22/01/2010

Dyn i bob Tymor?

Mewn post od o anghywir yn adrodd ei brofiad o ymddangos ar Rhaglen CF99 S4C nos Fercher mae Guto Bebb yn gwneud y sylw canlynol am Blaid Cymru:

Are they becoming a Welsh version of the Liberal Democrats I wonder? Socialist in the south but small 'c' conservatives in Aberconwy and North Wales.

Pwynt digon teg!

Pe bai Sosialydd Rhonc ym mowld Leanne Wood neu Bethan Jenkins yn sefyll yn Aberconwy, bydda dim modd imi bleidleisio i'r Blaid, byddwn yn atal fy mhleidlais (neu efo "Cymro Da" fel Guto yn sefyll yn pleidleisio i'r Ceidwadwy).

Rwy'n methu gweld gwahaniaeth papur ffag rhwng Guto a Phil o ran y cenedlaetholdeb diwylliannol yr wyf i'n ei gefnogi. Bydd y ddau ymgeisydd yn fy nghasáu am ddweud mai prin yw'r gwahaniaeth rhyngddynt o ran agweddau craidd tuag at y gymdeithas gynhenid a'r iaith

Ond fel mae Guto yn nodi mae pleidlais i Phil yn bleidlais i Blaid y Gomiwnydd Leanne. Ond ar y llaw arall, onid ydy pleidlais i Guto, hefyd yn bleidlais i'r cocia ŵyn hynod wrth Gymreig sydd yn sefyll ar ran y Torïaid yng Nghymru ar Gororau? Onid ydy pleidleisio i'r Cymro Da Geidwadol yn bleidlais i'r blaid sydd yn gwrthwynebu cefnogaeth i'r Gymraeg , y Gernyweg a'r Aeleg?

O ran y "feirniadaeth" o'r Rhyddfrydwyr o fod yn Blaid wahanol, mewn etholaethau gwahanol; ac estyniad y cyhuddiad i Blaid Cymru yn Aberconwy, lle mae Guto yn sefyll?

Pelican yn yr anialwch Seisnig a gwrth Gymreig Toriaidd traddodiadol mi dybiaf?

4 comments:

  1. Anonymous9:54 am

    blog a phwynt da iawn Alwyn

    ReplyDelete
  2. Guto Bebb11:05 am

    Alwyn,

    Yn syml iawn mae ymgeisydd Plaid Cymru yn Aberconwy yn aelod o blaid sydd, yng ngeiriau Helen Mary, "yr unig blaid yng Nghymru sy'n falch o fod yn sosialaidd".

    I mi y mae sosialaeth ag agweddau o ddibyniaeth sydd yn dod gyda'r ideoleg fethedig yma wedi arwain at Gymru sy'n disgwyl i'r wladwriaeth ein hachub rhag bob camwedd. Y mae sosialaeth Plaid Cymru yn rhan o'r broblem sy'n arwain at economi sy'n tan berfformio ac yn ddibynnol ar arian cyhoeddus am unrhyw lewyrch.

    Awgrymaf yn garedig dy fod yn dewis awgrymu nad oes gwahaniaeth rhyngof ag ymgeisydd Plaid Cymru er mwyn lleddfu dy gydwybod wrth ddewis cefnogi sosialaeth Plaid Cymru yn hytrach na cadw at dy honiad o fod yn gwrthod sosialaeth cynhenid y blaid honno.

    Gallaf gynnig un gwahaniaeth amlwg rhwng ymgeisydd y Blaid a mi (ymysg nifer o rai eraill fe dybiaf). Yr wyf wedi ymwrthod yn llwyr a sosialaeth Plaid Cymru - nid wyf eto i glywed gair gan Blaid Cymru yn Aberconwy yn gwadu sosialaeth y Blaid yn ganolog.

    Hoffwn hefyd ofyn i ti nodi ym mha ffordd yn union oedd fy mlogiad yn "od o anghywir"? Credaf fod y pump pwynt yn adlewyrchu'n llawn y drafodaeth a gafwyd. Os nad felly, rho wybod lle dwi wedi adrodd yn anghywir.

