16/05/2010

Addysg Bonheddig Wigley?

Mae wastad croeso yma i aelodau o Lais Gwynedd sy'n ymosod ar y Blaid, roeddwn yn dueddol o gytuno, ar y cyfan, a chyn brîf blogiwr Llais nag oeddwn yn anghytuno ag ef, ond mae'r blogiwr Llais sydd yn parhau a'i traed yn rhydd yn mynd dan fy nghroen braidd.

Ar y cyfan yr wyf wedi anwybyddu ei dadleuon sur, ond pan mae o'n rhoi'r gorau i ymosod ar Blaid Cymru er mwyn ymosod ar fy enwad mae'r cyllyll yn cael eu miniogi.

Nid Addysg Bonheddig cafodd Dafydd Wigley, nac addysg preifat chwaith.

Fe gafodd Dafydd ei addysgu yn Ysgol Rydal, Bae Colwyn, ysgol elusennol, ar y pryd, o dan reolaeth enwad y Wesleaid. Y rheswm am sefydlu'r ysgol oedd bod gweinidogion Wesla yn newid cylchdaith (plwyf) pob tair blynedd. Roedd yr ysgol yn caniatáu i feibion i weinidogion cael addysg (HEB gost i'w rhieni) nad oedd yn cael ei aflonyddu gan newid cylchdaith barhaol y tad.

Fe gafodd Dafydd ei addysgu yn Rydal gan ei fod yn fab i flaenor amlwg yn yr Eglwys Fethodistaidd (Wesleaidd) yn nalgylch yr ysgol. Yn y cyfnod mi fyddai addysgu'r Dafydd ifanc yn Rydal yn rhatach i'r teulu na fyddai ei anfon i Ysgol Ramadeg Caernarfon.

Nid cyfoeth y byddigions a thalodd am addysg Wigley ond plât casglu'r werin dlawd mewn capeli ar hyd a lled Cymru. Dydy dweud yn wahanol ddim yn sarhad ar Mr Wigley, ond yn sarhad ar bob un aelod o'r Eglwys Fethodistaidd a rhoddodd gwiddon gweddw ar y plât mewn capel tlawd er mwyn sicrhau bod addysg o'r fath ar gael i feibion tebyg i hogyn gwyn teulu Wigley.

4 comments:

  1. Mae o'n mynd dan fy nghroen inna hefyd, dynna pam fyddai byth yn ei ddarllen o.

    ReplyDelete
  2. Y gwir ydi nad ydi Aeron Jones efo unrhyw syniad be mae o'n fwydro amdano; dwi'm yn meddwl i mi erioed ddarllen blogiad call neu synhwyrol ganddo erioed. Mae'r boi'n dwpsyn o'r radd flaenaf.

    ReplyDelete
  3. Pur anaml y byddaf yn trafferthu rhesymu efo awdur y blog dan sylw - mae hynny'n wastraff amser llwyr.

    Ond gan dy fod ti'n codi'r mater hoffwn wneud un sylw bach. Nid bod yna aelodau o'r cabinet wedi cael addysg breifat ydi'r broblem fel y cyfryw. Y broblem ydi eu bod wedi eu gor gynrychioli i'r ffasiwn raddau - mae yna wyth gwaith cymaint ohonynt nag y byddai dyn yn ei ddisgwyl.

    Does yna neb yn gwneud llawer o sylw ar y mater oherwydd bod pobl sydd wedi cael addysg breifat pob amser wedi eu gor gynrychioli mewn cabinetau Toriaidd (a rhai Llafur i raddau llai).

    Ond mi fyddem yn sylwi petai chwarter y cabinet yn Fwslemiaid, neu dau draean ohonynt yn Albanwyr neu'n Babyddion. Ond ni fyddai hynny ddim yn fwy o or gynrychiolaeth na sydd gan cyn ddisgyblion ysgolion bonedd yn y cabinet presenol.

    ReplyDelete