08/05/2010

Dos i Venn*

Yn ddi-os mi gefais fy siomi wrth glywed canlyniadau etholiad dydd Iau.

Hwyrach mae myfi oedd awdur fy siom trwy ddisgwyl gormod. Tu allan i'r seddau targed yr oeddwn yn disgwyl i'r Blaid eu hennill cafwyd ambell ganlyniad dechau o'r Blaid yn cynyddu ei phleidlais fel sail am bethau gwell i ddyfod.

Mi nodais ychydig ddyddiau yn ôl mae un posibilrwydd o gytundeb Senedd grog bydda i'r Cenedlaetholwyr a chynrychiolwyr Unoliaethol Gogledd yr Iwerddon cytuno i'r Torïaid cael reoli Lloegr am bris o gael mwy o ymreolaeth ddatganoledig a chonsesiynau parthed effaith polisïau Prydeinig ar eu tiriogaethau.

Nid ydwyf yn credu y bydd cytundeb sefydlog yn deillio o drafodaethau rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr. Mae modd cael cytundeb rhwng y Ceidwadwyr canolig a'r Rhyddfrydwyr canolig, ond mae gan y ddwy blaid ei eithafwyr bydd yn gwrthwynebu cytundebau clymbleidiol.

Bydd unrhyw gytundeb megis diagram Venn, efo'r gorgyffyrddiadau yn gytûn ond yr eithafion yn pleidleisio yn erbyn chwip y naill blaid a'r llall, bydd y glymblaid / cytundeb yn un aneffeithiol ac ansefydlog.


Bydd cytundeb Rheoli Lloegr yn fanteisiol i'r bloc Celtaidd a'r Ceidwadwyr. O dan y fath gytundeb, does dim ddwywaith, y bydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno pethau gwrthun inni o ran egwyddor i Loegr, ond bydd dim rhaid i Gynulliad Cymru eu mabwysiadu, ac ar y cyfan ymatal pleidlais yn hytrach na chefnogi bydd pris y fargen.

Pe bawn i yn un o fargeinwyr y pleidiau Celtaidd byddwn yn cysylltu â Mr C, cyn iddo gael cyfle i daro bargen efo'r Rhyddfrydwyr i gynnig y fath gytundeb iddo.

Siom, nid drychineb oedd y canlyniad dydd Gwener i'r SNP a Phlaid Cymru.

Y drychineb byddid petai ail etholiad San Steffan yn cael ei alw ar ddiwrnod Etholiadau Cymru a'r Alban mis Mai nesaf, a Chymru a'r Alban yn cael eu boddi allan o'r drafodaeth ar ddwthwn eu hetholiadau Cenedlaethol.

Mae yna wir berygl i hynny digwydd os bydd cytundeb anghynaladwy rhwng y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr cael ei daro! Da o beth byddid i Blaid Cymru, yr SNP ac Unoliaethwyr Ulster "Cytuno i anghytuno" a'r Blaid Geidwadol am ddeunaw mis i sicrhau nad oes cyd etholiad ym mis Mai 2011.

*Mwysair Gweler y Rhegiadur am Ddos i Wem

11 comments:

  1. Anonymous6:20 pm

    ti'n berffaith iawn am etholiad Brydeinig i gyd-fynd gydag un y Cynulliad. Faswn i'n synnu dim y buasai Llafur a'r Toriaid yn barod iawn i sicrhau i hyn ddigwydd.

    Dwi hefyd yn bryderus am refferendwm o blaid y cynulliad. Mae angen ei gynnal yn yr hydref. mae llafur wedi llusgo'i traed digon. Os bydd llywodraeth geidwadol efallai bydd hynny'n help o fath i'r ymgyrch ... er, fydd y ceidwadwyr a llafur yn dweud nad oes angen y distraction hynny.

    Os oes trafodaeth am greu clymblaid yr Enfys (Llaf, LD, SNP, Plaid etc.) yna gall y Blaid fynny:

    1. Trosglwyddo pwerau i'r Cynulliad heb angen cynnal refferedwm - wedi'r cyfan dydy nhw ddim yn bwerau newydd. Gellir dadlau hyn ar sail pwysigrwydd cael trefn ar yr economi etc.

