12/10/2009

Yr Hen Blaid Fach Annwyl, neu'r Blaid Fach Gâs?

Mae'n rhaid derbyn bod llywodraethu, yn aml, yn golygu gwneud dewisiadau caled. Mae gwneud penderfyniadau amhoblogaidd, weithiau, yn anorfod.

Mae'n rhaid cau ysgolion annwyl i gymuned, ond prin ei ddisgyblion. Mae ambell i dy bach yn costio mwy na'i werth i'r gymdeithas a'r diwydiant twristiaeth. Mae ambell i gartref hen bobl yn mynd yn rhy hen i'w hadfer.

Pan fo gwasanaethau o'r fath yn cael eu darfod, o'r herwydd bod eu darfod yn anorfod, bydda ddyn yn disgwyl i blaid y llywodraeth i gydnabod ei fod yn anorfod trist ac i gyhoeddi'r anorfodaeth gyda thinc o dristwch.

Ers etholiadau'r llynedd, mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, a'i chefnogwyr yn y wasg ac ar y we, yn ymddangos fel petaent yn ymhyfrydu ym mhob gwasanaeth cymunedol sy'n cael ei ladd, fel buddugoliaeth dros Llais Gwynedd.

Pe bawn am fod yn garedig, a derbyn bod y penderfyniad i gau a chanoli ysgolion Bro Dyfi yn anorfod, byddwn yn cyhoeddi'r fath beth gyda gwyleidd-dra a chydymdeimlad efo'r cymunedau sydd am golli gwasanaeth cymunedol.

Mae ymfalchïo yn y penderfyniad a'i ddathlu, oherwydd ei fod yn broc yn y llygad i Seimon Glyn a Llais yn gyfoglyd. Ymateb sydd yn gwneud lles i Lais a drwg i'r Blaid.

Hwyrach bod bywyd yn haws i Lais Gwynedd, sydd ddim ond yn bodoli fel gwrthblaid yng Ngwynedd, ond mae'n rhaid i Blaid Cymru Gwynedd sylweddoli ei fod yn rhan o Blaid Cymru Cymru Gyfan.

Pan fo Cynghorwyr y Blaid yng Ngheredigion ac ar Fôn, ym Mynwy a Morgannwg, ym Mhenfro ac yn Sir y Fflint yn ceisio amddiffyn eu cymunedau mae'n rhaid i Blaid Cymru Gwynedd ymateb mewn ffordd sydd yn cydymdeimlo a'u cyd aelodau yn yr ardaloedd hynny.

Beth bynnag fo rhinweddau penderfyniadau Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd:

Mae dathlu cau ysgolion fel buddugoliaeth dros Llais Gwynedd
Mae difrïo ymgyrch i gadw tai bach cyhoeddus ar agor
Mae croesawu cau cartrefi hen bobl

Yn gwneud i Blaid Cymru edrych fel Y Blaid Fach Gas, yn hytrach na'r Blaid Fach annwyl ydoedd ugain mlynedd yn ol!

8 comments:

  1. Dduw mawr - mae'n gyfangwbl boncyrs i flaenori toiledau mewn cyfnod lle bydd gwasanaethau gofal, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn gorfod cael eu torri. Mae ymgyrch Louise yn anghyfrifol.

    ReplyDelete
  2. Does dim angen cablu er mwyn gwneud dy bwynt.

    Does dim angen agwedd mor blentynnaidd tuag at dai bach chwaith.

    Rwyt yn dilorni ymgyrch Louise o safbwynt hogyn ysgol gynradd sydd yn gorfod chwerthin tu nol i law o glywed crybwyll yr angen i wneud pî pî neu bŵ pŵ. Bydda ddyn yn disgwyl i brifathro parchus cael agwedd llawer mwy aeddfed tuag at achos hylendid cyhoeddus, ac i sylweddoli bod y gost o beidio a chael tai bach cyhoeddus yn gallu bod yn llawer, llawer uwch na'r gost o'u darparu.

    ReplyDelete
  3. Hmm - efallai nad ydi cabledd yn golygu'r un peth i Babydd nag yw i Weslead - oni bai dy fod yn priodoli dwyfoldeb i Lousie neu'r toiledau.

    'Dwi ddim yn dilorni ymdrech Ms Hughes o safbwynt hogyn ysgol, ond yn hytrach o safbwynt rhywun sydd wedi mynd trwy'r toriadau sy'n cael eu hystyried cymal wrth gymal. Mae hyn yn rhywbeth nad wyt ti wedi ei wneud, neu go brin y byddet wedi gwneud y sylw idiotaidd bod darparu toiledau cyhoeddus yn ddefnydd cost effeithiol o adnoddau prin.

    Gyda llaw - mae obsesiwn efo parchusrwydd arwynebol yn un o nodweddion lleiaf annwyl y traddodiad ymneilltuol.

    ReplyDelete
  4. Ia Cai, idiot ydy unrhyw un sydd yn anghytuno a dy farn gyfyng di; barn sydd wastad yn cael ei selio ar be mae Plaid Cymru yn dweud yn hytrach na be mae synnwyr cyffredin yn dweud.

    Waeth peidio ag edrych ar faint o arbedion sydd am gael eu gwneud, heb ystyried y costau a all codi o gau wasanaeth.

    Yr wyt ti yn gweld tŷ bach cyhoeddus fel rhyw fath o jôc yn hytrach na gwasanaeth sydd yn cyfrannu at hylendid ac iechyd.

    Pe bai bobl yn piso yn dy wrych di neu, yn waeth byth, ar stepen dy ddrws oherwydd bod toiledau'r pentref wedi eu cau, byddet ti ddim yn chwerthin.

    A phe bai achos o gryptosporidiwm hominis yn codi oherwydd bod rhywun wedi defnyddio afon sy'n arwain at gwrs dŵr yfed i wneud ei fusnes oherwydd bod y tai bach ar gau byddai'r gost ariannol a chymdeithasol yn enfawr

    ReplyDelete
  5. Does gan y rhan fwyaf o ddigon o bentrefi ddim toiledau cyhoeddus, a does yna ddim afonydd o garffosiaeth yn rhedeg i lawr y stryd yn y llefydd hynny chwaith.

    Ti heb sylwi?

    ReplyDelete
  6. Chi dal heb fynegi siom na sympathi ynghylch colli gwasanaethau cyhoeddus menaiblog. Pam? Rhy brysur yn ceisio sgorio pwynt?

    ReplyDelete
  7. Tysat ti'n darllen fy mlog yn rheolaidd Huw, mi gaet fy mod wedi mynegi gofid ynglyn a nifer o doriadau - ac yn wir 'dwi wedi dadlau yn erbyn llawer o doriadau.

    Ond ti'n iawn ynghylch y toiledau - fedra i ddim cael fy hun i boeni am rheiny. Sori.

    ReplyDelete