15/07/2009

Blog y Gath

Newydd ddeall bod y Gath Du, neu Guto Bebb ymgeisydd Ceidwadol Aberconwy, bellach yn rhan o fyd y blogiau.

Gellir darllen ei berlau o ddoethineb yma.

3 comments:

  1. Anonymous11:56 am

    Diolch am y sylw Alwyn.

    O ran cywirdeb dylid nodi nad fy mlog i yw hwn ond blog Ceidwadwyr Aberconwy. Fy mwriad yw rhoi fy new i bob sylw neu bost y byddaf yn ei gyfansoddi fel y gall darllenwyr wybod pa sylwadau sy'n cael ei gwneud gan yr Ymgeisydd Seneddol. Er mwyn sicrhau trafodaeth gyson mae aelodau eraill o'r tîm ymgyrchu hefyd yn gallu cyfrannu fel bo'r angen.

    Yr wyf hefyd wedi gosod link i'th ddau flog Alwyn - gobeithio nad wyt yn meindio!

    ReplyDelete
  2. Anonymous12:03 am

    Oes rheswm pam fod y blog *bron* yn uniaeth Saesneg (o ran rhyngwyneb a chynnwys)? Mae'r toriaid yn gwneud digon o swn o blaid y Gymraeg yn y Cynulliad dyddie 'ma, ond yn anffodus mae eu hymgeiswyr ac aelodau etholedig yn eu gadael i lawr yn gyson trwy gyhoeddi taflenni, posteri a gwefannau gyda ychydig iawn, iawn o Gymraeg (os o gwbl!)

    ReplyDelete
  3. Anonymous9:45 pm

    Eh?

    Mae y tudalennau gwybodaeth cyson yn y ddwy iaith ac fe fyddaf yn postio yn y ddwy iaith

    Guto

    ReplyDelete