    2. Pleidlais STV ac nid AV i Brydain

    3. Rhywfath o gynnydd yn y bloc grant ariannol.

    Dwi'n grediniol fod Llafur a Ceidwadwyr am gynnal ail-etholiad i gyd-fynd ag etholiadau Cymru a'r Alban. Dim ond y ddadl gyffredinnol dros yr angen am sefydlogrwydd sy'n stopio hyn.

    Cardi

    ReplyDelete
  2. Anonymous6:42 pm

    Balch ydwyf o weld dy fod wedi dod oddi ar dy glwyd o'r diwedd, Alwyn. 'Does ond gobeithio dy fod wedi llwyr ddadebru erbyn hywn wedi i ti aros ar dy draed yn hwyr er mwyn gwylio canlyniadau etholiad gyffredinol 2010 ar y teledu. Wnes i ddim gwneud peth mor hurt fy hun.

    Mae'n ddrwg gennyf ddarllen dy fod wedi cael dy siomi gan ganlyniadau'r lecsiwn a gynhaliwyd echdoe. Fe gefnogais yr enillydd yn etholaeth newydd Aberconwy a balch ydwyf mai'r blaid a berthyn ef iddi a enillodd y mwyafrif llethol o bleidleisiau a seddau yn Mam Seneddau'r byd.

    Credaf dy fod yn llygad dy le pan ddywedi nad wyt yn credu y bydd cytundeb sefydlog yn deillio o'r trafodaethau rhwng y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr. Wedi'r cyfan nid oes ganddynt ddim yn gyffredin heblaw eu casineb tuag at yr anetholedig Brif Weinidog.

    Credaf mai'r hoelen yn arch gobeithion ethliadaol Clegg ar y naill law oedd polisi'r Rhyddfrydwyr ar Trident a mewnfudo ac mai'r hoelen yn arch gobeithion etholiadol Gordon Brown ar y llaw arall oedd ei ddirmyg tuag at etholwyr Prydain a amlygodd ei hun i'r cyhoedd wedi iddo ffeirio geiriau gyda'r fonesig Gillian Duffy yn Rochdale. Enillodd David Cameron yr etholiadol ras oblegid ei fod yn meddu ar nodweddion amlwg Prif Weinidog yn barod.

    Fe ddylai Gordon Brown dderbyn ei fod wedi cael ei drechu gan David Cameron yn etholiad gyffredin 2010 ac o ganlyniad i hynny fe ddylai hel ei bac yn ddioedd o 10 Stryd Downing a cheisio dod o hyd i'r ffordd i Wem a swydd arall, o bosibl.

    Dafydd Llewelun Jones 08.05.2010

    ReplyDelete
  3. Rwy'n synnu dy fod yn dweud fy mod i'n hurt yn sefyll i fynnu trwy'r nos Dafydd! Braf yw fy atgofion am y dyddiau pan oeddet ti a fi yn myfyrio uwchben cynhwysion "Y Llyfr Goch" hyd berfeddion bora! Wyt ti'n cofio'r Llyfr Goch a oedd yn edrych yr un ffunud a'r Geiriadur Mawr a Cassells English Dictionary, ond oedd yn dal gwerth dau fotel o chwisgi?

    Tra'n son am lyfrau coch, rwyt yn amlwg wedi cerdded dipyn o daith o Drotski i Thatcher. Ond llongyfarchiadau am bleidleisio i'r buddugwr. A'i dyma'r tro cyntaf iti wneud hynny ers i Goronwy dal Arfon diwethaf ym 1970?

    Rwy'n synnu dy fod yn cefnogi Guto oherwydd ei bolisïau ar fewnfudo, gan mae mewnfudwyr yw asgwrn cefn ei gefnogaeth yn y parthau hyn.

    ReplyDelete
  4. Anhysbys. Rhaid dweud fy mod i ddim yn hoffi'r syniad o glymblaid enfys o bob plaid mae Llafur yn gallu crafu at ei gilydd, mae'n drewi o orffwylltra desparet.

