28/01/2009

Vaughan, yr Haridans a Chenedlaetholdeb

Dydy Vaughan Roderick ddim mewn gwirionedd yn deall pam ond yn ddiweddar mae ambell i flogiwr a newyddiadurwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol y glymblaid .

Rwy' ddeall pam!

Am y reswm syml bod y cenedlaetholwyr wedi colli pob achos cenedlaethol sydd wedi codi ei phen, hyd yn hyn, yn y glymblaid!

Mae Vaughan yn ein hatgoffa bod y glymblaid coch-wyrdd wedi dod i fwcl oherwydd fe wnaeth Ieuan Wyn Jones gyfiawnhau ei benderfyniad i fod yn ddirprwy yn hytrach na'n brif weinidog trwy honni mai dim ond trefniant â Llafur fyddai'n sicrhâi refferendwm cyn 2011.

Mae Vaughan, fel pawb arall, yn gwybod mae esgus dros glymblaid, nid reswm oedd dweud mai dim ond Llafur oedd yn gallu dod a refferendwm i'r fei. Y brif reswm pam nad ddaeth y Glymblaid Enfys i fod oedd o herwydd bod criw bach o sosialwyr eithafol yng ngrŵp y Blaid yn methu goddef y syniad o fod mewn clymblaid gyda'r Torïaid.

Os nad ydy Vaughan a selogion Plaid Cymru wedi sylwi ar y ffaith yna, does dim ddwywaith bod yr unoliaethwyr yn y Blaid Lafur wedi sylwi arni, ac yn ei ddefnyddio i grogi'r Blaid.

Y gwir blaen yw bod y glymblaid wedi methu ar bob ymgais i blesio cenedlaetholwyr Plaid Cymru. Does dim papur dyddiol, dim cefnogaeth i ddiwydiannau yn etholaethau Plaid Cymru. Dim Coleg Ffederal, dim Deddf Iaith. Mae'r system ELCO wedi ei wyrdroi i dynnu grym oddiwrth y Cynulliad ac i gryfhau llaw'r Ysgrifennydd Gwladol. Ac mae'n eithriadol amheus os ddaw'r Refferendwm bondigrybwyll cyn 2012. A hyn oll oherwydd bod pedair aelod o grŵp y Blaid wedi rhoi eu buddiannau Sosialaidd o flaen buddiannau Cymru.

Mae Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn y ffordd waethaf posibl. Bydd pob llwyddiant yn llwyddiant i Lafur, a phob methiant yn fethiant i'r glymblaid. Syniad hurt o'r cychwyn cyntaf, a methiant i'r Blaid hyd yn hyn.

Yr unig lygedyn o obaith sydd gan Blaid Cymru yw canlyniad gwael yn etholiadau Ewrop mis Mehefin. Bydd canlyniad gwael, siawns, yn rhoi ddigon o asgwrn cefn i'r asgell dde yn y Blaid i ddweud digon yw digon i'r haridaniaid, a thynnu nôl o'r cysylltiad gyda'r Blaid Lafur marwol. Boed hynny trwy arwain clymblaid Enfys neu trwy fod yn wrthblaid lwyddiannus.

25/01/2009

Apêl Gaza a'r BBC

Mewn ffordd ryfedd mae penderfyniad y BBC i beidio â darlledu apêl y Pwyllgor Apeliadau Trychineb wedi gwneud mwy o dda i'r apêl nag o ddrwg.



Pa mor aml mae apêl o'r fath yn cael ei ddarlledu? Hanner dwsin o weithiau hwyrach. Ond o herwydd y ddadl parthed yr apêl mae'r apêl wedi cael cyhoeddusrwydd ar bob rhaglen newyddion ar bob sianel trwy'r dydd. Yn wir mae'r apêl wedi cael ei awyru pob hanner awr ar sianel News 24 y BBC - fel stori newyddion.

Ar y llaw arall yn hytrach nag amddiffyn ei hun rhag cyhuddiadau o amhleidioldeb, mae'r gorfforaeth wedi dinoethi ei hunan o bob arfogaeth yn erbyn y fath gyhuddiad. Mae'r penderfyniad i beidio â darlledu'r apêl yn ymddangos i lawer fel prawf bod y BBC yn hapus i anwybyddu'r digofaint mae'r rhyfel wedi achosi i'r diniwed, o herwydd resymau pleidiol gwleidyddol.

