuriad nad oedd yn un didwyll, ac os odd o'n wir gredu bod ei barn hi yn un gul mae gwell byddid petasai wedi amddiffyn ei farn yn hytrach na gwneud ymddiheuriad anonest.

    ReplyDelete
  7. Anonymous8:29 pm

    Da popeth a ddiweddo'n dda felly, Alwyn !

    Dafydd.

    ReplyDelete
  8. Dafydd3:11 pm

    Fydda'i ddim yn bwrw pleidlais dros Plaid Cymru yn Etholiad Gyffredinol 2010 !

    ReplyDelete