    ReplyDelete
  5. Dafydd Llewelun Jones9:19 pm

    Nid oedd amheuaeth beth fyddai canlyniad etholiad cyffredinol 2010. Yn yr ystyr hwnnw ynfydrwydd o'm safbwynt i oedd aros ar dy draed i wylio canlyniadau'r lecsiwn honno. Barnaf fy mod wedi callio wrth heneiddio. Dyna pam na chefnogais Llafur anemocrataidd Gordon Brown. Fe gefnogais y Rhyddfrydwyr yn ei le am y tro cyntaf erioed yn fy mywyd oblegid fod Cameron wedi datgan ei barodrwydd i gwtogi ar fewnfudo o wledydd Mahometanaidd y tu hwnt i ffiniau Ewrop. Fe ddylai pob democrat a Christion sy'n dymuno bod yn gyson gyda'i ddaliadau wrthwynebu'r fath fewnfudo oblegid anathema yw democratiaeth a Christnogaeth i Fahometaniaid. Ychydig iawn o ganlynwyr y grefydd waedlyd honno sy'n gallu cofleidio moderniaeth gwledydd y gorllewin a mae hynny'n creu problemau fil mewn termau rhyddid i fynegi barn i drigolion cynhenid y gwledydd hynny. Os na chredi yr hyn a ddywedaf wrthyt, Alwyn, yna mae'n bosibl yn fy marn i fod y maeth a sugnaist yn y gorffennol o'r "llyfr" coch hwnnw oedd yn trigo ar dy astell lyfrau erstalwm wedi drysu ychydig ar dy feddyliau di! Gyda llaw, beth daeth o'r "llyfr" hwnnw ?

    Dafydd Llewelun Jones 09.05.2010

    ReplyDelete
  6. Anonymous10:12 pm

    Ia ma Mahometanwyr yn frith r'hyd Dyffryn Conwy ma dydyn? S'na neb yn mynd i wrthwynebu y mewnlifiant o Loegr (sy'n wirioneddol andwyol i'n diwilliant) tra'n gwbl ddibynnol ar eu pleidleisiau.

    ReplyDelete
  7. Mae yna ganolfan Iman gweddol Llewyrchus yng Nghyffordd Llandudno, felly dydy Mwslemiaid ddim yn hollol ddieithr i'r Dyffryn, ond byddwn yn cytuno bod y broblem mewnfudo nad ydym yn cael son amdano rhag ofn inni bechu fel gwnaeth Seimon Glyn yn llawer mwy o achos pryder nag ydy mewnfudo o bellafoedd byd.

    ReplyDelete
  8. Dafydd roedd o'n hollol amlwg bod Chealsea am roi crasfa i Wigan 'pnawn 'ma ac ennill y bencampwriaeth pêl droed, ond doedd hynny ddim yn rheswm i bobl sy'n mwynhau'r gêm i beidio a gwylio.

    Rwy'n mwynhau'r gêm wleidyddol, mae sefyll i fynnu i glywed y canlyniad yn rhan o ddefod y gêm, hyd yn oed os ydy'r canlyniad yn weddol amlwg.

    Mi gollais i'r Llyfr Coch wrth symud cartref o'r Rhyl i Lanrwst, mi gredaf, doed o ddim yn fy mhoeni lawer ar y pryd dim ond dipyn o hwyl ydoedd - ond rwy'n flin rŵan gan imi weld un tebyg yn cael ei werthu am £250 ar un o raglenni henebion y pnawn yn weddol ddiweddar.

    Parthed dy sylw am Fahometaniaid. Yr wyf yn Wesla, sef aelod o'r enwad Cristionogol Cymraeg lleiaf. Y rheswm pam fy mod yn cael bod yn aelod o eglwys mor fychan yw bod pobl fel John Penri a fy nghar y Sant John Roberts wedi ymladd hyd at ferthyrdod i ennill rhyddid barn grefyddol. Byddwn i byth yn cyfaddawdu ar yr egwyddor o ryddid barn grefyddol o herwydd fy mod i'n hanghytuno a barn grefyddol y Mwslemiaid. Y ffordd i Gristion ymateb i dwf Mwslemiaeth yng Ngwledydd Prydain yw trwy efengylu a phregethu'r Crist Croeshoeliedig nid trwy wahardd rhyddid crefyddol y Mwslim.

    Gyda llaw pryd ges di dröedigaeth i Gristionogaeth? Roedd yr hen Dafydd Llewelun yn arfer bod yn anghrediniwr rhonc!

    ReplyDelete
  9. Dafydd Llewelun Jones7:00 pm

    Wn i ddim ai dewr ai ynteu diniwed ydwyt pan ddywedi mai'r ffordd i Gristion ymateb i gynnydd Mahometaniaeth ynm Mhrydain yw efengylu a phregethu'r Crist Croeshoelideig i ganlynwyr y grefydd honno. Onid yw'n hysbys i ti bellach na fedr yr un rhyfelwr sanctaidd Mahometanaidd godi uwchlaw ei dduw sy'n dweud wrtho yn ei lyfr sanctaidd mai gau gyfaill yw'r Iddew a'r Cristion yntau iddo (Coran 5:5) ac y dylai fynd i ryfel yn erbyn yr anffyddwyr hynny (Coran 9:123)?

