26/07/2009

Trenau od

Gan fod gymaint o son am drenau ar hyn o bryd hoffwn ofyn a oes gan unrhyw un ateb i rywbeth sydd yn peri dryswch imi parthed y ddarpariaeth sydd yn bodoli rŵan.

Byddwyf yn mynd ar y trên o Gyffordd Llandudno i Gasnewydd ddwywaith neu dair pob blwyddyn. Ym mhob car ar y trên mae yna focs bach sydd yn hysbysebu’r teithwyr o enw’r stop nesaf. Ar hyd arfordir y gogledd mae’r enwau yma yn uniaith Saesneg, Llandudno Junction, Colwyn Bay, Wrexham, Chirk ac ati. Ond wrth i’r trên teithio drwy Loegr mae’r enwau yn ddwyieithog, Chester / Caer, Shrewsbury / Amwythig, Hereford / Henffordd.

Yng ngorsaf y Gyffordd, gorsaf sydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o Gymry Cymraeg mae’r cyhoeddiadau i gyd yn uniaith Saesneg. Yng Nghasnewydd Seisnigaidd mae’r cyhoeddiadau i gyd yn ddwyieithog.

Gall unrhyw un egluro pam bod y ddarpariaeth Gymraeg nid jest yn anghyson ond mor hynod od o anghyson.

2 comments:

  1. Tybiaf mai rhyw `hangover' yw e o'r dyddiau pan oedd gorsafoedd y gogledd o dan reolaeth First North Western (cyn 2003), tra bod y gweddill dan ofal Wales & Borders.

    ReplyDelete
  2. Diolch GarethDiolch Gareth am yr eglurhad , bydd rhaid imi gael gair bach yng nghlust y gweinidog dros drafnidiaeth i weld os oes modd cael gwared â’r odrwydd ieithyddol.

    ReplyDelete