Wrth gwrs yr hyn nad yw'r storiâu ar y newyddion yn gwneud yw cyhoeddi sut mae cyfrannu at yr apêl. Dyma'r manylion (Diolch i flog Bill Cameron)

I gyfrannu ymwelwch â gwefan y pwyllgor apêl i roi cyfraniad ar lein

Neu sgwnewch siec neu archeb bost sy'n daladwy i DEC Gaza Crisis
A'i ddanfon i:
PO Box 999,
London EC3A 3AA

Neu gwnewch daliad trwy'r Swyddfa'r Post gan ddyfnu
Freepay number: 1210.

Rwy'n gwybod nad yw cyhoeddi'r manylion yma ar Flog yr HRF yr un fath a'u cyhoeddi ar y BBC. Ond os yw pob blog sydd ag ugain neu ragor o ddarllenwyr yn eu rhannu ....?

24/01/2009

Dwynwen yn Hwb i Rygbi Cymru!

Syniad da bydd dathlu Gŵyl Dwynwen yfory yn hytrach na Gŵyl Folant ar Chwefror 14eg i'r sawl sydd mewn perthynas ag yn hoff o'r bêl hirgron.

Meddyliwch am y Saeson druan bydd yn gorfod dewis rhwng cefnogi eu gwlad neu dangos serch i'w cariadon ym mhen tair wythnos! Bydd Cymru yn chware Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Ddydd Gŵyl Folant. Bydd rhaid i'r Sais druan dewis rhwng rygbi a phin rowlio neu bryd bach rhamantus tra bydd y gêm ar ei anterth. Druan ohono!

Bydd y Cymro rhamantus eisoes wedi dangos faint ei serch trwy flodau, siocled, pryd a nwyd ar Ionawr y 25ain. Mi fydd yn rhydd i floeddio yn gwbl ddieuog dros ei wlad pan ddaw Gŵyl Folant.

Gwerth o leiaf 5 pwynt i dîm Dwynwen, tybiwn i.

Felly gwnewch yn fawr o'ch cariad i'ch cariad yfory, er mwyn cael y rhyddid i ddangos eich cariad llwyr i dîm ein gwlad ar Chwefror 14!

23/01/2009

Troelli drud v Newyddion rhad

Chwi gofiwch mai’n siŵr saga Papur newyddion Y Byd. Roedd Cwmni'r Byd yn dymuno £600 mil er mwyn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Roedd hyn yn ormod i gyllid y Cynulliad Cenedlaethol. Yn lle'r papur dyddiol drudfawr yr ydym am gael gwefan newydd sydd yn costio dim ond £200 mil.

Am £200 mil bydd disgwyl i gwmni Golwg darparu holl anghenion papur dyddiol mewn modd digidol ar y we. Bydd disgwyl i'r cwmni darparu newyddion cymdeithasol, adloniant, chwaraeon, addysg a gwleidyddiaeth ein gwlad gan gynnwys adroddiadau am waith Llywodraeth y Cynulliad.

Ond o ran Llywodraeth y Cynulliad, bydd angen llawer mwy na £200 mil i hysbysebu ei weithgarwch ei hun. Yn ôl y Western Mail bydd angen £3,5000,000 - bron ugain gwaith mwy na'r hyn sy'n cael ei gynnig i gwmni Golwg a mwy na chwe gwaith mwy na'r hyn yr oedd Y Byd yn dymuno, er mwyn creu dau wefan i droelli ar ran y Llywodraeth!

Dyma arwydd o ymrwymiad y Llywodraeth i ddyfodol yr iaith

16/01/2009

Cathod Bach y Môr

Dydy'r syniad o lysieuaeth erioed wedi apelio i mi, rwy'n rhy hoff of fy nghig oen Cymreig. I ddweud y gwir rwy'n gweld y ddadl dros lysieuaeth yn un wan braidd, dydy ymwrthod a chig ddim yn atal dioddefaint i anifeiliaid. Mae bwyta llysieuyn yn amddifadu anifail arall rhag ei fwyta ac yn arwain iddo lwgu a marw. Os ydwyf fi yn bwyta'r letys o'r ardd mae'r wlithen yn llwgu, os ydy'r wlithen yn cael y letys gyntaf - yna mi fyddwyf i yn llwgu (oni bai fy mod yn cael brechdan ham i de yn hytrach na brechdan letys). Ond dyna fo, pawb at y peth a bo, os ydy dyn ddim am fwyta cig dyna yw ei ddewis ac rwy'n parchu ei ryddid i wneud y dewis yna. Ond mae'n biti nad ydy llysieuwyr yn rhoi'r un rhyddid i'r rhai ohonom sydd ddim yn dewis dilyn eu ffordd hwy o fyw.

