27/02/2009

Wylit, Wylit Lywelyn

Cyn imi gael fy ngorfodi i roi'r gorau i yrru oherwydd fy iechyd mi fûm yn gweithio i Brifysgol Bangor fel ymgynghorydd addysg a hyfforddiant. Fy ngwaith oedd mynd i gartrefi gofal a chartrefi nyrsio ar hyd a lled gogledd a chanolbarth Cymru i gynghori ar gyfleoedd i hyfforddi yn y gweithle trwy wneud cyrsiau NVQ ac ati.

Wrth wneud y gwaith ymwelais ag un neu ddau o gartrefi uffernol, rhai roedd rhaid imi gwyno amdanynt i'r awdurdodau. Roedd y mwyafrif mawr yn llefydd digon derbyniol yn cynnal safon dda a chlodwiw. Ond roedd ambell un yn sefyll allan fel llefydd arbennig iawn. Cartrefi lle'r oedd gofal y staff o'r radd uchaf, lle'r oedd y trigolion yn hapus. Cartrefi oedd yn rhan o'r gymuned yn hytrach na lle i guddio'r henoed allan o'r golwg. Cartrefi, pe bai'r angen yn codi, y byddwn yn ddiolchgar o gael treulio fy mlynyddoedd olaf ynddynt.

Un o'r rhain oedd Cartref Bryn Llywelyn Llan Ffestiniog.

Trist oedd clywed bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r cartref. Rwy'n ddeall bod rhaid i gynghorwyr gwneud penderfyniadau anodd ac ystyried oblygiadau ariannol a phob esgus arall caiff ei wneud dros gau Bryn Llywelyn. Ond, bobl annwyl, does neb yn taflu perl i'r lludw. Mae Bryn Llywelyn yn enghraifft o Ymarfer Gorau yn y maes. Lle i Wynedd ymfalchïo ynddo a defnyddio fel enghraifft i eraill. Cywilydd ar bob cynghorydd a bleidleisiodd o blaid y cau.

Pan ddaw henaint ac annhuedd i ran rai o gynghorwyr iau Plaid Cymru, a bleidleisiodd o blaid cau Bryn Llywelyn er mwyn undod eu plaid wleidyddol hwyrach byddant yn gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng gofal o'r radd flaenaf a gofal OK, a dod i ddifaru eu hagwedd cul ac unllygeidiog.

26/02/2009

Problemau Prifysgol

Mae'r ddadl am ffioedd i fyfyrwyr sydd yn rhwygo’r Blaid yn mynd dan fy nghroen. Pob tro rwy'n clywed Pleidiwr yn ceisio amddiffyn agwedd y Blaid a phob tro dwi'n gweld gwrthwynebwyr y Blaid yn llyfu'r mêl o'u bysedd am gyfyng gyngor y Blaid rwy'n teimlo fel tynnu fy ychydig wallt o'm pen.

Mae dwy ochor y ddadl yn methu deall y broblem go iawn.

I leihau'r niferoedd ar restrau di-waith fe wnaeth Llywodraeth Thatcher annog bobl i gofrestru eu hunain yn sâl. I leihau diweithdra ymysg ieuenctid wnaeth Llywodraeth Blair danfon bobl i'r Brifysgol - a gwneud iddynt dalu am yr anrhydedd.

Dwy weithred cyn ffieiddied â'i gilydd o gam drin pobl er mwyn mwytho ystadegau. Dwy weithred sydd a'u canlyniadau yn llawer mwy niweidiol, yn yr hir dymor, na'u bwriad tymor byr.

Y gwir syml am y broblem o gostau prifysgol yw bod gormod o bobl ifanc yn cael addysg prifysgol yn gwbl di angen. Pan oeddwn i'n laslanc roedd 10% o bobl ifanc yn mynd i Brifysgol ac yr oeddynt yn derbyn grant, sef tal (pitw) am fod yn fyfyriwr.

Yr wyf yn nyrs cofrestredig. Wrth hyfforddi i fod yn nyrs cefais fy nhalu cyflog gweddol ddechau dros gyfnod fy hyfforddiant. Bellach mae'n rhaid gwneud cwrs gradd i ddyfod yn nyrs, a thalu am yr anrhydedd. Dydy'r nyrsiaid graddedig dim mymryn yn well (i ddwedyd y gwir maent ychydig yn llai profiadol) na'r rhai a daeth yn nyrsiaid trwy brentisiaeth wedi ennill dim ond un lefel O. Mae eu haddysg brifysgol yn afraid.

