01/01/2010

Darogan Etholiad 2010 B

Blaenau Gwent

Pe na bai'r Blaid Lafur mewn cymaint o dwll ac yn gorfod amddiffyn gymaint o seddi bregus, Blaenau Gwent byddai un o'i dargedau i'w cipio, ac mewn etholiad pan fydd y rhod yn troi i gyfeiriad  Llafur eto bydd yr etholaeth yn sicr o fynd yn ôl i'w fynwes.  Un o siomedigaethau yn yr etholaeth yma yw bod dim un o'r gwrthbleidiau "swyddogol" wedi ceisio manteisio ar drafferthion Llafur ym Mlaenau Gwent er mwyn adeiladu troedle yn nhalcen caled y cymoedd Llafur.

Llais y Bobl i gadw'r sedd yn gymharol hawdd, ond synnwn i ddim pe bai Dai Davies yn ail ymuno a Llafur cyn pen tymor y llywodraeth nesaf.

Bro Morgannwg

Efo'r Blaid Lafur ar drai cyffredinol trwy Ynys Prydain, a'r aelod cyfredol yn ymddeol, mae pob rhesymeg yn dweud dyla’r Fro syrthio yn hawdd i ddwylo'r Ceidwadwyr.  Ond camgymeriad bydda roi hwn yn y bag fel buddugoliaeth Ceidwadol. Mae’r bleidlais bersonol wedi bod yn draddodiadol pwysig yn y sedd yma ac mae Alana Davies y cynghorydd lleol ac ymgeisydd Llafur yn berson llawer haws i'w hoffi nag ydy Alun Cairns yr ymgeisydd Ceidwadol a dyn sydd â dawn ryfeddol i dynnu blew o drwynau pobl.

Does gan Plaid Cymru ddim gobaith mul yma, ond mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref yn yr etholaeth (Plaid Cymru daeth yn ail agos yn etholiadau Ewrop*).  O dderbyn bod Alun Cairns yn cael ei weld fel dipyn o fwgan i Bleidwyr, mae yna siawns bydd rhywfaint o bleidlais PC yn cael ei fenthyg i Lafur fel rhan o ymgais i stopio Cairns.

Buasai dyn wedi disgwyl i'r Ceidwadwyr cipio sedd y Fro yn weddol hawdd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2007 hefyd, ond methasant o tua 80 pleidlais. Byddwn i ddim yn synnu pe bai canlyniad tebyg yn yr etholiad cyffredinol chwaith. 

Brycheiniog & Maesyfed

Dyma un o'r seddi mae'r Ceidwadwyr yn eu llygadu ac sydd yn ymddangos fel un y maent am ei gipio o roi canlyniadau polau piniwn trwy'r mangl. Ond mae'r aelod cyfredol yn ddyn hawddgar sydd yn hynod boblogaidd a gweithgar yn yr etholaeth. Byddwn yn disgwyl i Roger Williams i ddal ei afael ar y sedd yn weddol rhwydd.

*Diweddariad

Mae'n debyg mae pedwaredd oedd y Blaid yn y Fro. Mi wnes i gam ddarllen stori a gyhoeddwyd gan y Blaid yn honni eu bod o fewn 750 bleidlais i  ddod yn ail yn yr etholaeth, am honiad eu bod yn yr ail safle efo dim ond 750 rhwng y Blaid a'r buddugwyr. Nid y fi ydy’r unig un i gael cam argraff o'r troelli mae'n debyg.


5 comments:

  1. Dadansoddiad ddiddorol fel arfer, ond ychydig o sylwadau/cywiriadau ar y Fro Morgannwg, yn rhannol o fy safbwynt fel ymgeisydd y Blaid yma.

    1. Mae Alana Davies yn gynghorydd lleol...ond ddim yn y Fro Morgannwg. Mae hi'n byw ym Mhorthcawl, tu allan o'r Fro, a'r unig cysylltiad oedd astudio yn y Barri bron 40 mlynedd nol. Dwi ddim yn siwr faint o bleidlais personol fydd gyda hi, ond, i fod yn onest, dwi ddim yn disgwyl llawer. Yn sicr ddim gymaint i effeithio'n sylweddol ar y canlyniad.

    Fi yw'r unig ymgeisydd gyda gwreiddiau yn yr etholaeth a'r cysylltiadiau a rhwydweithiau sydd gyda fi bydd gobeithio yn atynnu pobl sy ddim arfer cymryd rhan yn y proses gwleidyddol (ac yn ffafrio fi wrth gwrs).

