17/02/2010

Darogan etholiad 2010 - record Aberconwy

Un o fanteision cael blog gan bob un o ymgeiswyr mewn etholaeth unigol yw bod dyn yn gallu dilyn adroddiadau am yr ymateb ar y drws gan bob plaid.

Yn ôl y son mae Phil, Guto, Mike a Ronnie yn cael ymateb anhygoel!

Mae pob un ymgeisydd yn canfod pobl yn cyfnewid teyrngarwch a phob un yn ffyddiog am bleidlais anhygoel o bob bro a phentref eu hymdrechion canfasio. Mae pob un blaid yn darogan buddugoliaeth yn seiliedig ar yr ymateb wrth y drws.

O roi'r holl ymatebion canfasio sydd wedi eu hadrodd ar y blogiau i mewn i'r pair darogan, yr wyf yn gallu dod a chanlyniad ecscliwsif i flog yr Hen Rech Flin - Aberconwy bydd y sedd efo'r turnout uchaf yng Nghymru, Prydain y byd a'r bydysawd. Bydd 250% o'r boblogaeth yn pleidleisio.

Mae gwneud yn fawr o ymateb da a chuddio ymateb gwael yn rhan o'r gêm, ond mae honni ymateb gwych lle nad oes modd cael ymateb gwych yn dwyllodrus. Dydy cyhoeddi bod mwyafrif o bobl Llanrwst am bleidleisio i bob un blaid dim yn dal dŵr, mae rhywun yn dweud porcis!

Bydda tipyn o onestrwydd gan y pedwar yn llesol i'w hymgyrchoedd.

Bydda ambell i dyma dalcen caled neu doedd yr ymateb dim cystal ag y gallai bod - rhaid gweithio yma yn rhoi tinc o onestrwydd i'r ymgyrchoedd ac yn gwneud y datganiadau am ymateb da yn Llanbethma yn llawer mwy credadwy.

2 comments:

  1. 'Dydi o ddim y tacteg gorau chwaith Alwyn.

    Hen dric mewn etholiadau Gwyddelig ydi smalio bod dy wrthwynebydd yn saff tra dy fod di dy hun mewn perygl tra mai'r gwrthwyneb sy'n wir.

    Dydi etholiadau ddim yn gweithioyn yr un ffordd yma, ond yn aml y tacteg gorau yma ydi honni dy fod yn gwneud yn o lew, bod X o dy flaen ond ddim o llawer a bod pawb arall allan o'r ras.

    ReplyDelete
  2. I fod yn deg fuo hi ddim yn dacteg dda ar Blaid Cymru yn 2009 pan honnodd y byddai'n ennill yr etholiadau Ewropeaidd! Pwyll bia hi.

    ReplyDelete