08/02/2010

Tôn y botel

Os ydy Mick Bates AC yn euog o fwrw staff y gwasanaeth iechyd a oedd yn ceisio ei drin ar ôl damwain meddwol, y mae o'n ddihiryn o'r radd blaenaf ac yn haeddu cael ei gosbi gan law drom y gyfraith yr un fath ag unrhyw ddihiryn meddw arall sydd yn troi at drais yn ei ddiod. Mae ei esgus nad yw yn cofio'r digwyddiad (o herwydd y trawiad ar ei ben nid y cwrw yn ei bol) yn un tila ac mae ei ymddiheuriad o rwy'n sori OS wnes i rywbeth o'i le yn wan ac yn gwbl annigonol.

Mae Mr Bates wedi gadael ei hun, ei deulu, ei blaid , ei etholwyr a'r Cynulliad i lawr mewn ffordd arw. Y Cynulliad yw'r corff sydd a'r ddyletswydd i sicrhau bod gweithwyr y GIG yn cael eu hamddiffyn rhag y fath yma o ymddygiad. Rwy'n methu gweld sut mae Mr Bates yn gallu parhau yn aelod o'r Cynulliad os yw'r stori yma'n wir. Mi ddylai ymddiswyddo yn ddi-oed.

Er nad oes gennyf y gronyn lleiaf o gydymdeimlad a Mick Bates, mae yna elfen arall i'r stori sydd yn peri pryder hefyd. Mae'n debyg bod yr ymosodiad honedig wedi digwydd rhai wythnosau yn ôl. Os felly rhai wythnosau yn ôl dylid wedi torri'r stori, a dylai Mr Bates wedi ei orfodi i ymddiswyddo rhai wythnosau yn ôl. Mae'r ffaith bod gohebwyr wedi eistedd ar yr hanes am rai wythnosau er mwyn ei gadw ar gyfer ei gyhoeddi ar adeg cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn drewi o ragfarn wleidyddol o'r fath waethaf. Gan hynny nid Mr Bates yw'r unig un ddylai dwys ystyried ei addasrwydd ar gyfer ei swydd, dylai gohebydd a golygydd Wales on Sunday gwneud yr union un peth.

No comments:

Post a Comment