28/09/2009

Pydredd Llafur yn broblem i'r Blaid

Newydd edrych ar bost diweddaraf Cai ac wedi fy synnu ei fod o'n ymosod ar Gwilym Euros am feiddio dweud bod angen etholiad buan i gael gwared â'r Llywodraeth bresennol.

Rwy'n credu bod y polau piniwn y mae Cai yn eu crybwyll yn adlewyrchiad teg o farn pobl yr ynysoedd hyn. Mae pawb ond y selogion selocaf wedi cael llond bol a'r llywodraeth bresennol. Yr unig ddewis ymarferol, o dan y gyfundrefn bresennol, yw llywodraeth Ceidwadol i ddisodli llywodraeth Brown.

Gan nad ydwyf yn rhannu casineb cynhenid chwith Plaid Cymru tuag at geidwadaeth dydy hyn ddim yn broblem fawr i mi nac, fe ymddengys, i Gwilym Euros. Ond mae o'n rhoi chwith Plaid Cymru mewn cyfyng gyngor. Cyfyng gyngor y mae post Cai yn ei hadlewyrchu.

Mae Gwilym a fi am weld diwedd i lywodraeth bwdr y rhyfeloedd anghyfreithlon, llywodraeth bwdr yr arian am arglwyddiaeth y llywodraeth bwdr sy'n ymosod ar hawliau dynol ac ati.

Yr hyn bydd yn dod a'r llywodraeth bwdr yma i ben o dan y drefn Unoliaethol bydd buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr.

Trwy dynnu tafod a galw enwau budron ar y sawl sydd am weld diwedd ar y llywodraeth bwdr, yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei wneud yw cefnogi'r llywodraeth Lafur a'i phydredd (pydredd y mae'r Blaid wedi bod yn flaenllaw yn ei ddatgelu a'i wrthwynebu ers 1997!). Prin fod fantais etholiadol yn y fath sefyllfa.

Mae problem Plaid Cymru yn un o'i wneuthuriad ei hun, problem sy' ddim yn cael ei rhannu gan ei chwaer blaid yn yr Alban.

Mae'r SNP yn cynnig ateb amgen i Bydredd Llafur Prydain v Yr Anghenfil Tin-flewog Dorïaidd Prydeinig sef annibyniaeth oddi wrth y drefn wleidyddol Brydeinig.

Pe bai Plaid Cymru wedi sefyll yn gadarn dros annibyniaeth ers 1979 yn hytrach na chael ei hudo gan broses esblygol datganoli byddai'r Blaid yn gallu cynnig ateb amgen i bobl Cymru hefyd.

8 comments:

  1. Er chwilio fedra i ddim dod o hyd i ymysodiad ar Gwilym Euros na neb arall.

    ReplyDelete
  2. Ond dydi'r Blaid ddim yn cefnogi Llafur yn San Steffan - dim ond yn y Cynulliad ac, ydi, mae'r cyd-destun yn wahanol. P'un a effeithir arni oherwydd amhoblogrwydd Llafur cawn eto weld.

    Yn anffodus, ar lefel Brydeinig, cyfnewid un llywodraeth fethedig am un arall a wnawn. Synnwn i'n fawr petae pethau fawr wahanol tasa'r Ceidwadwyr wedi bod mewn grym am y 12 mlynedd diwethaf.

    ReplyDelete
  3. Mae ymateb Cai i fy edefyn yn un dwi'n ddisgwyl erbyn hyn. Mae ganddo deurngarwch dall i'w Blaid ac yn amlwg allan o gyswllt efo realiti gwleidyddol sydd yn ein gwynebu ni yn San Steffan. Nid wyf yn rhoi sel bendith o unrhyw fath i David Cameron, serch hynny mae'n anodd iawn gen i gredu y bydd o a'r Toriaid fawr gwaeth na'r Llywodraeth llwfr yma sydd yn amlwg wedi colli eu ffordd yn llwyr.
    Mae'n ddrwg genai anghytuno gyda HOR hefyd, mae ei ddadl o'n wan iawn ac yn dod a ni'n ol at y cyd-destyn roedd Dyfrig yn son amdano yr wythnos diwethaf a Cymru'n Un.

    ReplyDelete
  4. Ond dydi hi dweud bod y cyd-destun yn wahanol ddim yn 'ddadl', Gwilym, mae'n ffaith. Yr unig ffordd o newid hynny ydi drwy ddod â rhagor o rym i Gymru (dwi'n siwr y gallwn oll gytuno ar hynny) - ac yn y cyd-destun sydd ohono dwi'n amau efallai mai Llafur ydi'r 'best bet' o ran gwneud hynny.

    ReplyDelete
  5. Mae'n wir ddrwg gennyf am wneud cam a thi Cai. Moes ymgrymaf mewn sachliain a lludw fel ymddiheuriad am gam ddarllen y frawddeg:
    "mae Llais Gwynedd wedi galw ar y creadur i ymddiswyddo, er mwyn i'r Torïaid gael dod i rym yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach."
    fel ymosodiad ar Lais Gwynedd am gefnogi'r Torïaid.

    Mae'n amlwg nad yw'r frawddeg a'r linc i bost Gwilym yn ddim byd ond cofnod diduedd o hanes y dydd!

    ReplyDelete
  6. HoR - Cytuno 100% ein bod ni angen mwy o bwyerau i Gymru...amser a ddengus pwy ydi'r Best Bet am hynny...pryder mwya sydd gen i ar hyn o bryd ydi gyda'r sector gyhoeddus yn gwynebu torriadu enfawr o dy'r Cynulliad oherwydd setliad gwael gan San Steffan fydd pobl Cymru yn barod i bleidleisio IE mewn refferendwm, Dwi'n clywed ambell i berson yn cwestiynu gwerth y Cynulliad sydd yn drist ond yn rialiti...tydw ddim yn gweld refferendwm yn cael ei gynnal cyn 2011 neu os bydd o, mae peryg gwirioneddol yn fy marn i y wnawn ni golii'r dydd...be 'di'ch barn chi?

    ReplyDelete
  7. Wel, mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu mai ennill y byddwn ni - a dwi'n meddwl y bydd tystiolaeth y Confensiwn yn cyfleu hynny - ac yn bersonol dwi yn gweld refferendwm yn 2010 pan fydd y Ceidwadwyr i mewn - os maen nhw'n caniatáu i ni gael un, sydd ymhellach o fod yn sicr!!

    A rhaid cofio hefyd bod llywodraeth Geidwadol yn fwy tebygol fyth o dorri ar wariant cyhoeddus, a chyda hynny cyllid y Cynulliad, na hyd yn oed Llafur.

    ReplyDelete
  8. HRF - dydi'r sylw ddim yn ymysodiad ar GER - mae'n ymysodiad ar ei safbwynt. Mae'r ddau beth yn wahanol. Mae'n gwbl briodol i ymosod ar safbwyntiau pobl - felly mae trafodaeth wleidyddol yn gweithio.

    ReplyDelete