08/04/2010

Y Torïaid yn rhoi tai haf cyn anghenion yr economi

Fel eglurodd George Monibot mewn erthygl pedair blynedd yn ôl, ac fel mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud am ddegawdau mae Ail Gartrefi yn draen ar gefn gwlad, yn creu diboblogi a digartrefedd, yn difetha cymdeithasau ac yn creu problemau amgylcheddol. Gan hynny roedd Alistair Darling yn iawn i gael gwared ar y gostyngiadau treth sydd ar gael i berchnogion ail gartrefi. Mewn cyfnod o gyni economaidd mae'r cysyniad bod perchenogion tai haf yn cael bendith treth yn gwbl wrthyn.

Pan elwir etholiad Sansteffan mae yna drefn ar gael lle mae'r gwrthbleidiau yn gallu caniatáu i fusnes anorffenedig y llywodraeth cael ei orffen ar frys trwy system a elwir golchi fynnu. I fusnes cael ei gynnwys yn y gyfundrefn y golch mae'n rhaid i'r brif wrthblaid cytuno ar yr eitemau, os nad oes cytundeb mae'r busnes yn syrthio.

Mae llawer o sylw wedi cael ei roi i'r ffaith bod yr eLCO tai fforddiadwy yn un o'r pethau sydd heb dderbyn cydweithrediad y Ceidwadwyr a gan hynny bydd y mesur yma yn syrthio. Eitem arall sydd wedi cael llai o sylw ond a fydd yr un mor andwyol i broblemau tai Cymru yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr am ladd y polisi i gael gwared ar ostyngiad treth i berchnogion tai haf hefyd.

Ond oes rhyfedd fod y Torïaid yn rhoi anghenion perchenogion tai haf o flaen anghenion trigolion cefn gwlad, gan na fyddent am bechu'r rhai maent am eu perswadio i bleidleisio o'u hail gartrefi er mwyn gwyrdroi canlyniadau etholiadol Cymru?

1 comment:

  1. Simon Brooks2:05 am

    Cytuno, Alwyn. Fel titha, mae gen i fy nhueddiadau adain dde (cymedrol, gobeithio!), Cymreig a gwlatgar. Mae'n siom mawr imi fod y Blaid Geidwadol am ei diffinio ei hunan yn erbyn cenedlgarwch Cymreig gyda dwli fel hyn.

    Ychydig iawn, iawn mae'r Blaid bach wedi ei gwneud dros yr iaith yn y Cynulliad, ond roedd hyrwyddo'r eLCO tai yn un ohonynt. Mae'n drueni mawr gweld y Toris yn tanseilio'r ymdrech i warchod cymunedau cefn gwlad fel hyn. Byddai unrhyw blaid adain dde wlatgar yn barod i amddiffyn eu diwylliant cenedlaethol rhag drwgeffeithiau gwaetha'r farchnad dai. Nid felly y Toris Cymreig, fe ymddengys.

    ReplyDelete