04/07/2009

Llafur Caled Arfon

Mae'r Blog Answyddogol wedi clywed si bod y Blaid Lafur yn wynebu anhawster i gael gafael ar ymgeisydd i ymladd Sedd Seneddol Arfon.

Mae Blog Menai yn mynegi syndod, gan mai sedd ddamcaniaethol Llafur, yw'r sedd newydd.

Y drwg efo'r deiliaid damcaniaethol yma yw bod y ffordd mae'r damcaniaeth yn cael ei phennu yn un hynod anaddas i'r drefn wleidyddol yng Nghymru.

I or symleiddio mae'r system yn edrych ar ddosbarthiad cefnogaeth plaid fesul ward yn etholiadau Cyngor 2004 ac yn defnyddio'r dosbarthiad yna i rannu'r bleidlais a bwriwyd yn etholiad San Steffan 2005 i'r seddi newydd.

Mae'n drefn sydd yn gweithio yn iawn mewn rhannau o Loegr lle mae'r 3 prif blaid yn ymladd canran uchel o seddi cyngor a lle mae pobl yn pleidleisio i'r blaid yn hytrach na'r unigolyn. Prin yw'r wardiau yng Nghymru lle ceir cystadleuaeth rhwng y cyfan o'r prif bleidiau. Yn aml iawn dim ond ymgeisydd i un o'r pleidiau sydd, gyda'r ymgeiswyr eraill oll yn annibynnol. Ac, yn aml, i John Jones Siop y Gornel byddem yn pleidleisio nid i John Jones yr ymgeisydd Rhyddfrydol.

Mae pawb, bron, yn gwybod yn iawn mae sedd gyffyrddus o saff i Blaid Cymru bydd yr Arfon newydd. Mae pawb yn gwybod mai diffyg perthnasedd y system dosbarthu sydd yn gyfrifol am roi Arfon i Lafur. Mae pawb call yn gwybod mae cadw'r sedd bydd Hywel nid ei gipio oddi wrth y Blaid Lafur.

Mae Blog Menai yn nodi bod modd i'r pleidiau mawrion cael rhywun i sefyll mewn sedd anobeithiol fel arfer o'r herwydd mae Etholaethau anobeithiol ydi'r camau cyntaf ar y grisiau i yrfa wleidyddol lewyrchus. Digon gwir. Onid yng ngogledd Cymru fu ornest anobeithiol cyntaf yr enwog Boris Johnson?

Ond mae gan y Blaid Lafur yn Arfon broblem. Mae'n sedd anobeithiol, i bob pwrpas i Lafur, mae pawb yn gwybod hynny - ond mae'r ystadegau yn dweud bydd yr ymgeisydd yn colli sedd sydd yn eiddo i Lafur - gwenwyn i yrfa wleidyddol.

Bu'n rhaid i Martin rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd oherwydd ei swydd newydd fel un o swyddogion y Blaid Lafur. Opsiwn orau'r Blaid Lafur yw chwifio'r rheolau mymryn a chaniatáu i Martin sefyll eto!

Bydd Martin yn colli eto yn llai o sioc na Llafur yn colli sedd, bid siwr?

3 comments:

  1. Diolch am y sylwadau – dwi ddim yn cytuno efo nhw i gyd – ond ti’n codi pwyntiau diddorol.

    Efallai bod angen ychydig o eglurhad ynglyn a natur Arfon cyn cychwyn. Mae hi’n Gymreig iawn o ran iaith (ag eithrio cylch Bangor), ond mae hefyd yn drefol iawn, gyda mwyafrif llethol y trigolion yn byw mewn tref (Caernarfon neu Fangor), neu mewn cyn bentref chwarel (Penygroes, Bethesda, Deiniolen ac ati). Yn yr ystyr yma mae Arfon yn fwy tebyg i Lanelli neu Ddwyrain Caerfyrddin / Dinefwr nag ydyw i Feirion neu Geredigion.

