09/06/2009

Y rheswm pam bod Etholiad Ewrop yn Drychinebus i'r Blaid

Rwyf wedi fy synnu at faint o sylwadau cas yr wyf wedi eu derbyn ar y flog yma ac ar flogiau eraill am awgrymu bod canlyniad nos Sul yn siomedig ac yn drychineb i'r Blaid.

Fel arfer, y Blaid cafodd fy mhleidlais i. I fynd dan groen Cai mi wnâi frolio hefyd. Mi lwyddais i berswadio mwy na naw o gefnogwyr y Blaid yn Llansanffraid, a oedd am aros adref, i bleidleisio dydd Iau - heb y perswâd yna bydda'r Blaid wedi colli Conwy :-).

Wrth wneud fy narogan mi nodais:

Teg dweud, felly, bod y 160 mil a bleidleisiodd i'r Blaid yn 2004 yn bleidlais graidd gadarn. Pleidlais gall y Blaid dibynnu arni boed glaw neu hindda eleni.


Roeddwn yn anffodus o anghywir, ond roedd sail gadarn i fy nyfaliad. Ym 1994 pleidleisiodd 162 mil i'r Blaid, ym 1999 pleidleisiodd 185 mil i'r Blaid, yn 2004 rhyw ddeugant yn brin o 160 mil oedd bleidlais y Blaid. Mae'n rhaid mynd yn ol ugain mlynedd i 1989 i gael llai na thua 160 mil yn cefnogi Plaid Cymru.

Un o'r pethau mae'r Blaid wedi ymhyfrydu ynddi yw bod modd iddi gael ei phleidlais graidd allan boed glaw neu hindda, fe fethodd i wneud hynny eleni, roedd hi'n 34 mil yn brin o'i bleidlais graidd.

Gyda chefnogaeth y Prif Gelyn, y Blaid Lafur, yn toddi roeddwn yn disgwyl i bleidlais y Blaid i fod yn uwch na'r 200 mil y tro 'ma.

Pam bod hynny heb ddigwydd?

Os na all y Blaid curo Llafur yn yr hinsawdd yma a oes modd iddi wneud o gwbl?

Dallineb a ffolineb o ran cefnogwyr y Blaid yw fy mlacgardio i am godi'r pwyntiau hyn! Maent yn bwyntiau dyla pob cenedlaetholwr, gwerth ei halen, eu dwys ystyried!

2 comments:

  1. 'Dydw i ddim wedi gwneud unrhyw sylwadau cas Alwyn - wedi anghytuno gyda rhan o dy ddadansoddiad ydw i.

    Dydi hynny ddim yn gyfystyr a bod yn gas gobeithio.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn9:58 am

    Dwi heb fod yn gas chwaith Alwyn, a mae'n ddrwg gen i fod pethau wedi ymddangos felly. Mae gen ti bwynt wrth gwrs, a fe oeddwn wedi synnu wrth ganfasio faint o genogwyr y Blaid oedd am aros adra oherwydd y scandal yn San Steffan. Dylem fod wedi llwyddo cael ein pleidlais allan, wrth gwrs. Doedd nifer pleidleisiau'r Toriaid heb newid fawr ddim ers 2004 - eu buddugoliaeth oedd llwyddo cael eu pleidlais allan.

    Dwi yn anghytuno fod yr etholiad yn fethiant i'r Blaid - pleidlais +1.1% - ond yn amlwg mae lle i wella. Ond, fel sosialydd, dwi yn anghytuno gyda dy bresgripsiynau am sut i ennill mwy o bleidlais.

    ReplyDelete