06/01/2010

Darogan Etholiad 2010 C

Caerffili , Castell Nedd , Cwm Cynon.

Bydd yn sioc enfawr pe na bai'r Blaid Lafur yn ennill y tair sedd yma yn weddol gyffyrddus. Plaid Cymru sydd yn yr ail safle yn y tair sedd, ond yn dipyn ar ei holi i. Ond bydd yn werth cadw golwg ar berfformiad y Blaid ynddynt, gan fydd perfformiad da yn etholiad eleni yn gallu bod yn fan cychwyn am ymgyrchoedd cryf i'w cipio yn etholiad y Cynulliad 2011, gall canlyniadau gwael  i'r Blaid ynddynt bod yr Amen olaf i yrfa wleidyddol IWJ.

Canol Caerdydd .

Saith o bobl wedi taflu eu hetiau i mewn i'r cylch etholiadol yng Nghanol Caerdydd, ond, hyd y gwyddwn dim ond un ohonynt, Chris Williams (Plaid Cymru), yn Gymro.  Jenny Willott, yr AS Rhyddfrydwyr Democrataidd a chipiodd y sedd i'w phlaid yn 2005 bron yn sicr i ddal ei gafael yn gyffyrddus ar y sedd.

Ceredigion.

Sedd arall a gipiwyd gan y Rhydd Dems yn 2005, ond un a fydd yn llawer anoddach iddynt dal eu gafael arni na Chanol Caerdydd. Un o'r rhesymau i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd ennill yng Ngheredigion yn 2005 oedd bod y blaid wedi targedu pleidlais y myfyrwyr.

Mae'r ffaith bod y Rhyddfrydwyr wedi dibynnu ar y myfyrwyr i ennill y sedd, hefyd yn golygu bod eu mwyafrif wedi symud allan.  I gadw'r sedd bydd rhai iddynt berswadio cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i'w cefnogi, rwy'n methu gweld o'n digwydd eildro. Yn gyntaf dydy'r pleidiau eraill ddim yn mynd i ganiatáu i un blaid i fopio fynnu holl bleidlais y myfyrwyr eto, ac yn ail does yna ddim achosion  mawr sydd am fod yn holl bwysig i fyfyrwyr yn ystod 2010.

Rhaid nodi mae mwyafrif y Rhyddfrydwyr daeth o'r myfyrwyr, roedd craidd y bleidlais yn dod o'r gymuned cefn gwlad a wasanaethwyd mor dda gan y diweddar Geraint Howells. Rwy'n sicr bod "proffil" Penri James (Plaid Cymru) yn y byd amaethyddol yn sicrach o apelio at yr etholwyr yma nag ydy cefndir yr Aelod Cyfredol.

Un o'r pethau sydd yn cyfri yn erbyn Penri yw ei fod wedi colli ei sedd ar Gyngor Ceredigion i Rhyddfrydwr llynedd. Ond fe wariodd y Rhyddfrydwyr arian mawr yn ward Penri, defnyddiwyd bron holl adnoddau dynol y blaid o fewn y ward unigol, yn unswydd i greu'r stori o "dorri pen Penri". Rhywbeth sy'n drewi o desperation i fi.

Penri i a'r Blaid i enill fe dybiwn.

2 comments:

  1. Cytuno gan fwyaf. Yn bersonol, dwi'n dechrau pryderu am Geredigion, ond fy nerfau ydi hynny yn hytrach 'ma 'mhen.

    Dwi'n meddwl bod y seddau Cymoedd rwyt wedi'u crybwyll yn rhai y dylai Plaid Cymru anelu am gael gogwydd da tuag atynt. Yn sicr, gydag Islwyn hefyd, dylent fod reit ar frig rhestr targedau 2011 y Blaid.

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:01 am

    Diolch am bost diddorol arall, HRF. O ran Ceredigion, dwi'n cofio pan oeddwn i'n byw yn Aber ddiwedd y 90au i yrrwr tacsi (Llafurwr) oedd wedi fy nghasglu beio y myfyrwyr am fuddigoliaethau Plaid Cymru! Nawr mae'r myfyrwyr yn cael y bai am i'r Blaid golli. Ydy, mae'n wir i niferoedd y myfyrwyr godi'n sylweddol dros y 15 mlynedd diweddar ac mewn ffordd, poetic justice i ddiffyg narratif/asgwrn cefn y Blaid ynghylch gwladychu y Fro yw ei thrafferthion yno yn awr. Debyg bod carfan sylweddol o wladychwyr (ddim yn fyfyrwyr yn unig) fydd y pleidleisio "stopio Plaid Cymru" ar seiliau ethnig. Ar yr ochr arall, dim ond ychydig o bleidleisiau oedd rhwng y Blaid a'r Rhydds yn 2005 a ni ddylai pethau i'r Blaid fod wedi bod mor agos. Debyg wrth gwrs bod na sawl elfen esboniadol arall am fethiant Plaid Cymru i sefydlu "hegemoni" yng Ngheredigion ar ol 1992: y rhwyg yn y mudiad cendelaethol ynghylch Cymuned/ymgyrch refferendwm y maer ddechrau'r 2000au, natur gwleidyddiaeth y rhwydweithiau personol yn y gymdeithas Gymraeg bentrofol (y Rhyddfrydwyr a'r annibynnwyr yn llwyddo i dal tir yn gryf yn y Cyngor Sir), ac, o bosibl (??) diffyg apel personol Simon Thomas (aeth ei fwyafrif o gymhrau a Cynog i lawr pen y'i etholwyd yn yr isetholiad yn ?99 a wedyn eto yn 2005 - roedd yr ysgrifen ar y mur!). Mae rhai pethau'n argoeli'n well y tro yma: statws a bri Plaid Cymru'n uwch oherwydd y Clymblaid yn y Senedd, llwyddiannau Elin Jones, gwendid cyffredinol y Rhyddfrydwyr ar lefel Prydeinig a Chymreig (ac o bosibl yr AS leol?), cryfder cynyddol Plaid Cymru yn y Cyngor Sir. Ar yr ochr arall, waeth faint o adnoddau oedd gan y Rhyddfrydwyr, dydy hi ddim yn argoeli'n dda bod Penri wedi colli ei sedd ar y Cyngor. Geilw ei "flog" yn "Rural Studies"....mae'r ffermwyr yn rhan bwysig iawn o'r llun ond dylid cofio nad etholaeth wledig mo Ceredigion: mae mwyafrif o'r pleidleiswyr yn y trefi - Aber, Llanbed ac ati. Dealltwyd hynny yn iawn gan dim Cynog Dafis yn 1992.
    Efrogwr, Abertawe

    ReplyDelete