    Mae wardiau trefol yng Nghymru yn fwy pleidiol wleidyddol na rhai gwledig, ac mae hyn yn wir am Arfon. Mae’r arfer o ethol cynghorwyr pleidiol yn llawer hyn yn Arfon nag yw yn Nwyfor neu Feirion, ac mae’n fwy anodd i ymgeisydd annibynnol gael ei ethol yma.

    Mae’n gyfrinach agored i Lafur wneud yn dda iawn yn wardiau Arfon hen etholaeth Caernarfon yn 97, gwnaethant yn well yn 2001. Y rheswm na chollwyd hen etholaeth Caernarfon y tro hwnnw oedd bod wardiau Dwyfor yn hollol gadarn i’r Blaid. Roedd y llanw wedi dechrau troi yn ol yn Arfon erbyn 2005.

    Dim ond dwy ran o dair o Arfon oedd yn hen etholaeth Caernarfon, roedd y draean arall yn hen etholaeth Conwy. Pedwerydd oedd y Blaid yn y fan honno yn 97, 01 ac 05. Ail (i Lafur) oeddynt yn Nyffryn Ogwen yn 2005 a phedwerydd ym Mangor.

    Does gen i ddim mymryn o amheuaeth y byddai pethau’n agos yn 2005 petai’r etholaeth yn bodoli – a ‘dwi’n credu bod ffigyrau’r holl bleidiau yn cadarnhau hynny. Efallai na fyddai Plaid Cymru wedi colli – ond byddai’n agos.

    Mae’r lli wedi troi, ac wedi troi’n sylweddol. Mae nifer o resymau am hyn.

    Yn gyntaf mae yna lawer iawn o bobl mewn tref fel Caernarfon sy’n ddigon hapus i bleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru ond ddim i neb arall. Mae eu pleidlais yn gyfnewidiol ac mae’r llanw wedi troi yn erbyn Llafur ym mhob man.

    Yn ail mae gan y Blaid lawer iawn mwy o adnoddau dynol ac ariannol na Llafur yn lleol. Gwnaed defnydd go iawn o hwnnw yn y misoedd cyn etholiad y Cynulliad 2007, ac fe dorrwyd cefn Llafur yn lleol yn ystod y misoedd hynny. Adlewyrchwyd hynny mewn canlyniadau hollol erchyll i Lafur ar stadau tai mawr Caernarfon a Bangor yn etholiadau lleol 2007. Y stadau hyn ydi’r agoriad i lwyddiant etholiadol yn Arfon. Mae’r pentrefi chwarel yn llai cyfnewidiol. Does dim a ddigwyddodd yn etholiaau Ewrop yn lleol sy’n awgrymu bod sefyllfa Llafur wedi gwella – i’r gwrthwyneb.

    ‘Dydw i ddim yn meddwl ei bod yn debygol y bydd Martin yn dychwelyd am y tro o leiaf. ‘Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud ei fod wedi rhoi’r gorau i’w ymgeisyddiaeth cyn y joban newydd. A ‘dwi’n gwybod fy mod yn gywir i ddweud bod rhesymau eraill am ei benderfyniad

    ReplyDelete
  2. Anonymous6:16 am

    Anghytuno efo Blog Menai mai arnaf ofn. Fedrith Plaid ddim dibynnu ar bleidlais i'r Blaid yn Arfon mwyach.

    Fedrith Llafur ddim chwaith. Does gan Hywel ddim math o brofile. Fydd Caernarfon ddim yn mynd efo Plaid eto, a Bangor wel tydi f honno ddim yn draddodiadol yn Blaid Cymru.

    ReplyDelete
  3. Dwi'n anghytuno efo di-enw uchod - mae'r bleidlais graidd i'r Blaid yn Arfon wedi caledu a chynyddu ers blynyddoedd, wele ganlyniadau'r holl etholiadau ers 2007, ac mae dweud nad oes gan Hywel Williams broffil yn gwbl anwir yn fy mhrofiad i.

    Os mae un ardal o Wynedd y gall PC ddibynnu ar bleidlais gref, Arfon ydi'r rhan honno.

    ReplyDelete