03/07/2009

Tai Fforddiadwy

Mae'r Cynghorydd Dyfrig Jones yn codi pwnc hynod ddiddorol ar ei flog heddiw parthed Tai Fforddiadwy.

Dydy Dyfrig ddim yn hoffi'r ffaith bod Cynghorydd Llais Gwynedd, Aeron Jones, wedi ddatgan mae "Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy", gan wrthwynebu cais i glirio tomen lechi yn Nhalysarn er mwyn codi stad o dai yno.

Mae Dyfrig yn mynd rhagddi i roi ergyd gwleidyddol i Aeron trwy ofyn A yw datganiad Aeron neithiwr yn golygu fod Llais Gwynedd yn gwrthwynebu polisi Plaid Cymru o sicrhau tai fforddiadwy i drigolion Gwynedd?

Rwy'n gwybod dim am hanes y stad tai dan sylw. Gan nad ydwyf yn aelod o'r naill blaid na'r llall, nid ydwyf yn gwybod dim am bolisïau’r pleidiau ar dai fforddiadwy. Ond mae post Dyfrig yn codi cwestiwn pwysig parthed tai fforddiadwy - sef beth yn union ydynt?

Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlid a sylw Aeron. O'r hyn rwy'n gallu gweld does 'na run ddiffiniad cadarn o be ydy tŷ fforddiadwy yn ynysoedd Prydain. Mae swyddogion cynllunio yn creu canllawiau unigol er mwyn diffinio be ydy tŷ fforddiadwy ond mae'r canllawiau hynny yn gwahaniaethu o gyngor i gyngor.

Ond mae 'na ddiffiniad cyffredinol sydd yn awgrymu na ddyla’ deiliad y tŷ talu rhagor na 30% o'i incwm gros ar rent / taliadau morgais a threthi perchentyaeth (treth y cyngor, treth dŵr ac ati).

O edrych ar gyflogau cyffredinol pobl gogledd orllewin Cymru, roedd rhenti tai Cyngor (cyn eu preifateiddio) yn llawer is na'r diffyniad, mae rhenti'r Cymdeithasau Tai yn ymylu ar ffîn y diffiniad, ond does dim modd o gwbl i brynu tŷ fforddiadwy o fewn y ddiffyniad, hyd yn oed os ydy'r tŷ yn cael ei farchnata o dan y fath label.

Mae yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd i awgrymu bod y tai fforddiadwy, honedig sydd ar werth, ym mhell o fod yn fforddiadwy i lawer o weithwyr cyffredin Cymru ac mae mewnfudwyr yw'r rhai mwyaf tebygol o allu eu fforddio! Sydd yn mynd croes i'r graen braidd, ac yn cadarnhau'r ddatganiad mae Spin llwyr yw Tai Fforddiadwy.

Ac, wrth gwrs, pan fo tai fforddiadwy yn cael eu cynnig fel rhan o ddatblygiad, lleiafswm o'r datblygiad ydynt fel arfer. Rhwng 10% ac 20% yn aml. Sydd yn golygu bod 80-90% o'r tai am fod y tu hwnt i'r hyn mae pobl leol yn gallu eu fforddio. Byddwn i ddim am weld ystâd o dai lle mae 80% i 90% o'r tai yn cael eu cynllunio i fod y tu hwnt i allu'r trigolion lleol i'w prynu yn cael eu hadeiladu yn fy mhentref bach i, diolch yn fawr!

6 comments:

  1. Aeron M Jones6:12 am

    Bore Da Alwyn,

    Roedd y cais gan y Cyngor i glirio tir ym Mhentref Talysarn. Roedd 78 o lythrau yn gwrthwynebu a dim un yn cefnogi y datblygiad gan bobol y pentref (a pentref bach ydi Talysarn beth bynnag. Roedd tua 30 o bobol wedi dod i'r Siambr i gefnogi gwrthod y datblygiad, roedd yr aelod lleol yn erbyn y datblygiad ar y safle hwn ond yn gefnogol fel amryw o drigolion y pentref ar dir arall yn y pentref, gan fod y llecyn hwn yn barc natur o harddwch, gyfochr ag afon ble ceir defnydd gan bysgotwyr.

