07/01/2010

Darogan Etholiad 2010 D

De Caerdydd a Phenarth
Bydd Alun Michael yn dal y sedd yma'n gyffyrddus, ond dyn a  ŵyr pam!

De Clwyd
Sedd anodd ei phroffwydo.  Mae mwyafrif Llafur yn eithaf iach dros y Ceidwadwyr, sef plaid yr ail safle yn 2005, bron i ugain y cant. Ond mae'r aelod cyfredol yn sefyll lawr eleni, ac mae'r aelod cyfredol yn dipyn o dori efo d bach.  Er ei bod yn hogan o'r Rhos yn wreiddiol, cynghorydd yn Sowthwark Llundain yw olynydd  Martin Jones, tra bod yr ymgeisydd Ceidwadol yn dechrau ar yrfa fel ymgeisydd parhaus. Llafur i'w gadw o drwch y blewyn, ond byddwn i ddim yn tagu ar y corn fflecs o glywed bod fy mhroffwydoliaeth yn anghywir a bod y Ceidwadwyr wedi cael lwc yma.

Delyn
Gellir ailadrodd yr hyn a ddywedais am Dde Clwyd am Ddelyn hefyd, job a hanner i'r Ceidwadwyr curo, mi ddylai bod yn y bag i Lafur, ond ar noson lwcus fe all droi'n annhebygol o lâs

Dwyfor Meirionnydd
Y Blaid i enill yma efo'r canran uchaf o bleidlais fuddugol trwy wledydd Prydain, o bosib. Ond gydag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau Ewrop yn rhannol gyfrannol, mae'n bwysig i'r Blaid i gosi'r etholwyr yma i bleidleisio er mwyn eu cadw yn frwdfrydig ar gyfer yr etholiadau cyfrannol.

Dwyrain Abertawe
Etholaeth mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sniffian, ac o gael canlyniad da eleni, mae gan y RhDs gobaith yn etholiad y Cynulliad 2011. Ond yn y bag i Lafur ar gyfer San Steffan eleni mi dybiaf

Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr
Fel Ceredigion 2005, un i'r Blaid ei golli, yn hytrach nag un i bleidiau eraill eu trechu. Cyn belled a bod Pleidwyr yr etholaeth ddim yn llaesu dwylo ac yn gwario gormod o egni yn cefnogi eu cymdogion yn y tair sedd gyffiniol sydd yn obeithiol i'r Blaid, mi ddylai bod yn saff i Blaid Cymru

Dwyrain Casnewydd
Ar bapur yn y bag i Lafur, bu'r RhDs yn curo ar y drws yn etholiadau'r Cynulliad. Er bod mynydd iddynt eu dringo rwy'n credu bod modd i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd curo yma. Mae'n sedd lle mae'r bobl leol wedi cael eu trin fel ŷd i'r felin  gan Lafur. Cyn Dori yn cael ei barashiwtio i mewn i'r sedd ym 1997 ac ar ôl iddo ymddiswyddo i'r Arglwyddi,  y Blair Babe Jesica Morden yn cael ei pharashiwtio i mewn i'r sedd i'w olynu. Rhwng y ffaith bod Llafur ar ei lawr yn gyffredinol a'r ffaith bod Llafur mewn twll o'i wneuthuriad ei hunan yn Nwyrain Casnewydd, rwyf am roi'r etholaeth hon yn nwylo'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn 2010.

Dyffryn Clwyd
Un arall sy'n anodd ei ddarogan. Canlyniadau'r Cynulliad a chanlyniadau'r cyngor lleol yn awgrymu'n gryf ei fod o fewn gafael y Ceidwadwyr. Ond mae Chris Ruane yn ddyn lleol poblogaidd ac yn aelod hynod weithgar yn yr etholaeth. Digon i gadw ei sedd ar bleidlais bersonol, o drwch y blewyn, mi gredaf. Llafur i'w gadw efo mwyafrif o lai na mil.

No comments:

Post a Comment