02/08/2009

Ewch dros yr hen, hen hanes!

Yr wyf yn byw yn Llansanffraid Glan Conwy, pentref yr ochor arall i’r dŵr i’r dref gaerog.

Roeddwn yn sefyll tu allan i’r dafarn leol yn cael mwgyn gyda chyfaill cenedlaetholgar y dydd o’r blaen, ac fe ddywedodd fy nhgyfaill ei fod am roi’r gorau i ysmygu gan fod cael mygyn efo peint, bellach, yn codi cyfog arno. Doedd o ddim yn poeni yn ormodol am effaith corfforol yr ysmygu, ond roedd y ffaith ei fod yn gorfod edrych ar y symbol o ormes ar draws yr afon bob tro yr oedd yn mynd allan am ffag yn effeithio ar gyflwr ei enaid Cymreig!

Yn bersonol, nid ydwyf yn gweld Castell Conwy fel symbol o ormes. Rwy’n ei weld o fel symbol o fethiant. Pan adeiladodd Iorwerth ei gadwyn o gestyll o amgylch y Gogledd dyna oedd wariant milwrol fwya'r byd yn ei ddydd. Gwerth biliynau lawer o wariant, yn nhermau ariannol cyfoes, i geisio rheoli ni hogs y gogs!

Prawf bod Iorwerth druan yn gwisgo trywsus brown wrth feddwl am y Cymry!!! Ond baner pwy sydd yn chwifio uwchben ei gestyll mwyach? Cynulliad pwy sydd yn gyfrifol am reoli’r castell!?

Symbol o ormes?

Twt lol botas - mae’n symbol o fethiant y Sais a dyfalbarhad y Cymry Ry’n ni yma o hyd!

Nepell o Gastell Rhuddlan (un arall o gestyll y gadwyn) mae yna blac, sy’n honni bod Cestyll Iorwerth yn symbol o ryddid a hawliau'r Cymry. Oherwydd 1282 yr ydym wedi derbyn bendithion Magna Carta, Mam y Seneddau, Democratiaeth a hawliau dynol a phob dim arall sydd yn rhoi'r mawredd ym Mhrydain Fawr:



I’r mwyafrif dydy Castell Conwy dim yn symbol o ddim. Mae’n safle o ddiddordeb, mae’n teth buwch i’w godro ar gyfer twristiaeth; dim mwy dim llai.

Pa un ohonom sy’ gywir?

Yr un sy’n gweld symbol gorthrwm, neu’r un sy’n gweld goroesiad; yr un sy’n gweld rhyddid neu’r un sy’n gweld arian?

Y gwir yw bod pob un ohonom yn gywir. Yr hyn sydd yn ein gwahanu yw ein naratif parthed y ffeithiau yn hytrach na’r ffeithiau academaidd hanesyddol.

Mae’r drafodaeth ar reilffyrdd wedi fy synnu braidd, nid oherwydd y dadlau am y cledrau yn benodol, ond am yr ymosodiad ar fy naratif hanesyddol. Rwyf yn beryglus yn ôl Rhydian, y rwyf yn ymdebygu i Mr Mugabe yn ôl Cai!

A phaham?

Oherwydd fy mod yn dewis dilyn naratif Syr O. M Edwards, Gwynfor Evans a Dafydd Iwan am hanes Cymru, yn hytrach na derbyn naratif Sosialaidd am ddioddefaint y werin datws o dan bob cyfundrefn!

I ba beth mae’r Blaid yn dod - wir yr?

3 comments:

  1. Twt, twt paid a bod mor groen dennau am pob dim wir Dduw.

    'Doedd y cyfeiriad at Mugabe ddim yn ymysodiad arnat ti - sylw oedd bod elfennau ol drefedigaethol yn gwneud defnydd o naratif syml o erledigaeth pan maent mewn sefyllfa o wendid.

    Os wyt ti'n meddwl bod fy nhruth yn un sy'n argymell naratif Sosialaidd, fedra i ond ysgwyd fy mhen mewn rhyfeddod ac awgrymu dy fod yn darllen y darn eto.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn12:22 pm

    Alwyn,

    Naratif DI yw ein bod "yma o hyd, er gwaetha pawb a phopeth". Ydym. Dwi yn credu fod hynny yn fuddugoliaeth mawr iawn i ni'r Cymry.

    Fy nadl yw bod rhaid i ni beidio a gadael i unrhyw naratif reoli ein polisi. A oedd y naratif am ormes y Sais yn ddefnyddiol? Wrth reswm, a mae'n rhannol wir. Rhannol oherwydd nad yw'n dweud y stori llawn. Roedd polisi Prydain Fawr yn ddylanwad ar fasnach mewnol Cymru dros y canrifoedd, ond mae llawer mwy iddi.

    Mae anwybyddu hynny, gan ganolbwyntio ar un naratif, yn beryglus gan y gallai ein arwain i feddwl mai annibyniaeth yw'r unig amcan. Mae patrymau economaidd sydd wedi eu sefydlu dros ganrifoedd yn golygu mai ennill annibyniaeth i Gymru fyddai'r gam cynta' wrth geisio ail-leoli economi Cymru.

    Ar naratif sosialaidd, ni welaf lle rwyf innau na menaiblog yn argymell hwn - y cwbl sydd gen i nad yw naratif yn ddigon i wneud polisi rhesymegol. Er ni fedraf ddadlau am ddioddefaint y werin o dan pob cyfundrefn - cyn tatws a'n fwy diweddar hefyd. Yn wir, doedd Owain Glyndwr ddim yn sant, er ei fod yn symbol defnyddiol - a mae'n debyg fod hynny'n wir am y rhan fwyaf o dywysogion Gwynedd a'r pobl o'u cwmpas.

    ReplyDelete
  3. Mae profiad personol yn awgrymmu i mi bod postio unrhyw beth ynghylch rheilffyrdd, cywirdeb iaith neu ddawnsio gwerin yn beryg bywyd!

    ReplyDelete