30/04/2010

Rwy'n gyfoethog - hwre!

Yr wyf yn gyfoethog, yr wyf yn gwybod hyn oherwydd bod un o brif gyhoeddiadau ar yr economi yn ddweud gyda'i holl awdurdod fy mod yn gyfoethog.

Yn ôl cylchgrawn The Economist Welsh-medium schools offer a way for richer parents to enjoy academic selection. Gan fod fy mhlant yn ddisgyblion mewn ysgol Cymraeg mae'n dilyn yn anorfod, yn ôl The Economist, fy mod i gan hynny ymysg y rhieni mwyaf cyfoethog hynny. Rwy'n mawr obeithio bod rheolwr fy manc yn ddarllenydd brwd o'r Economist ac y bydd o'n ystyried cyfoeth addysg fy mhlant wrth iddo ymdrin â fy ngorddrafft.

Diolch i'r arbenigwr economaidd yr Athro Dylan Jones-Evans am ddwyn fy sylw i'r erthygl hynod. Pan symudodd Dylan a'i deulu o Fangor i Gaerdydd cafodd trafferthion cael lle mewn ysgol Cymraeg i'w plantos - dim yn ddigon cyfoethog mae'n rhaid.

1 comment:

  1. Pan symudodd Dylan a'i deulu o Fangor i Gaerdydd cafodd trafferthion cael lle mewn ysgol Cymraeg i'w plantos - dim yn ddigon cyfoethog mae'n rhaid.

    Mae'n rhaid mai dyna pam maen nhw wedi symud o ardal Pontcanna i fyw i ardal Riverside felly (os credwch chi daflen etholiadaol ei wraig sy'n sefyll yn y sedd)!

    ReplyDelete