    Cywir fod ffordiadwy yn gallu bod yn dy £300,000 sydd wrth gwrs ddim yn fforddiadwy, a fel ddywedwyd wrthyf gan Gynghorydd Plaid Cymru ar ol y cyfarfod - roedd o yn cytuno gant y cant efo fi na spin Plaid/Llafur ydi Tai Fforddiadwy gan be sy'n fforddiadwy iddo ef yn wahannol i unigolyn arall.

    Mi wnes hefyd farnu Adran 106 fel wast o bapur. Nid yw'r banciau yn fodlon rhoi Morgeisi i unthyw un ar dy sydd gyda S106. Lle mae'r Cyngor Sir nad ydynt yn lle buddsoddi yn Landsbanki a Heritable ond yn hytrach yn cynnig morgeisi i'r bobol ifanc yn ein plith, mae'r deddfwriaeth yno yn barod i ganiatau hyn.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn12:39 pm

    Roedd gan Aeron ddiddrdeb mawr iawn, personnol bron, mewn tai fforddiadwy yd at yn ddiweddar. Felly pam mae o, yn sydyn iawn, wedi dod i'r casgliad mai 'sbin' ydi tai fforddiadwy?

    Mae'r enw braidd yn niwlog wrth gwrs - fforddiadwy i bwy? Yr ateb yw 'Tai sydd ar gael i’w prynu am bris fforddiadwy, sy’n cyfateb i incymau lleol, prisiau tai a
    chyfraddau llog '. Mae angen mathau gwahanol o dai, wrth gwrs - rhai i'r nifer fawr o bobl yng Nghymru sydd yn byw oddi tan y canolrif inccwm. Ond mae yna dai fel yma ar gael yn barod. Beth sydd ar goll, a sydd yn cael ei ateb gan Adran 106, yw tai sydd yn caniatau'r camau dechreuol o fod yn berchen tŷ. Fel mae blogmenai wedi son, mae'r mater o'r Cyngor yn cynnig morgeisi wrthi yn cael ei drefnu.

    Mae Alwyn yn rhannol gywir fod yna ganran arbennig o dai yn fforddiadwy - 30% fydd y ganran yng Ngwynedd. Ond mae hyn yn gyffredinol yn hytrach nac ei fod wedi ei dargedu at bob un stad o dai newydd sydd yn cael ei adeiladu. Os oes stad newydd yn cael ei adeiladu, rhaid i ganran fod yn fforddiadwy. Os yw'r Cyngor yn sôn am adeiladu stad o dai fforddiadwy, bydd yn stad o dai fforddiadwy yn unig.

    Yn olaf, mae pris tŷ fforddiadwy 30% i 50% yn is na'i werth ar y farchnad agored. Felly mae ffigwr £300,000 y mae Aeron yn e roi i Alwyn yn chwerthinllyd. Fel Aeron ei hun.

    ReplyDelete
  3. Aeron M Jones3:32 pm

    Wel diolch Rhydian am y geiriau caredig. Mae yna dai yng Ngwynedd sydd werth £300,000 ac wedi cael cais cynllunio ojerwydd eu bod yn dai fforddiadwy. Mae'r ddeddfwriaeth wedi bod gan y Cyngor ers hydoedd a does dim un morgais wedi'w roi allan.

    Diffiniad ty fforddiadwy yw fod rhaid iddo gael ei werthu am 30% (nid 50%) o dan pris y farchnad felly fuasai ty sy'n cyfwerth a £300,000 yn gorfod cael ei werthu am £210,000.

    Pam ddoi di llan or cocoon anweledig Plaid Cymru ti'n bw ynddo i fyd go iawn a gweld faint allan yna sy'n dioddef blynyddoedd o gam reoli gan dy blaid yma yng Ngwynedd.

    Gyda llaw pan yn canfasio yn Rhos Isaf ges i ddim y cyfle i ddiolch i chdi, oherwydd roedd dy lythyrau yn cefnogi cau ysgolion bach yn hwb anferthol imi gael fy ethol.

