08/07/2009

Y Fathodyn Glas

Mae fy ngwraig yn defnyddio cadair olwyn, mae ganddi fathodyn glas sydd yn caniatáu iddi i barcio mewn parthau parcio dynodedig ar gyfer pobl sydd yn byw efo anabledd.

Yn ddyddiol, bron, yr wyf yn gorfod wynebu'r broblem o fethu a'i chynorthwyo i mewn i'r gadair olwyn oherwydd bod y parthau parcio sydd â lle i agor drws y car yn ddigon llydan wedi eu dwyn gan bobl iach o gorff.

Ar sawl achlysur yr wyf wedi methu cael lle parcio anabl mewn archfarchnadoedd a swyddfeydd, ac wedi gorfod gadael fy ngwraig yn y car, yn hytrach na'i bod hi yn dod efo fi i gyflawni'r dyletswyddau yr oeddem wedi eu bwriadu eu cyflawni ar y cyd.

Yr wyf wedi cael llond bol o gwyno i fan swyddogion sydd yn cydymdeimlo, ond yn dweud nad oes modd iddynt wneud dim parthed y broblem.

Ychydig flynyddoedd yn ôl fe welodd fy mrawd yng nghyfraith car heddlu yn defnyddio lle parcio i'r anabl yn y Bala. Tynnodd llun o'r car a'i ddanfon i'r Daily Post i gwyno. Cafodd cefnogaeth i'w gwyn gan gynghorwyr ac Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys Plaid Cymru.

Nid mater pleidiol yw parcio mewn parth anabl heb hawl. Mae'n achos o hunanoldeb ac ymddygiad anystyriol sy'n ddangos diffyg parch i anghenion y sawl sy'n byw efo anabledd. Mae pob cyhoeddusrwydd sydd yn codi proffil y broblem yn gyhoeddusrwydd da. Gan hynny yr wyf yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Gwilym Euros am godi'r achos.

Os ydy o'n wir fod Dafydd Iwan wedi parcio, heb achos, mewn parth anabl roedd ei ymddygiad yn anghywir. Dydy'r ffaith ei fod yn eicon cenedlaethol, dydy'r ffaith ei fod yn arwr gwladgarol, dydy'r ffaith ei fod yn Llywydd Plaid Cymru yn newid dim ar y ffaith bod parcio yn y parth yn annerbyniol. Os ydy'r honiad yn gywir y peth gorau i Dafydd ei wneud ydy syrthio ar ei fai, ymddiheuro ac addo i beidio â gwneud yr un peth eto.

Y peth gwaethaf i gefnogwyr Plaid Cymru fel Cai a Rhydian eu gwneud yw ceisio esgusodi'r fath ymddygiad di-hid i anghenion pobl sy'n byw efo anabledd.

Rhai o'r sylwadau mwyaf ffiaidd yr wyf wedi eu darllen ar flog Gwilym yw rhai gan bobl anhysbys sydd yn honni bod pethau pwysicach i'w trafod. Pan nad oes modd i ddynes gwneud rhywbeth mor hanfodol a siopa i brynu bwyd i'w plantos, oherwydd bod y parthau anabl wedi eu llenwi gan bobl diystyrlon - does 'na ddim byd pwysicach yn y byd i gyd iddi.

8 comments:

  1. Dim yn meddwl bod neb wedi amddiffyn pobl iach sy'n parcio mewn llefydd i'r anabl - nac yn amddiffyn DI os mai dyna wnaeth (pwy ag wyr ar hyn o bryd o ddarllen popeth!). Beth sy'n bathetig ydi Gwilym Euros yn cymryd llun ohono ac yn ei osod ar ei flog. Rwan, fedra i ddim meddwl bod hynny'n ddim mwy na sgoriau pwyntiau yn erbyn gwrthwynebydd gwleidyddol.

    Tasa'r dyn wirioneddol yn poeni ac yn teimlo'n gryf am hyn dwi'm yn amau mai'r hyn a fyddai wedi'i wneud ydi dweud wrth y person/awdurdod priodol (yr heddlu efallai? ddim yn hollol siwr). Ond gan mai tynnu llun wnaeth a'i osod ar flog cyhoeddus alla i ddim meddwl ei fod yn ddim ond am ffordd hawdd o ddenu cyhoeddusrwydd yn erbyn un o aelodau amlwg PC.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn9:15 am

    Alwyn: Fel person anabl sydd wedi defnyddio cadair olwyn ers fy mhlentyndod, teimlaf fod gen i hawl i wneud sylw yma. Os oedd Dafydd wedi dwyn y lle, ni wnaf ei amddiffyn bellach wrth gwrs - rwyf yn wynebu'r un broblem a dy wraig, ac yn cytuno ei fod yn cynddeiriogi rhywun!