Un o'r ymgyrchoedd mwyaf hurt imi glywed amdano yn fy nydd yw ymgyrch diweddaraf gan y mudiad milwriaethus llysieuol PETA. Maen nhw, wrth gwrs, yn credu bod pysgota yn greulon. Ond yn ôl adroddiad ar flog y Parch Allan Bevere maen nhw'n credu bod pobl yn fodlon bwyta pysgod ac yn fodlon pysgota am hwyl oherwydd bod yr enw pysgodyn yn un negyddol. Wrth feddwl am bysgodyn byddwn yn meddwl am beth drewllyd, llithrig, anodd ei garu. I newid y drefn yma y maent am ymgyrchu i ddiddymu defnydd o'r gair pysgodyn a'i gyfnewid am yr enw cath fach y môr. Mae cathod bach yn bethau annwyl, anwesol a di niwed. Bydda neb am roi bachyn trwy ben cath fach nac am ei fwyta.

Fel rhan o'r ymgyrch mae'r grŵp hefyd am newid enwau lleoedd sydd yn cynnwys yr elfen Pysgod megis Dinbych y Pysgod (Fishguard) i Ddinbych Cath fach y Môr (Sea Kitten Guard)!!!

Mae'r holl son am bysgod wedi codi chwant bwyd arnaf - felly draw a fi i'r siop jîps lleol i gael cath fach, sglodion a phys slwtsh. Iym!

English

11/01/2009

Dathlu Darwin

Mae yna fanteision o gael dy eni ar ddechrau blwyddyn a chyhoeddi dy waith pwysicaf ar ddiwedd dy 50fed flwyddyn o oed. Rwyt yn cael blwyddyn gyfan o ddathlu wedi canrif, canrif a hanner a dwy ganrif!

Ganwyd Charles Darwin ar 12ef Chwefror 2009, gan hynny yr ydym yn dathlu dwy ganrif ei eni. Chyhoeddwyd ei waith mawr On the Origin of Spceies ym mis Tachwedd 1859, cant a hanner o flynyddoedd yn ôl - achos dathliad dwbl ac achos dathliad blwyddyn gyfan!

Yn anffodus bydd y dathliadau yn codi'r hen grachen am Esblygiad v Creadigaeth, eto byth.

Gan ei fod yn wybyddus i ddarllenwyr rheolaidd y blog fy mod yn Gristion, ac yn aelod eitha' ceidwadol o'r Eglwys Fethodistaidd, waeth imi ddatgan fy marn rŵan am y ddadl, cyn bod eraill yn adeiladu dynion o wellt i ddadlau yn erbyn yr hyn y maent yn tybio fy mod yn credu.

Y gwir blaen yw nad ydwyf yn gwybod!

Yr wyf yn derbyn y Beibl fel Gair Duw sydd yn datgan gwirioneddau diymwad am berthynas Duw a dyn, a gan hynny yr wyf yn derbyn bod ei neges yn eirwir. Yr wyf yr un mor sicr nad yw'r Beibl yn werslyfr gwyddonol. Pwrpas y Beibl yw datgan natur Duw a'i berthynas a dynion.

Mae hanes Johna a'r morfil yn enghraifft pur o hyn. Os cafodd Jonah ei lyncu gan forfil yn llythrennol neu yn ddamhegol mae'r "neges" yn y stori yn aros yr un fath, dibwys braidd yw dadlau am ei eirwiredd.

Yn hanesion y creu mae Duw yn rhoi cyfrifoldeb inni i warchod y ddaear y mae o wedi rhoi i'n gofal. Trwy ailgylchu ein gwasarn a diffodd ein goleuadau stand by yr ydym yn derbyn y cyfrifoldeb dwys yma.

Ond pam?

Mae'n debyg bod gwartheg yn torri gwynt yn achosi llawer o niwed i'r parth O - ond a ydy'r fuwch sy'n rhechan yn poeni?

Nac ydi!

Os nad ydym yn ddim byd ond cynnyrch esblygiad, fel y fuwch, pam ein bod ni'n poeni tra fo'r fuwch, sydd ar fai, yn gwbl di hud? Tybiwn i mae'r ateb yw oherwydd bod gennym gyfrifoldeb uwch. Rwy'n ddeall pam bod Duw yn rhoi'r cyfrifoldeb yna inni - ond be di esgus esblygiad am wneud imi boeni am gynyrch pen ol anifail arall?

Pan oeddwn tua 17 oed mi geisiais ddarllen On the Origin of Spceies, dim ond dwy bennod llwyddais i'w ddarllen cyn rhoi'r gorau arni, rhaid cydnabod bod yr holl gysyniad yr oedd Darwin yn ceisio ei drafod y tu hwnt i'm ddirnad i.