    Crefydd waedlyd anoddefgar yw Islam. Er enghraifft, o ganlyniad uniongyrchol i'r grefydd honno fe gollodd tua thair mil o Americanwyr eu bywydau'n Efrog Newydd yn 2001, collodd tua chant a naw deg un o bobl eu bywydau'n Madrid yn 2004 a thua tri chant a thri deg o bobl a phlant eu bywydau yng ngwarchae Beslan. Ar ben hynny, mae canlynwyr duw'r Mahometaniaid wedi lladd tua phedwar can mil o bobl yn hil-laddiad Darfur.Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun sawl un sydd wedi ei ladd gan drais sectyddol o du Mahometaniaid yn Nigeria'n ddiweddar, tybed?

    Er dy wybodaeth, mae gelyniaeth o du Mahometaniaid tuag at Hindwiaid hefyd. Er enghraifft, o ganlyniad i Fahometaniaeth mae ychydig dros tri miliwn o Hindwiaid wedi diflannu yn Bangladesh ers i'r wlad honno droi'n fwy Mahometanaidd ers iddi ennill annibyniaeth yn 1971.

    Ble bynnag mae mwg rhyfel yn y byd y dwthwn hwn fe ymddengys i mi mai Mahometaniaid sy'n gyfrifol amdano. Pan fyddant yn barod i greu cynnwrf o'r fath ym Mhrydain 'does ond gobeithio er dy les di dy hun y byddi'n meddu ar arfogaeth mwy grymus na phregeth bryd hynny !

    ReplyDelete
  10. Dafydd Llewelun Jones7:04 pm

    Wn i ddim ai dewr ai ynteu diniwed ydwyt pan ddywedi mai'r ffordd i Gristion ymateb i gynnydd Mahometaniaeth ym Mhrydain yw efengylu a phregethu'r Crist Croeshoelideig i ganlynwyr y grefydd honno. Onid yw'n hysbys i ti bellach na fedr yr un rhyfelwr sanctaidd Mahometanaidd godi uwchlaw ei dduw sy'n dweud wrtho yn ei lyfr sanctaidd mai gau gyfaill yw'r Iddew a'r Cristion yntau iddo (Coran 5:5) ac y dylai fynd i ryfel yn erbyn yr anffyddwyr hynny (Coran 9:123)?

    Crefydd waedlyd anoddefgar yw Islam. Er enghraifft, o ganlyniad uniongyrchol i'r grefydd honno fe gollodd tua thair mil o Americanwyr eu bywydau'n Efrog Newydd yn 2001, collodd tua chant a naw deg un o bobl eu bywydau'n Madrid yn 2004 a thua tri chant a thri deg o bobl a phlant eu bywydau yng ngwarchae Beslan. Ar ben hynny, mae canlynwyr duw'r Mahometaniaid wedi lladd tua phedwar can mil o bobl yn hil-laddiad Darfur.Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun sawl un sydd wedi ei ladd gan drais sectyddol o du Mahometaniaid yn Nigeria'n ddiweddar, tybed?

    Er dy wybodaeth, mae gelyniaeth o du Mahometaniaid tuag at Hindwiaid hefyd. Er enghraifft, mae ychydig dros tri miliwn o Hindwiaid wedi diflannu yn Bangladesh ers i'r wlad honno droi'n fwy Mahometanaidd ers iddi ennill annibyniaeth yn 1971.

    Ble bynnag mae mwg rhyfel yn y byd y dwthwn hwn fe ymddengys i mi mai Mahometaniaid sy'n gyfrifol amdano. Pan fyddant yn barod i greu cynnwrf o'r fath ym Mhrydain 'does ond gobeithio er dy les di dy hun y byddi'n meddu ar arfogaeth mwy grymus na phregeth i amddiffyn dy hun bryd hynny !

    ReplyDelete
  11. Anonymous12:44 pm

    Ceir y mwyafrif o Fosgiau mewn hen eglwysi/capeli. Be ddigwyddodd i aelodau blaenorol yr adeiladau hyn?

    ReplyDelete