15/01/2010

Darogan Etholiad 2010 G

Gorllewin Abertawe:

Dyma sedd y mae rhai yn troelli fel un i'r Democratiaid Rhyddfrydol ei gipio. Rwy’n methu gweld y rhesymeg. Mae'n un o'r seddau lle mae llawer yn sefyll ond dim ond dwy blaid sydd yn bodoli, yn Aberconwy y dewis yw'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Arall. Yng Ngorllewin Abertawe'r dewis yw'r Blaid Lafur a'r blaid sy ddim yn Llafur. O ran ymgeiswyr y Blaid Arall rwy'n teimlo bod pobl yn flin efo'r awdurdod lleol Rhyddfrydol yn ogystal â'r  llywodraethau Llafur. Rene Kinzett, bydd arweinydd y r wrthblaid yng  Ngorllewin Abertawe, ond dim digon o arweinydd i gipio'r sedd.

Gorllewin Caerdydd:

Hen Sedd Rhodri Morgan, cyn iddo droi o San Steffan i'r Bae, teg ei alw'n sedd gadarn Kevin Brennan bellach, am o leiaf un tymor Seneddol arall.

Gogledd Caerdydd

Sedd Mrs Rhodri Morgan. Ond sedd ddifyr o ran hanes y Blaid Lafur yng Nghymru. Dyma'r fath o sedd Middle England a dargedwyd gan Tony Blair er mwyn sicrhau buddigoliaeth New Labour ym 1997. A Mrs Morgan fu'n fuddugol o'r herwydd.  Un o'r rhesymau pam nad fu'r dŵr coch croyw rhwng Caerdydd a Llundain mor groyw, ag y gallasai bod, mi dybiaf. Bydd gan Rhods gymar i fwynhau ei ymddeoliad yn y rhandir a'r Mwnt dyfod Mis Mai, mi dybiaf. Jonathan Evans AS bydd dyn Gogs Caerdydd!

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

Dyma sedd mae'r Ceidwadwyr yn credu eu bod wedi eu prynu. Mae arian llwgr werth miloedd a miloedd o bunnoedd wedi eu gwario yma er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr, a hynny'n buddugoliaeth nad yw budd yr etholaeth yn ymwneud dim a hi.

Mi dybiaf fod y llwgr wedi prynu’r etholaeth ac mae buddugoliaeth ffiaidd i'r Ceidwadwyr bydd hanes yr etholaeth.

Erfyniaf ar bawb sy'n parchu democratiaeth  boed yn Ceidwadwyr Cymreig, yn Llafurwyr, Yn Rhyddfrydwyr Democrataidd neu yn Genedlaetholwyr sydd wedi cael llond bol a'r Blaid i bleidleisio yng Nghaerfyrddin a De Phenfro a phleidleisio i John Dixon, er mwyn profi nad yw etholaethau Cymru ar werth i'r bidiwr uchaf a ffieiddiaf.

Gorllewin Casnewydd

Sedd yr hen gyfaill Paul Flynn. Caru o neu ei gasáu o , mae Paul wedi rhoi lliw i wleidyddiaeth Cymru mewn nifer o ffurf. Mae'r dyn yn enigma. Yn perthyn i draddodiad y Gymru Wyddelig wrth Gymreig megis Touhig a Murphy, mae Paul yn siaradwr Cymraeg rhugl, ond dydy ei iaithgarwch ddim yn ymestyn at gariad i'r Fro Gymraeg gwledig! Mae o'n casáu amaethwyr a'r cas perffaith. Pe bai'r ffermwyr yn cyfnewid cae o ŷd am gae o dail mwg drwg, bydda mwy o gydymdeimlad ganddo iddynt o bosib! Mi fydd yn golled aruthrol i'r sin gwleidyddol Cymreig gweld Paul yn colli ei sedd. Er gwaethaf gobeithion y Ceidwadwyr, mae'n annhebygol o ddigwydd.

Gorllewin Clwyd

Er ei fod o'n ymddangos yn un agos iawn ar bapur, does dim cystadleuaeth yma. Yn 2005 fe gipiodd  David Jones y sedd o fewn drwch blewyn gan Lafur. Pe bai'r Blaid Lafur yn ymladd i gipio seddi, dyma un fydda o fewn ei olygon. Ond amddiffyn yr hyn sydd ar ôl bydd hanes Llafur yn etholiad 2010, prin bydd eu diddordeb yn llefydd megis Gorllewin Clwyd. Hir oes i Blog David Jones MP, amdani!

Gwyr

Sedd od ar y diawl. Mi ddylid bod yn gadarnle i'r Ceidwadwyr, ond Llafur yw, a Llafur bydd ar ôl yr etholiad eleni hefyd!

3 comments:

  1. Dwi'n meddwl y bydd Gorllewin Abertawe yn mynd i'r Dems Rhydd o fymryn - yn sicr mi fydd yn agos yn fy marn i.

    Er mae buddugoliaeth Geidwadol fydd hanes Gorllewin Clwyd, dwi'n teimlo mai dyma'r math o sedd y dylai Plaid Cymru wneud ymdrech wirioneddol yn yr etholiad i ddod yn ail yma ar draul Llafur.

    ReplyDelete
  2. mae Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn etholaeth eithriadol o od, dydi? Dw i methu dilyn rhesymeg pwy bynnag gafodd y syniad gwych o dynnu'r llinell yna ar y map.

    Ta waeth, beth ydi'r arian llwgr yma ti'n sôn amdano sy'n llifo mewn i goffrau'r Ceidwadwyr yno? Dw i'n lled-ymwybodol o hanes ddiweddar liwgar y Ceidwadwyr yno (mae'r blaid leol o dan reolaeth cadarn y Countryside Alliance, mae'n debyg), ond dw i heb glywed am y pres 'ma.

    Pa mor agos fydd hi ti'n meddwl? Cawn gymryd bod Llafur am golli, a byddai'n siom anferth i Blaid Cymru pe na baent yn sefydlu'u hunain yn glir fel yr ail blaid o leiaf, ond wyt ti'n meddwl bod gan Dixon obaith o ennill? Hei lwc.

    ReplyDelete
  3. Martin y Cymro11:59 pm

    Gwyr! Sedd od y ddiawl? Na. Mae mwyafrif o'r etholwyr yn byw yn cadarnleoedd y Blaid Lafur yn ardaloedd fel Clydach, Gorseinon, Cas-Llwchwr, Penllergaer a Phontarddulais. Dyna pam maen sedd Llafur. Yn etholiadau y cynylliad mae Plaid Cymru yn cael 20-30% yn yr ardaloedd yma (ac yn enill rhai wardiau)- Am San Steffan - llai na 10%, a mae Martin Caton yn gweithgar iawn ac yn boblogaedd. Sioc mawr os mae Llafur yn colli'r Gwyr

    ReplyDelete