    Ond mae'r man lle mae Dafydd wedi parcio yn "reserved" i un car rhif "XXX". Dydi o ddim yn agored i'r anabl fel mae Gwilym yn dadlau. Pan nad yw gyrrwr cerbyd XXX yn y lle, mae'n cael ei ddefnyddio i eraill trwy wahoddiad. Dwi yn gwybod hyn - dwi wedi parcio yn y llefydd yn aml.

    Mae Dafydd wedi dweud wrthyf ei fod wedi cael ei wahodd i barcio yno - a does gen i ddim rheswm i beidio a'i goelio. Os ydi o'n trooi allan ei fod wedi "dwyn" y safle, gwae fo - mi geith e-bost blin iawn gennyf. Ond "innocent until proven guilty" 'de.

    Y peth gorau i Gwilym wneud fyddai cwyno i'r dderbynfa. Lle parcio Cyngor yw hwn, gyda llu o wardeni traffic yn y cefndir.

    ReplyDelete
  3. Dydi'r sylw ynglyn a'r hyn a ddywedwyd gan Rhydian a minnau ddim yn deg Alwyn.

    'Dydi'r naill na'r llall ohonom yn dweud dim sy'n esgusodi'r arfer o barcio mewn parthau bathodyn glas - mae Rhydian yn gwneud defnydd mynych o lefydd felly. Roeddwn innau hefyd ar un cyfnod - ym mlynyddoedd olaf bywyd fy nhad yng nghyfraith roedd wedi i gaethiwo i gadair, ac roeddwn yn aml yn ei yrru o gwmpas. 'Dwi'n hollol ymwybodol o pam mor blydi niwsans ydi pobl sy'n parcio mewn llefydd na ddylent.

    Hoffwn hefyd nodi bod y sefyllfa'n fwy cymhleth na mae'n ymddangos ym mlog Gwilym - mae unrhyw un sydd yn gyfarwydd a'r lle yn gwbl ymwybodol bod nifer o'r llefydd wedi eu clustnodi ar gyfer ceir penodol. 'Dwi ddim yn gwybod pam mor briodol ydi cymryd 'benthyg' y slots gan eu perchnogion - ond mae'r sefyllfa'n gwahanol i un lle mae lle sydd wedi ei ddarparu ar gyfer pobl anabl yn gyffredinol wedi ei flocio.

    Y pwynt oeddwn i yn ei wneud oedd ynglyn a chymhelliad Gwilym. Os oedd yna le i'r anabl wedi ei flocio gan gar oedd wedi ei barcio yn anghyfreithlon go iawn roedd datrysiad cwbl syml - dweud wrth y Cyngor Sir - mae'r lle dan sylw ar dir y Cyngor, ac mae'n cael ei reoli gan y Cyngor. Gallent fod wedi dod a'r mater i ben yn y fan a'r lle.

    Modd aneffeithiol o ddatrys y broblem benodol honno oedd mynd a'r peth at y papur newydd a phostio llun ar flog. Wnaeth goslef ysgafn y sylwadau gwreiddiol ddim llawer i argyhoeddi dyn bod Gwilym yn cymryd y peth gormod o ddifri.

    Wedi dweud hynny, 'dwi'n ddigon parod i gymryd fy nghywiro a derbyn fy mod wedi gwneud cam argraff. Os aeth Gwilym i gwyno wrth y Cyngor yn y fan a'r lle yn ogystal a thynnu lluniau ac ati mae'r sefyllfa'n gwahanol.

    ReplyDelete
  4. Anonymous10:17 pm

    Fedrwch i byth amddiffyn rhywyn sydd wedi gweithredu yn anghywir. I ddechrau, er fod yna rif cerbyd defnyddiwr i fyny yno, mae yna fathodyn glas sydd yn caniatau i unrhyw un sydd gyda anabledd i barcio yno. Does gan neb sydd ddim yn anabl hawl i barcio mewn llecyn i'r anabl.

