30/03/2010

Freeview+ a S4C

Ers i deledu troi yn unigryw digidol yn y parthau hyn yr wyf wedi cael gafael ar flwch Freeview+. Mae'r blwch yn caniatáu imi recordio rhaglen unigol ar bob sianel, a chyfres o raglenni ar y rhan fwyaf o sianeli. Un o'r sianeli lle nad oes modd imi recordio cyfres yw S4C!

Pe bawn yn mynd ar fordaith rownd y byd a dod adref gan ddymuno dal i fyny efo'r hyn a methais o Eastenders byddai'r cyfan wedi ei gadw ar fy mlwch, ond pe bawn am ddal fyny efo anturiaethau Pobol y Cwm ddaw siom i'm rhan, gan nad yw'r linc cyfres yn gweithio ar gyfer S4C.

Cyn imi roi gwers y persli i S4C am y methiant 'ma yn eu darpariaeth, hoffwn gymharu nodau efo darllwnwyr fy mlog i gael gwybod os mae'r sianel sydd ar fai, neu wneuthurwyr fy mlwch sef Alba (ALDTR160).

Oes yna flychau Freeview+ eraill sydd yn recordio cyfresi ar S4C?

4 comments:

  1. Dwi ddim yn gwybod am Freeview ond dwi'n meddwl gallaf recordio 'series link' S4C hefo Sky +.
    Fydd raid i fi ofyn i'r wraig y hi sydd yn edrych ar ol y 'remote' a phopeth technegol yn ty ni!!

    ReplyDelete
  2. Mae Freeview+ yn dibynnu ar y darlledwyr yn cyflenwi gwybodaeth am rhaglenni yn cynnwys cyfresi felly mae'n well gofyn i wifren wylwyr S4C os ydi'r sianel yn gwneud hyn?

    Mae nifer o'r bocsus digidol (hyd yn oed y rhai sy'n cefnogi Freeview+) yn gallu recordio cyfresi mewn ffordd arall e.e recordio pob rhaglen gyda'r un enw gan osgoi dyblygu. Ond efallai nad yw'r nodwedd hwn ar y bocsus rhataf.

    ReplyDelete
  3. Anonymous2:04 pm

    Pwy yn ei iawn bwyll fyddai'n dymuno recordio unrhyw raglen a ddarlledir ar S4C? Onid sothach a ddarlledir yn gyson ar y sianel honno? Yn fy marn i mae rhaglenni isel wael a gynhyrchir gan Saeson ac a ddarlledir ar sianelau eraill megis BBC1 neu ITV yn llawer gwell a mwy diddorol na rhaglenni S4C. Gwastraff o amser yw gwylio S4C !

    ReplyDelete
  4. Anonymous1:44 pm

    Pwy yn ei iawn bwyll a fyddai'n dymuno recordio unrhyw raglen a ddarlledir ar sianel S4C? Yn gyffredinol, onid sothach a ddarlledir yn gyson ar y sianel honno?

    Yn hytrach na gwastraffu f'amser yn gwylio rhaglenni Cymraeg isel wael a ddarlledir ar S4C, gwell o'r hanner gennyf fi wylio a recordio rhaglenni Saesneg ar sianelau eraill !

    ReplyDelete