Mi wyliais raglen deledu ar hanes y gwcw yn gynharach heddiw. Rhaglen llawn damcaniaethau ar esblygiad yr aderyn twyllodrus nad oeddwn yn eu deall o gwbl. Roeddwn yn ddeall sut oedd cyfanwaith twyll y gwcw yn gweithio, ond yn methu deall sut yr oedd modd i'r system datblygu / esblygu. Roedd yna nifer o gamau angenrheidiol i'r twyll gweithio, camau gan y tad, y fam, y cyw a'r adar maeth. Pe bai un cam ar goll bydda'r holl gynllun yn methu - so sut oedd y fath system wedi datblygu / esblygu cam wrth gam? Y dryswch mwyaf i mi oedd sut oedd cyw'r gwcw, a oedd wedi ei fagu gan rieni maeth, yn gwybod sut i ymddwyn fel cwcw a chreu'r un twyll er mwyn ei etifedd y flwyddyn nesaf - heb addysg gan gwcw arall! Anhygoel!

Fel y nodais eisoes nid ydwyf yn wrthwynebus i'r syniad o esblygiad. Rwy'n ddigon bodlon cydnabod nad oes gennyf ddigon o wybodaeth i ddatgan barn o'i blaid nac yn ei herbyn, rwy'n gweld o'n bwnc na allaf cael gafael arni. Yn yr un modd ac ydwyf yn ddigon bodlon derbyn nad ydwyf yn wyddonydd roced nac yn llawfeddyg yr ymennydd.

O ddweud hynny dwi ddim yn dwpsyn! Rwy'n ddigon galluog i gydnabod yr hyn rwy'n gwybod a'r hyn nad ydwyf yn ei ddeall. Ydy pawb sy'n pledio achos Darwin yn gallu dweud, a llaw ar galon, eu bod yn ddeall pob dim am gysyniad Esblygiad?

Rwy'n gwybod, trwy ffydd, bod yr Arglwydd Iesu Grist yn Waredwr imi. Peth chwerthinllyd i nifer o'r rhai sydd yn pledio achos Darwin yn ystod cyfnod y dathliad. Ond tybed faint o'r dathlwyr sydd yn ddeall esblygiad yn iawn, a pha faint sydd ddim ond yn derbyn eu cred ym mhenarglwyddiaeth damcamiaeth Darwin trwy ffydd?

08/01/2009

Satan i gael Cerdyn Teithio Cymru?

Yn ôl y Daily Post (mewn stori sydd ddim ar lein) bu'r ymgyrch hysbysebu atheistiaeth ar fysys Llundain yn gymaint o lwyddiant bod yr ymgyrch am gael ei ehangu i gynnwys bysus yng Ngogledd Cymru.

Bu'r sylwebyddion arferol yn cwyno am y newyddion, wrth gwrs; ond mae'n rhaid imi ei groesawu.

Mae 'na hen ddweud mai yr unig beth sydd yn waeth na phobl yn siarad amdanoch yw bod pobl ddim yn siarad amdanoch. I raddau dyma fu problem achos crefydd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf - nid bod pobl yn elyniaethus i neges Crist ond eu bod yn ddi-hid ohoni, neu'n anymwybodol o'i fodolaeth. H.Y. dydy pobl ddim yn siarad amdani.

O weld hysbysebion sydd yn lladd ar Gristionogaeth ar fysys y Gogledd, rwy'n cyd obeithio a threfnwyr yr ymgyrch y dônt yn achos trafod ddwys!

Yn ddi-os ni fydd neb sydd yn creu bod Iesu Grist yn waredwr iddo neu iddi yn colli ffydd o ganlyniad i hysbysebion o'r fath. Ond mae'n wir bosib bydd y drafodaeth sydd yn cael ei godi o'u bodolaeth yn arwain ambell un i adnabyddiaeth bersonol o'r Arglwydd Iesu Grist.

Gan hynny rwyf am ddiolch i drefnwyr yr ymgyrch hysbysebu. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr hysbyseb cyntaf ar fysys rhif 25 ac at y cyfle i dystiolaethu bydd eu hymddangosiad yn cyflwyno imi.

English

05/01/2009

Rhyddid 2009

Ym 1963 ffurfiwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fel mudiad annibynnol o Blaid Cymru, gan ei fod yn amlwg nad oedd modd i'r Blaid ymgyrchu dros yr iaith yn effeithlon wrth ymgyrchu yn etholiadol hefyd.

Yn 2009 onid oes angen mudiad i ymgyrchu dros annibyniaeth sy'n rhydd o Blaid Cymru, gan ei fod yn amlwg nad oes modd i Blaid Cymru ymgyrch dros annibyniaeth yn effeithiol wrth gyfaddawdu yn etholiadol hefyd?