06/12/2009

Ydy'r HRF o blaid Lladd yr wrth Gymraeg?

Gan fy mod wedi penderfynu cael hoe fach o'r pwysau uffernol sydd yn dod o ysgrifennu blog Saesneg, mi benderfynais roi peiriant Google Translate ar y safle hwn rhag ofn bod rhai o fy nghyn darllenwyr Saesneg am gael cip o'r farn yr wyf yn parhau i'w fynegi yn y Gymraeg.

Mae'r teclyn i'w gweld ar ochor chwith y sgrin rhwng bathodyn Maes-e a bathodyn Rwy'n Cefnogi Annibyniaeth.

Yr wyf yn ansicr o gallineb osod y teclyn, gan fod ambell i gyfieithiad yn awgrymu bod fy marn yn fwy hurt na'r hurtiaf y mae Cai wedi eu gwobrwyo am idiotrwydd.

Er enghraifft mae cyfieithiad o'r post yma yn awgrymu fy mod o blaid llofruddiaeth dorfol o'r gwrthbleidiau er mwyn amddiffyn y Gymraeg:

What is great is that the buoyancy, the fire in the belly, and the fall out has pasiwn raised when members of the party killed four of their opponents for compromise on the future of the language.

Ond wedi fy nghyhuddo o gefnogi llofruddio pedwar cyfaddawdwr er mwyn addiffyn yr iaith mae'r peiriant cyfieithu yn amau fy niffuantrwydd. Dyma'i gyfieithiad o benawd y post gyfredol:

Slaughter - is the HRF in favour of the Gymraeg?

Gwell imi gael gwared â'r peiriant cyfieithu cyn iddi fy arwain i ddyfroedd dyfnion iawn, mi dybiaf !!!!!!!!!!

2 comments:

  1. Fel mater o ddiddordeb Alwyn, pam wyt ti'n cael bod blogio yn y Gymraeg yn rhoi llai o bwysau arnat na blogio yn Saesneg?

    ReplyDelete
  2. Yr wyf newydd danfon post Cymraeg am ymadawiad Oscar o'r Blaid i'r Ceidwadwyr. Mae'n bost hwyr ar y diawl o ystyried yr holl drafod a fu ers y cyhoeddiad bora ddoe. Ond dyma'r cyfle cyntaf cefais i ymateb iddo.

    Dim ots yn y Gymraeg, fi yw'r bedwaredd neu'r bumed i wneud sylw ar y pwnc, ac yr wyf yn gobeithio fy mod wedi gwneud sylw amgen i'r rhai sydd wedi eu cyfrannu eisoes!.

    Ond mai'r blogiau Cymreig wedi bod ar dân efo'r stori ac mae'r stori yn hen cyn imi gael y rhyddid i wneud sylw, ac mae bron popeth gellir ei ddweud wedi ei ddweud yn y fain.

    Y gwir yw gallwn gloriannu cyfraniad Rhodri ym mhen y mis yn y Gymraeg a bod ymysg y cyntaf o'r blogwyr gwleidyddol Cymraeg i wneud hynny. Pe bawn yn wneud sylw am gymynrodd Rhodri i'r genedl yn y fain, ymhen deuddydd, byddai'r darllenwyr yn gofyn be sy'n bod ar fy mhen am drafod stori yn y papur chips!

    Nid ydwyf eto wedi rhoi'r gorau i flogio yn Saesneg am byth. Mae'r safle ar agor o hyd, ac mae'n debyg yr af ati eto yn y flwyddyn newydd i ddweud fy nweud yn iaith y Diafol. Ond ar hyn o bryd mae amser yn elyn imi gadw dau flog yn weddol gyfredol.

    ReplyDelete