    2. Dwi ddim erioed wedi clywed disgrifiad Alun Cairns fel bwgan i Bleidwyr gan unrhywun o'r Fro Morgannwg, felly bydd yn syrpreis os mae llawer o bobl yn bleidleisio'n tactegol ar gyfer y rheswm yna.

    Mae rhesymau eraill wrth gwrs, a'r prif un fydd narratif y wasg Prydeinig am yr etholiad bod yn frwydr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr yn unig. Gobeithio gyda gymaint o bobl yn cael eu siomi gan gwleidyddion y prif bleidiau yn San Steffan bydd pobl yn ddefnyddio eu pleidlais yn wahanol tro yma - dros yr ymgeisydd/plaid gorau, nid yn erbyn yr un waethaf.

    3. Enillodd y Ceidwadwyr yn y Fro yn etholiadau Ewrop yn cymharol hawdd. Wedyn roedd 750 o bleidlais yn unig rhwng Llafur, UKIP a'r Blaid ar gyfer yr ail lle.

    Roedd pleidlais y Blaid (a UKIP) yn uwch nag yn yr etholiad cyffredinol yn 2005, ond diflanodd rhyw 15,000 o bleidleiswyr Llafur rhwng 2005 a 2009. Yn amlwg mae llawer o (gyn-)gefnogwyr Llafur sy ddim yn hapus gyda cyfeiriad eu plaid yn ddiweddarar a phenderfynodd y rhan fwyaf yn erbyn pleidleisio. Y cwestiwn yw faint bydd yn dychwelyd i Llafur mewn etholiad cyffredinol, faint fydd yn trosglwyddo i bleidiau eraill a faint fydd aros gartref.

    Yn sicr, fe fydda i'n gweithio mor galed a phosib i atynnu y cyn-cefnogwyr Llafur yna, Lib Dems (sy'n heb unrhyw presenoldeb yn y Fro) ac wrth gwrs Ceidwadwyr sy'n wrando yn ofalus ar fy negeseuon am fuddsoddiad busnes cynaliadawy a menteriaeth yn yr ardal.

    All to play for...

    ReplyDelete
  2. PC yn 4ydd yn etholiadau Ewrop yn y fro Alwyn.

    Dewi

    ReplyDelete
  3. Fedra' i ddim anghytuno efo'r uchod, ond dwi wedi rhoi Brycheiniog i'r Ceidwadwyr. Erbyn hyn, dwi ddim mor siwr, efallai y byddaf yn newid y broffwydoliaeth honno maes o law - mi fydd y canlyniad yno (ac Aberconwy) yn dangos i ba raddau y mae'r Ceidwadwyr wedi cael etholiad llwyddiannus, gan mai nid Llafur ydi'r prif wrthwynebwyr.

    ReplyDelete
  4. Ian Johnson11:33 am

    Er wybodaeth i Alwyn, dyma dyfyniad o'r taflen yn y Fro Morgannwg:

    yn y fersiwn Gymraeg

    "Gwelodd y Blaid gynnydd yn ei phleidlais hefyd ym Mro Morgannwg gan ddod o fewn 750 pleidlais i'r ail safle."

    neu yn y fersiwn Saesneg

    "Plaid also saw an increase in its vote in the Vale and came within 750 votes of second place."

    Stori 3 paragraff yn unig oedd e yn llongyfarch Jill Evans fel ASE ac yn diolch i bobl y Fro am eu cefnogaeth yn yr etholiad.

    ReplyDelete
  5. Diolch am dy sylwadau Ian. Os wyt yn cael dy ethol, bydd dim angen e-bost, na blog, na ffôn, mi fyddi di yn clywed fy ebychiadau o lawenydd yr holl ffordd o'r gogledd i'r deheubarth heb angen cymorth trydanol, mor uchel eu bloedd y byddent.

    Rwy'n ceisio bod yn wrthrychol, ac yn wrthrychol does gen ti ddim gobaith mul men Grand National o fod yn AS eleni!

    Dal ati i ymgyrchu yn gref a mynd amdani. Mi fyddwn wrth fy modd yn gorfod bwyta fy het ymhen y rhawg, os wyt yn llwyddo yn erbyn fy nisgwyl i guro yn y Fro.

    ReplyDelete