    Mae dirwyo wedi'w ddatganoli i'r Cyngor Sir nid yr Heddlu. Maqe datganiad gan Cyngor Gwynedd yn gwadu fod unrhyw un wedi rhoi hawl iddo barcio yno, felly mae rhywyn yn camarwain yma.

    Cangymeriad mwyaf Dafydd oedd peidio rhoi i law i fyny pan iddo gael ei ddarganfod wedi tramwyo, roedd ceisio cyfiawnhau y sefyllfa wedyn yn gwneud pethau yn waeth.

    Diffyg Rhydian a Cai ydi fod haul yn tywynnu o ddyfnderoedd unrhyw aelod Plaid Cymru tra fod eraill yn bobol drwg.

    ReplyDelete
  5. Yn anffodus dydy amddiffyniad Rhydian a Cai dim yn ddal dwr.

    Os yw lle parcio anabl gweithle wedi ei gadw i aelod o staff sydd yn berson anabl, y mae'r lle yn un i'r anabl. Mae'n cael ei chyfrif fel darpariaeth i'r anabl yn ystadegau'r gweithle.

    Os nad yw'r person anabl yn ei ddefnyddio, am ba bynnag reswm, mae'n dod yn lle parcio anabl cyffredinol. Nid oes gan yr aelod o'r staff na'i benaethiaid yr hawl i wahodd person heb fathodyn glas i'w defnyddio. Nid fi sy'n dweud hynny ond y gyfraith.

    Doedd gan DI dim hawl i barcio yno, doedd gan neb yr hawl i'w wahodd i barcio yno Mae'r achos yn un du a gwyn - roedd DI yn rong.

    Rwyf hefyd yn gweld gwendid yn y ddal sy'n cael ei gynnig gan Cai, Rhydian a HoR, mae 'r hyn dyle Gwilym bod wedi ei wneud oedd cwyno i'r awdurdodau yn hytrach na'r wasg.

    Yn gyntaf mae'r adroddiadau yn y wasg yn dweud bod y Cyngor yn ymchwilio i'r mater - sy'n awgrymu eu bod wedi derbyn cwyn. Yn ail, fel y nodais uchod, mae cwyno yn aml yn dda i ddim. Mae cyhoeddusrwydd yn gallu gwneud gwahaniaeth. Does dim cyhoeddusrwydd ar gael am gwyno bod Mrs Jones drws nesaf wedi dwyn lle parcio i'r anabl - mae 'na stori yn y ffaith bod seleb wedi ei ddal yn pechu yn yr un modd. Mae Gwilym wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros achos hawliau'r anabl am flynyddoedd lawer, dyma'r tro cyntaf i un o'i gwynion cael lle amlwg yn y wasg. Prawf ei fod yn iawn i chwilio am gyhoeddusrwydd.

    Ydy Gwilym yn defnyddio'r achos yma am resymau "gwleidydda" dan din? Rwy'n siŵr ei fod o - ond dyna natur gwleidyddiaeth. Pe bai llun o Martin Eaglestone yn parcio yn yr un lle ar gael, ar flog pwy fydda'r llun yna wedi ymddangos gyda bloedd o "warth" tybed?

    ReplyDelete
  6. Fyddai'r llun yn sicr ddim yn ymddangos ar fy mlog i Alwyn.

    ReplyDelete
  7. rhydian fôn9:20 am

    Alwyn: Ti yn gywir am y gyfraith, ar strydoedd. Mae hwn yn lecyn preifat. Mae parcio sydd wedi ei neilltuo am un gyrrwr anabl yn unig am un gyrrwr yn unig - nid yw byth yn agored i neb arall, anabl ei beidio, os nad yw'r staff cyngor yn ei gynnig i rhywun pan nad ydi'r gyrrwr anabl yn ei ddefnyddio.

    ReplyDelete
  8. Nid llecyn preifat mohoni o gwbl, Rhydian, ond llecyn sydd yn eiddo i gorff cyhoeddus. Pob hyn a hyn bydd rhaid i'r corff hwnnw paratoi awdit o'i wasanaethau i bobl sy'n byw gydag anabledd i ddangos ei bod yn cydymffurfio ag gofynion y deddfau cydraddoldeb. Bydd y bae parcio dan sylw yn cael ei gynnwys yn yr awdit fel rhan o'i ddarpariaeth i'r anabl.

    ReplyDelete