08/03/2010

Mwy o drafferthion i Geidwadwyr Conwy

Mae aelod Ceidwadol arall o Gyngor Sir Conwy wedi ymadael a grŵp y blaid. Cipiodd y Cyng. Dave Holland ward Abergele a Phensarn oddi wrth y Blaid Lafur yn 2008, dipyn o bluen yn het y Torïaid ar y pryd. Mae'r Cyng. Holland bellach am eistedd gyda'r grŵp annibynnol.

Yn ochor Aberconwy o'r sir mae ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr wedi dechrau ymgyrch o feio'r negesydd er mwyn ceisio esgus am y ffaith bod ei ymgyrch yn dechrau chwalu. Mae dau bost newydd ar flog Guto heddiw, y naill yn cwyno am safonau newyddiadurol y papur wythnosol lleol y North Wales Weekly News ar llall yn cwyno am safon newyddiadurol newyddiadurwr profiadol ac uchel ei pharch y BBC Betsan Powys.

5 comments:

  1. Ydi o wedi egluro pam Alwyn?

    ReplyDelete
  2. O ddilyn y cyswllt cyntaf yn y post mae datganiad lawn ganddo ar flog y Cyng. Jason Weyman. Yn fras mae'n ymddangos bod y Cyng. Holland wedi sylwi nad ydyw yn ddyn sydd o anian bleidiol a'i fod o'n gweld bod yn aelod o blaid yn rhwystredigaeth iddo gael mynegi ei farn yn annibynnol er les ei etholwyr.

    ReplyDelete
  3. A reit - fi sy'n ddiog.

    ReplyDelete
  4. Anonymous12:40 am

    Pethau'n troi'n reit diddorol rwan yn tydynt!

    ReplyDelete
  5. All dyn ond â chwerthin.

    Yn bersonol, ro'n i'n gweld Aberconwy yn bendant yn las eleni, ond mae ygmyrch y Ceidwadwyr yn mynd mor drychinebus dwi bron â newid fy mhroffwyoliaeth am yr etholaeth i Blaid Cymru.

    'Sdim byd yn argoeli'n dda i'r Toris 'ma.

    ReplyDelete