23/04/2010

Enill efo 10%?

Mae gan Vaughan post heddiw sydd yn nodi pa mor isel gall y bleidlais fuddugol bod mewn ambell i etholaeth. Mae o'n nodi bydd modd i fuddugwr Ynys Môn derbyn cyn lleied a 27% o'r bleidlais. I brofi ei bwynt mae Vaughan yn tynnu sylw at y ffaith bod Lesley Griffiths wedi ennill sedd Cynulliad Wrecsam gyda dim ond 28.8% o'r bleidlais.

Mae'r gwirionedd am bleidlais Wrecsam yn waeth nag y mae Vaughan yn nodi. Dim ond 38% o bleidleiswyr Wrecsam aeth allan i bleidleisio yn etholiad 2007, gan hynny fe enillodd Lesley ei sedd efo cefnogaeth lai na un allan o bob deg o etholwyr yr etholaeth.

Cafodd Lesley 5,633 o bleidleisiau yn 2007. Mewn ymateb i bost blaenorol fe nododd Arfon Jones (Plaid Wrecsam) Cafodd Elystan 6,500 neu 12.2% o'r bleidlais ym 1959 . Cafodd Plaid Cymru bron i fil o bleidleisiau yn fwy, hanner canrif yn ôl, na chafodd y buddugwr yn yr etholiad diwethaf i'r Cynulliad.

Dwi ddim yn nodi'r ystadegyn yna er mwyn ceisio dweud bod modd i'r Blaid cipio Wrecsam yn 2011 (er ei fod yn nod gwerth gweithio tuag ato), ond i nodi'r perygl o ganran mor fychan o'r boblogaeth yn pleidleisio. Ym 1959 yr oedd Plaid Cymru yn blaid fechan ddi-nod ar ymylon gwleidyddiaeth Cymru. Os oedd plaid ymylol yn gallu cael digon o bleidleisiau hanner canrif yn ôl sydd yn ddigonol i ennill etholiad bellach fe all digwydd eto yn 2011. Dydy o ddim y tu hwnt i bob posibilrwydd y gall plaid fel y BNP ennill mewn rhai etholaethau pan nad oes angen cefnogaeth dim ond 10% o'r etholwyr er mwyn cael buddugoliaeth.

3 comments:

  1. Pero y Gath.6:23 pm

    Leslie? Blydi hel! Secs chenj myn uffar i.

    ReplyDelete
  2. Hen Dwpsyn ydwyf yn ogystal â Hen Rech Flin, rwy'n methu deall pwynt yr enwau Seisnig sydd yn swnio'r un fath ond yn cael eu sillafu yn wahanol yn ddibynnol ar ryw.

    Llawer gwell gennyf enwau Cymraeg megis Eryl sy'n cael eu sillafu 'run fath ar gyfer gwryw a benyw.

    Er, mae'n siomedig weithiau cael reporter o'r enw Eryl yn galw acw, a disgwyl cael fy holi gan un tebyg i Eryl Tits Mawr fy nglaslencyndod, mond i ganfod mae Eryl Jones-Williams hynafgwr y Cambrian News neu Eryl Crump Dail y Post sydd yn y drws.

    Yr wyf wedi cywiro sillafiad Les!

    ReplyDelete
  3. Anonymous6:02 pm

    Lesbie friends?

    ReplyDelete