11/08/2009

Plwyfoldeb a Chenedlgarwch

Dyma'r rhan gyntaf o ymateb i rai o’r sylwadau ar fy mhost diwethaf a rhan gyntaf fy ymateb i ymateb i bost Cai ar fy sylwadau.

Yn gyntaf rhaid nodi mae fy mwriad oedd ceisio gwneud sylwadau gwrthrychol diduedd ar obeithion Llais Gwynedd yn dilyn cyhoeddiad Llais ei fod am sefyll ymgeiswyr yn etholiad 2011. Doedd dim bwriad cefnogi na gwrthwynebu Llais na Phlaid Cymru yn y post.

Pe bawn yn byw yng Ngwynedd adeg etholiadau'r cyngor sir llynedd, teg dweud, y byddwn, fwa' tebyg, wedi bwrw pleidlais i Lais Gwynedd, pe bai aelod o Lais yn sefyll yn fy ward. Ond fel mae'n digwydd yr wyf yn byw yng Nghonwy, mewn ward lle'r oedd dewis rhwng fy hen gyfaill Graham Rees (annibynnol) a dau nad oeddynt yn byw yn y plwy. Yr annibynnwr cafodd fy nghefnogaeth lwyraf.

Yr wyf yn teimlo'n gynnes tuag at Llais Gwynedd am y rheswm syml bod rhai o'r bobl a fu'n ysbrydoliaeth i fy nghenedlaetholdeb i wedi troi oddi wrth y Blaid tuag at Llais. Seimon Glyn, Alwyn Gruffudd, Now Gwynnys, Gwilym Euros a Dafydd Du - er enghraifft. Mae unrhyw un sydd yn ceisio honni nad cenedlaetholwyr hyd fêr eu hesgyrn yw'r gwroniaid hyn yn siarad trwy dwll ei dîn!

Iawn, rwy’n fodlon derbyn bod ambell i gefnogwr i, ac ambell i aelod o Lais Gwynedd yn amheus eu hymrwymiad i'r mudiad cenedlaethol - un neu ddau yn embaras i'r achos, hyd yn oed. Ond gallwn restru aelodau a chefnogwyr tebyg sydd ar ymylon pob plaid wleidyddol gan gynnwys Plaid Cymru!

Pan ymunais i a Phlaid Cymry ym 1979 roedd yn Blaid a oedd yn credu yn gryf mewn amddiffyn y cymunedau Cymreig.

Wrth ganfasio dros Dafydd El yn etholiad Ewrop tua 1989 roedd y Blaid yn canfasio yng Nghlwyd o dan sloganau megis "Home Rule for Rhyl" "Freedom for Fflint" ac ati. Hynny yw roedd cenedlaetholdeb a phlwyfoldeb yn mynd llaw yn llaw.

Pan oedd y Blaid yn wneud yn dda ym Mhontypridd, Caerffili ac ati roedd yn gwneud yn dda ar sail amddiffyn y gymuned leol yn erbyn pwysau canolog.

Problem datganoli i Blaid Cymru yw ei fod wedi gwneud i'r Blaid dechrau edrych ar Gymru fel y darn unedig o dir o dan ymreolaeth y Cynulliad, yn hytrach na chymdeithas o gymunedau sy'n cydweithredu o fewn y Cynulliad.

Mae'r sylw nad oes modd i Lais Gwynedd a Llais Pobl Gwent cydweithredu oherwydd nad oes modd i Seimon Glyn a Paul Starling cydweithredu yn adlewyrchiad pur o broblem Plaid Cymru. Sut bod modd cysoni neges Leanne Wood (sydd a neges burion i'r gymdeithas y mae hi'n byw ynddi) a neges Phil Edwards yng Nghonwy wledig, lle fydda neges Leanne yn wermod pur?

4 comments:

  1. Rhaid i mi ddweud dwi'n falch iawn o weld Gwilym Euros yn dweud yn y neges flaenorol na fyddai byth yn rhannu llwyfan efo Paul Starling!

    Ond, er gwaethaf popeth, mae gan, er enghraifft, Phil Edwards a Leanne Wood nod cyffredin - Cymru annibynnol a diogelu'r iaith Gymraeg (er bod LW yn obsesd efo sosialaeth yn hytrach na dim arall, ond ni ellir tynnu oddi ar y ffaith ei bdo yn credu ym mhrif nodau'r Blaid), sef rhywbeth mi dybiaf nad ydi'r ddau Lais yn ei rhannu, a dyna pam mi dybiaf na fyddai unrhyw fodd iddynt gydweithio.

    Fedra i ddim anghytuno efo dim arall yr wyt wedi'i ddweud. Mae fy nghenedlaetholdeb i yn deillio o'm brogarwch yn fwy na dim byd arall dwi'n meddwl, er na fyddwn innau yn pleidleisio dros blaid ranbarthol ac yn sicr ddim Llais Gwynedd.

    ReplyDelete
  2. (gyda llaw dwi byth wedi amau na fyddai pobl fel Gwilym Euros yn rhannu llwyfan gyda rhywun fel Paul Starling, ond mae'n enghraifft berffaith o bam na all y ddwy blaid gydweithio)

    ReplyDelete
  3. 'Dwi'n gobeithio nad oes yna gamddealltwriaeth fan hyn - does gen i ddim problem efo brogarwch - 'dwi mor blwyfol a neb mewn rhai ffyrdd.

    Fy mhroblem i ydi pan mae pobl yn troi plwyfoldeb yn ffocws eu gwleidydiaeth. Mae hynny'n tanseilio'r cysyniad o Gymru fel gwlad.

    ReplyDelete
  4. Y drafodaeth orau ar y blogosffer Cymraeg ers tro byd. Dwi wedi gwneud fy nghyfraniad ar fy mlog i http://stwnsh.com/ymfgfn

    ReplyDelete