04/11/2009

Democratiaeth byw a'r Iaith Gymraeg

Mae gwasanaeth newydd y BBC Democratiaeth Byw yn un wych ac un byddwyf, yn sicr, yn ei ddefnyddio'n aml. Mae'n cynnig darllediadau byw ac wedi eu recordio o wyth o siambrau llywodraethol Ynysoedd Prydain, gan gynnwys Senedd y Cynulliad.

Mae modd hefyd copïo trafodion o'r safle i mewn i bost blog. A gan fod y gwasanaeth ar gael, gwell ei ddefnyddio! Dyma'r drafodaeth lawn ar yr eLCO iaith:



Mae'n debyg bod modd tynnu allan cyfraniadau unigol o'r trafodion yn hytrach na thrafodaeth lawn, ond nid ydwyf wedi gweithio allan sut i wneud hynny eto.

Ta waeth mae hon yn ddadl werth ei ddilyn o'r cychwyn i'r ddiwedd. Mae'n un o'r sesiynau mwyaf bywiog imi ei glywed o'r Cynulliad.

Yr hyn sydd yn wych yw bod y bywiogrwydd, y tân yn y bol, y ffraeo a'r pasiwn wedi codi wrth i aelodau o'r pedair plaid lladd ar eu gwrthwynebwyr am gyfaddawdu ar ddyfodol yr iaith; mae'r clochdar yn codi wrth i aelodau'r gwahanol bleidiau ceisio profi mae eu plaid nhw yw cefnogwr ac amddiffynnydd mwya'r iaith.

Mae clywed Ceidwadwyr a Llafurwyr a Rhyddfrydwyr Democrataidd yn beirniadu Plaid Cymru am gyfaddawdu ar yr iaith ac am beidio a gwneud digon i'w hamddiffyn yn codi deigryn i'r llygaid. Nid am fod y feirniadaeth yn deg nac yn gywir - dim ond am ei fod yn bodoli.

Chwarter canrif (neu lai) yn ôl bydda ddadl ar y testun yma wedi bod yn un lle'r oedd y Blaid yn amddiffyn cornel yr iaith a phawb arall yn lladd arni am gefnogi iaith hanner marw. Mae'r ffaith bod eraill heddiw yn teimlo'r angen i feirniadu'r Blaid (yn gam neu'n gymwys) am beidio gwneud digon dros yr iaith yn brawf o ba mor bell mae achos yr iaith wedi symud mewn cyfnod gweddol fer.

Yr her nesaf i'r Blaid yw gweithio tuag at ddadl ble mae pob un o'r pleidiau eraill yn ei feirniadu dros beidio a gwneud digon dros achos ymreolaeth i Gymru :-)

4 comments:

  1. Ydy Leanne Wood yn cysgu?

    ReplyDelete
  2. Dwi'n cytuno. Dylai Alun Ffred DDIM fod wedi derbyn yr LCO a ddaeth nôl o Lundain. Ddylai Plaid Cymru DDIM fod wedi gwneud hynny. Ond dyna wnaethpwyd.

    Dydi hi ddim yn gysur mai geiriau gwag ydi cyhuddiadau'r rhai sy'n dweud nad yw'r Blaid yn gwneud digon dros yr iaith, yn yr ystyr fydda nhw ddim yn gwneud dim drosti chwaith.

    Roedden ni'n meddwl bod di-wleidyddu'r iaith yn gam ymlaen - yr hyn y mae wedi'i wneud ydi tynnu'r tân o fol Plaid Cymru drosti.

    ReplyDelete
  3. Yn amlwg, anghytuno ydw i uchod, nid cytuno fel y nodais!

    ReplyDelete
  4. Wrth wylio’r ddadl ddoe ar ‘Democratiaeth Fyw’ y BBC fe’m tristhawyd wrth weld yr holl bleidiau, gan gynnwys Plaid Cymru, yn di-raddio’r ddadl i frwydr o daflu baw pleidiau gwleidyddol. Roedd yr hyn roedd y Toriaid yn ei ddweud am eu bod nhw’n arwyr mawr yn iaith Gymraeg yn sothach ond roedd dadlau yn ôl Plaid Cymru yn pathetig yn ogystal. Do wir fe fu Alun Ffred yn rheng flaen brwydr yr iaith yn ei ddydd ond dydy hynny ddim yn rhoi hawl foesol iddo gerdded llwybr cyfaddawd heb wynebu’r oblygiadau heddiw sori.

    Roedd y pwyntiau y cododd rhai o’r Ceidwadwyr, Paul Davies yn bennaf, yn bwyntiau cwbwl deilwng hyd yn oed os oedd ei gymhelliad (sef sgorio pwyntiau gwleidyddol maen siwr) yn anghywir. Ond yn hytrach nag ateb ei bwyntiau rhag blaen (am gyfyngiadau’r LCO a’r ffaith y dylem fod wedi bod yn cael llawer o’r dadleuon a gafwyd nawr ar lefel llunio’r mesur) fe gyfarthwyd yn ôl ato gan Alun Ffred, Bethan Jenkins a Rhodri Glyn gyda rants gwrth-Doriaid o’r 80au yn hytrach na wynebu dadleuon gwleidyddol y dydd.

    Yr Eliffant yn y stafell wrth gwrs wrth i'r Blaid a'r Toriaid gwffio oedd y Blaid Lafur. Wrth i ACau Plaid Cymru feirniadu David Davies AS, David Jones AS, Cheryl Gilligan AS etc… methodd y Pleidwyr a sylwi nad oedd y dihurod yna mewn Llywodraeth (eto). Er fod yr ASau Toriaidd wedi trio eu gorau i wanhau’r LCO, diwedd y dydd Llafur sydd mewn Llywodraeth ac felly y mae gwendid yr LCO yn eistedd ar ddor y Blaid Lafur. Nhw ac nid y Toriaid sy’n gyfrifol am LCO gwan. Felly pam fod Plaid Cymru wedi ymosod ar y Ceidwadwyr yn hytrach na Llafur ddoe?

    Mae’r ateb yn syml. Oherwydd eu bod nhw mewn clymblaid gyda Llafur. Mae hyn yn symbol o’r erydu sydd wedi bod ar yr egwyddorion craidd ymysg cenedlaetholwyr yng Nghymru. Methir a gweld gan arweinwyr gwleidyddol y mudiad cenedlaethol bellach beth yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gyfiawn ac anghyfiawn. Yr hyn sy’n gyfiawn yw fod pobl Cymru a rheolaeth dros eu tynged, y mae hyn yn amlwg i’r Cristion. Ond mae popeth yn llwyd bellach a hynny oherwydd fod cenedlaetholwyr wedi cydio yn awenau llywodraeth drwy ddrws cyfaddawd.

    ReplyDelete