29/01/2010

Y Tori, Tew, yn ymddiswyddo

Yn dilyn ffrae'r llynedd a arweiniodd at un o gynghorwyr y Blaid Ceidwadol yn cael ei ddiarddel o'r grŵp Ceidwadol, mae Torïaid Aberconwy wedi derbyn ysgytwad arall heddiw wrth i ail aelod o'r Cyngor ymadael a'r grŵp.

Yn ôl blog y Cynghorydd Jason Weyman, mae'r Cynghorydd Dennis Tew wedi ymadael a'r grŵp Ceidwadol ac yn bwriadu bod yn gynghorydd annibynnol o hyn allan. Dydy'r rheswm dros ei ymddiswyddiad ddim yn amlwg eto, ond yr hyn sydd yn amlwg yw bod ffraeo mewnol ymysg Ceidwadwyr lleol ddim am wneud lles i ymgyrch etholiadol y Blaid Ceidwadol yn un o'i phrif etholaethau targed ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Mae'r Cynghorydd Tew yn cynrychioli ward Deganwy, un o gadarnleoedd y Ceidwadwyr yn yr etholaeth.

3 comments:

  1. Anonymous7:11 pm

    This comment has been removed by a blog administrator.

    ReplyDelete
  2. Yr wyt yn anghywir di-enw.

    ReplyDelete
  3. Anonymous2:06 am

    Bosib y dylwch dileu sy sylw uchod rhag ofn i unrhyw ddrwg ddod ohoni.

    ReplyDelete