Yr ateb syml i'r broblem o ariannu addysg brifysgol yw wynebu'r ffaith, diymwad, nad oes angen inni ddanfon gymaint o'n plant i'r brifysgol!

07/02/2009

Yr Hawl i Wneud Dim

Rwy'n hynod falch bod y Cynulliad Cenedlaethol am dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg, o'r diwedd. Rwy'n siomedig, ta waeth, mae dim ond cyfrifoldeb rhannol bydd gan y Cynulliad.

Dyma un o wendidau mwyaf y system LCO. Mae'r Cynulliad yn gallu gofyn am hawliau mewn maesydd lle mae am newid pethau yn unig.

Weithiau, y peth gorau i lywodraeth ei wneud yw gwneud dim.

Byddwn yn hapusach pe bai gan y Cynulliad cyfrifoldeb dros ddeddfwriaeth ieithyddol lle nad oes dymuniad gweithredu.

Hwyrach ei fod yn agwedd bedantig, ond yr wyf yn credu yn gryf mae lle'r Cynulliad yw dweud nad oes raid i Siop jips, enwog, Cas-gwent gwneud dim parthed cael polisi iaith, yn hytrach na lle San Steffan i ddweud ei fod am gadw'r hawl i'r siop jips gwneud dim!

06/02/2009

Croeso-ish i Garchar C'narfon

Os cofiaf yn iawn roedd yr alwad am garchar i ogledd Cymru yn un o'r pynciau cynharaf i Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas codi ar ôl eu hethol am y tro cyntaf ym 1974. Mae Elfyn Llwyd a Hywel Williams wedi parhau a'r frwydr gydag angerdd.

Yr wyf yn cael fy nghyhuddo gan rai (yn annheg fel arfer) o ladd ar y Blaid ar bob cyfle. Yn ddi-os roedd y cyhoeddiad heddiw bod carchar am gael ei godi yng Nghaernarfon yn enghraifft o werth Plaid Cymru ar ei orau. Mae creu polisi a dal ati, ac ati ac ati am 35 mlynedd hyd nes cael y maen i'r wal yn rhywbeth i'w clodfori. Felly llongyfarchiadau mawr i'r Blaid, i'r ddau Ddafydd i Hywel ac Elfyn ar eu llwyddiant.

Am yr holl resymau y mae'r Blaid wedi eu nodi dros gyfnod hir mae'r newyddion bod carchar newydd am gael ei hadeiladu yng Nghaernarfon yn newyddion da dros ben.

Ond, dydy cael y carchar ddim yn ddiwedd yr ymgyrch. Un o fanteision y carchar yw bydd hi'n dod a hyd at 1,000 o swyddi i'r ardal.

Mae profiad wedi dangos, ysywaeth, bod cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus mawr yn aml yn dod a swyddi i ardal mewn modd llythrennol. Y DVLA, Y Bathdy Brenhinol, Y Swyddfa Breinlen a hyd yn oed swyddfeydd y Cynulliad ym Merthyr, Aberystwyth a'r Gyffordd yn mewnforio staff o ardaloedd eraill, yn dod a nhw, yn hytrach na chreu swyddi i'r boblogaeth leol.

Gall hyd at fil o swyddogion carchar yn mewnfudo i Gaernarfon bod yn niweidiol i un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gall effeithio ar y farchnad tai, troi ysgolion cynhenid Cymraeg yn rhai Saesneg a chreu gelyniaeth gymdeithasol - ymysg pethau eraill.

Bydd llwyddiant y prosiect carchar yn hollol ddibynnol ar sicrhau bod canran uchel o'r swyddi ar gael i bobl leol. I gael y sicrwydd yna bydd rhaid i'r awdurdodau, yr asiantaethau cyflogaeth, gwasanaeth y carchardai a'r colegau lleol cyd weithio yn ystod y cyfnod adeiladu i hyfforddi pobl leol ar gyfer y swyddi bydd ar gael yng Ngharchar Caernarfon. Rwy'n mawr obeithio bydd y Blaid yn ychwanegu at y llwyddiant trwy sicrhau bod hyn yn digwydd.