11/02/2010

Peter Hain a'r Genhadaeth Dramor

Digon hawdd yw gwneud hwyl am sylwadau Peter Hain bod Cymru yn wlad weddol gyfoethog a'i gymhariaeth rhwng Cymru a Rwanda. Ar un lefel mae'r sylwadau yn gofyn am dynnu’r pî ohonynt, felly does dim beirniadaeth o'r rhai sydd wedi gwatwar Peter a'i sylwadau.

Ond ar lefel arall mae Hain yn gwneud sylw difrifol sydd yn un werth ei hystyried. Er gwaethaf cwynion parhaus am dlodi Cymru o gymharu â GDP gweddill gwledydd Prydain, pe bai Cymru yn wlad annibynnol mi fyddai'n parhau i fod ymysg gwledydd cyfoethoga’r byd, yn gyffyrddus ei le yn y chwarter uchaf.

Os yw person yng Nghymru yn colli ei iechyd, yn colli ei phartner, yn colli swydd ac yn gweld ei thŷ yn cael ei hadfeddiannu gan y banc "yn colli popeth", bydd hi'n parhau i allu byw bywyd cymharol rhwydd i'w phenwynni gyda chefnogaeth y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, budd-daliadau, cartrefi cymdeithasol ac ati. I filiynau o bobl yn y byd bydda colli un o'r pethau hyn yn arwain at farwolaeth.

Pan fo dyn yn son am drai economaidd, tlodi ac annhegwch cymdeithasol yng Nghymru mae'n bwysig bod dyn yn gweld y pethau hyn yng nghyd-destyn y byd ehangach weithiau, yn arbennig felly pan fo son am dorri cymorth i wledydd mwyaf difreintiedig y byd fel rhan o'r ymateb i'r dirwasgiad.

No comments:

Post a Comment