13/09/2009

Pwy oedd un Tryweryn?

Yn ei araith i Gynhadledd y Blaid y 'pnawn 'ma fe ddwedodd Adam Price AS rhywbeth yr wyf wedi clywed sawl gwaith o'r blaen, sef bod y cyfan ond un o ASau Cymru wedi pleidleisio yn erbyn boddi Capel Celyn. Dwi ddim yn cofio clywed erioed pwy oedd yr un a bleidleisiodd o blaid, ac rwy'n methu cael hyd i'w enw ar lein nac mewn llyfr. Oes unrhyw un yn gwybod pwy oedd y dihiryn?

10 comments:

  1. Mae gen i frith gof mai aelod Toriaidd o Gaerdydd oedd o. Mi dria i ffeindio allan - mae'n gwestiwn da.

    ReplyDelete
  2. Hmm - gen i gof bo un o'r aelodau yn dost...

    ReplyDelete
  3. "Also in the north we have the majestic scheme known as the Tryweryn scheme, which was put forward by the 65 Liverpool Corporation in its Measure. In my view, that scheme, when it is implemented, will be of great material benefit to Wales and Merseyside.
    I should not like the Minister for Welsh Affairs to be under any misapprehension or to be misled by some of the clamour against that Measure. I want him to know that many hundreds of thousands of Welshmen, who are not always as articulate as is supposed, are grateful, and will be increasingly grateful as the years go by, for his guidance and for his standing firm against misguided romantics, Anglophobe nationalists and others who have made his task needlessly difficult. I congratulate him on his courage, courtesy and devotion to the best interests of Wales" Hansard
    Hmmm y ffefryn yw David Llewellyn (Gogledd Caerdydd) - dal yn chwillio am y bleidlais.

    ReplyDelete
  4. Anonymous5:42 pm

    Atal ei bleidlais wnaeth yr un, dwi'n meddwl...

    ReplyDelete
  5. Anonymous10:41 pm

    Wedi ffindio y bleidlais ar yr ail ddarlleniad ond yn methu postio'r ddolen...Mr Llewellyn yn absennol.

    Dewi

    ReplyDelete
  6. Ddim yn dangos y bleidlais, ond mi roedd gan David Llewellyn ddigon i ddweud am y mater (gobeithio bod y ddolen yn gweithio)

    ReplyDelete
  7. Diolch o galon i chi gyd am yr holl ymchwil ac am yr ateb i'r cwestiwn . Mae'n amlwg o'ch ymchwil bod Mr Llywelyn o blaid y cynllun, ond er gwaethaf hynny, nid oedd ganddo'r dewrder i bleidleisio o'i blaid.

    Ond mae'n rhyfeddod mae'r hanes llawr gwlad yw bod pob AS ond un wedi pleidleisio yn erbyn y boddi yn hytrach na'r naratif cryfach bod dim un AS Cymreig wedi pleidleisio o'i blaid

    ReplyDelete
  8. Wrth geisio canfod mwy am hanes David Llywelyn ar y we, cefais wybod Mae David Llywellyn yw Gweinidog Dŵr Tasmania bellach!

    ReplyDelete
  9. Anonymous8:07 pm

    Yr unig Dai Llewelyn allai feddwl amdano oedd y diweddar 'socialite' yng Ngogledd Caerdydd safodd dros UKIP dwi'n meddwl yn Etholiadau diwethaf y Cynulliad? Boi buodd yn byw rhan fwyaf o'r amser yn Llundain tan ei farw'n eitha diweddar?

    ReplyDelete
  10. Anonymous11:29 pm

    Roedd David Llewellyn AS Caerdydd 1950-1959 yn frawd i'r neidiwr ceffylau Syr Harri Llywelyn a gan hynny yn hen ewyrth i'r Syr Dai Llewellyn a safodd dros UKIP yn etholiadau'r Cynulliad

    ReplyDelete