16/07/2009

Ceidwadwyr cenedlgar yn magu dannedd?

Dyma bost geirwir ar flog newydd Ceidwadwyr Aberconwy, sy’n nodi mae celwydd yw pob honiad y bydd refferendwm o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pwerau tebyg i bwerau'r Alban i Gymru. Mae’r post yn cyfleu’r gwirionedd mewn modd sydd yn awgrymu nad oes rhaid i Geidwadwyr sy’n amheus o ddatganoli credu’r ofnau sy’n cael eu lledaenu gan y rhai sydd yn gwrthwynebu datganoli pellach.


Ar CF99 henno fe awgrymodd yr Athro Dylan Jones-Evans mae ffordd dda i lywodraeth newydd Cameron i ddelio efo achos datganoli a’r system eLCO trwsgwl bydda trwy ddatgan ar ddiwrnod cyntaf ei brif-weinidogaeth ei fod am ddileu'r cymal refferendwm a rhoi hawliau ddeddfu cyfynedig i Gymru.

Dau sylw calonogol tu hwnt sydd yn awgrymu bod y Ceidwadwyr cenedlgar yn dechrau brathu nôl yn erbyn eu cyfeillion sy’n gwrthwynebu datganoli.

Braf bydda gael gwybod ar ba ochr bydd y blaid yn syrthio yn “swyddogol”! Ai’r ddau Ddafydd a Stephen fydd llais Ceidwadaeth yng Nghymru a Guto, Dylan a Glyn yn cynrychioli’r rebeliaid, neu a’i fel arall y bydd hi?

1 comment:

  1. Post diddorol, ond dwi ddim yn meddwl bod unrhyw amehuaeth bod ochr 'genedlaetholgar', er diffyg gair gwell, y Ceidwadwyr yn lleiafrif ofnadwy o fach yng Nghymru - ac mae ennill dadl o'r fath yn y blaid Geidwadol Brydeinig yn dasg aruthrol, os nad amhosibl

    ReplyDelete