    Yn olaf tydi dy gyhuddiad amdanaf fel Pelican Cymreig (dwi'n eitha licio'r ddelwedd a dweud gwir!) o fewn rhengoedd honedig gwrth-Gymreig y Blaid Geidwadol yn ddim gwell na'r surni gwrth geidwadol y byddwn yn ddisgwyl glywed gan Bleidiwr. Trist gweld dy fod yn gyflym syrthio o fod yn gyfranwr efo barn anibynnol i fod yn ail ddatgan elfennau mwyaf ystradebol a di-sail o naratif gwleidyddol Plaid Cymru.

    Y mae fy mhwynt sylfaenol yn sefyll (a heb eu sialensu gennyt). Y mae Plaid Cymru yn hawlio sosialaeth yn y Cymoedd ac yr oedd Helen Mary yn clochdar am sosialaeth ar CF99. Sawl gwaith yn union i mi weld y gair yn cael ei goleddu gan Blaid Cymru yn Aberconwy? Ymddengys nad yw Plaid Cymru am goleddu sosialaeth yn gyhoeddus yma yn Aberconwy ond does gan yr AC na'r ymgeisydd yr asgwrn cefn i wrthod yr ideoleg yn gyhoeddus chwaith.

    Guto

    ReplyDelete
  3. Anonymous1:01 am

    Hwn wedi taro'r hoelen ar ei phen - braf gweld Guto'n gwingo cymaint. Fel y rhan fwya' o genedlaetholwyr diwylliannol, ar ochr y gorthrymedig a'r difreintiedig rydan ni wrth reddf. Dan ni'n gwbod be di bod ar gyrion cymdeithas a gorfod cwffio am hawliau.
    Dydi Tori ddim yn deall hynny, a dyna pam fod Guto mor amddiffynnol o ymosodol. Pelican a'i ben yn ei blu cyn bo hir?

    ReplyDelete
  4. Ond y pwynt sylfaenol yr wyt yn methu Guto yw dy fod di hefyd yn aelod o Blaid sydd yn "gymuned aml ffydd eang" (i ddyfynnu dy gyn cyd weithiwr Adam Price).

    Digion teg beirniadu'r Rhyddfrydwyr am fod yn gaws mewn un etholaeth a chalch mewn un arall, digon teg yw dy sylw bod pleidlais i Phil yn bleidlais i blaid Sosialaidd Helen Mary. Ond onid ydy o'r un mor wir bod pleidlais i gar yr iaith a'r Genedl, Guto Bebb, yn Aberconwy hefyd yn bleidlais i David Davies a'i ddymuniad i ddileu'r Cynulliad, yn bleidlais i'r Ceidwadwyr yn yr Alban sydd am ddileu BBC Alba, i'r Ceidwadwyr yng Nghernyw sydd yn cwyno am arwyddion enw stryd ddwyieithog.

    Yr wyt ti yn rhannu platfform efo'r blogwyr Ceidwadol Oscar yn yr etholaeth hon a Stonemason yn etholaeth Caerffili ac efo'r trols Ceidwadol ar flog Betsan sy'n casáu ein Cenedl a'n hiaith.

    Does dim rhaid imi leddfu cydwybod o gwbl, na dilyn naratif nac ymddiheuro am fy marn annibynnol chwaith. Yr wyf wedi datgan ers dros ddeng mlynedd ar hugain fy mod yn Genedlaetholwr Ceidwadol. Yn niffyg bodolaeth Plaid Genedlaethol Ceidwadol Gymreig, a dewis rhwng Ceidwadwyr Unoliaeth neu Sosialwyr Cenedlaethol yr wyf mewn cyfun gyngor o gael fy hun yn gorfod pleidleisio yn yr unig etholaeth (bron) lle mae'r dewis rhwng Cenedlaetholdeb a Cheidwadaeth.

    Os digwydd dy fod yn cael dy ethol yn AS Aberconwy, rwy’n gwybod y caf fy nghynrychioli gan aelod unigol da a chydwybodol, ond yr wyf hefyd yn gwybod mae aelod dros etholaeth Seisnig bydd Ysgrifennydd Cymru ac un o'r tri aelod Ceidwadol cyfredol sydd yn ymhyfrydu yn eu casineb i'n Cenedl, bydd ei dirprwy. Sefyllfa nad ydwyf am ei gefnogi gyda fy mhleidlais, er gwaethaf dy rinweddau unigol di.

    ReplyDelete