    ReplyDelete
  4. rhydian fôn5:22 pm

    30% yma - 30% i 50% yn gyffredinol.

    Ti'n iawn, mae tai felly. Wedi eu adeiladu gan eu perchenog, nid am werthiant cyffredinol. Dwi yn meddwl fy hun fod angen ail-edrych ar Adran 106 i sicrhau nad ydi pobl sydd eisiau caniatad i adeiladu eu tai yn defnyddio fforddiaadwyaeth i gael eu ffordd. Ond mae hyn yn broblem ar draws y DG, nid Gwynedd yn unig.

    Ond mae cyd-destun dy flog yn awgrymu fod tai 'fforddiadwy' drud yn cael eu adeiladu mewn amgylchiadau eraill. Os yw adeiladwr am werth tŷ 30% yn is na gwerth y farchnad, adeiladwr twp iawn a fyddai'n codi tŷ gyda gwerth uchel ar y farchnad - bydd eisiau sicrhau fod y golled cyn lleied a phossib.

    Dim ond llond llaw o bleidleisiau oedd wedi ennill y ward i ti. Roeddwn yn disgwyl i ti ennill yn haws yn erbyn gwr bonheddig fel Glyn Owen, yn enwedig yn dilyn dy anturiaethau diddorol ar faes-e. Tro nesaf, mi gei di sioc. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld y gwen yn syrthio oddi ar dy wyneb.

    ReplyDelete
  5. Aeron M Jones6:48 pm

    Edrychaf ymlaen i chdi fynd yn fy erbyn I Rhydian bach. Wedyn cawn hwyl.

    ReplyDelete
  6. Rhydian, rwy'n edmygu dy gefnogaeth driw i Blaid Cymru, ond mae cefnogaeth driw i bolisi, oherwydd mae dyna bolisi'r blaid yr wyt yn aelod ohoni yn droedle ar y llwybr i ddistryw.

    Yr wyt yn anghytuno a fi, a Gwilym Euros ac ag Aeron ar y sail nad ydym yn aelodau o Blaid Cymru, yn hytrach nag ar sail dystiolaeth, dadl neu achos. Yr wyt ti o blaid y datblygiad yn Nhalysarn am y rheswm syml bod Aeron yn ei wrthwynebu. Pe bai Aeron o'i blaid mi fyddet ti yn ei herbyn!

    Mae'r amheuon yr wyf fi ac Aeron wedi eu codi am "dai fforddiadwy" yn amheuon sydd wedi eu codi gan Gymuned, Cymdeithas yr Iaith, Plaid Cymru ar gynghorau y tu allan i Wynedd a hyd yn oed gan y Campaign for the Protection of Rural England!

    Fel yr oedd Nain yn arfer dweud mai hyd yn oed cloc sy' di torri yn gywir ddwywaith y dydd. Trwy wrthwynebu popeth mae'r sawl nad ydynt yn aelodau o Blaid Cymru yn eu dweud yr wyt yn gwneud dy hunan yn ffŵl ddwywaith y dydd!

    Rwy'n ddeall dy loes, ond rhaid iti fyw efo'r ffaith bod pobl mewn 13 o wardiau yng Ngwynedd, gan gynnwys dy ward di, wedi ethol cynrychiolwyr o Lais Gwynedd. Dydy pardduo'r bobl yna am eu pydredd a'u brad dim yn mynd i'w hennill yn ôl i achos y Blaid! Mae'n rhaid deall eu gofidion a chytuno a'u pryderon er mwyn eu hennill yn ôl i'r achos.

    Yn yr 13 ward, a wardiau eraill lle mae Llais yn obeithiol am y tro nesaf, byddwn yn tybio bod yna lawer o bobl sydd yn gwybod, o brofiad, bod tai fforddiadwy yn Spin Llwyr. Dydy ymddwyn fath ag estrys sy'n claddu pen pob tro y daw'r gwirionedd o enau wrthwynebydd, ddim yn mynd i newid y ffeithiau moel am allu pobl leol i gael tŷ.

    ReplyDelete