10/06/2009

Y Blogosffêr Gwleidyddol Cymraeg.

Mae'r Blogiau'n ddylanwadol yn ôl Cylchgrawn Golwg.

Mae rhai yn honni bod blogio wedi newid Gwleidyddiaeth yr UDA,

Ond eto byth dim ond pedwar blog Gwleidyddol Cymraeg sy'n bodoli.

Fy Hen Rech Flin

Blog Menai

Y Blog Answyddogol

A Blog Vaughan Roderick.

(O rain, dim ond fy mlog i sydd yn derbyn sylwadau heb eu gwirio, er mwyn annog drafodaeth byw!)

Mae blogiau Pendroni Gwilym Euros a Phlaid Bontnewydd yn rhoi pyst Gymraeg rheolaidd lan ac mae Penri James, Plaid Wrecsam a Pholitics Cymru yn cynnig pyst Cymraeg achlysurol.

Mae Gwenu Dan Fysiau, Yr Hogyn o Rachub a Rhys Llwyd yn trafod y byd wleidyddol yn achlysurol.

Os yw blogio i fod yn rhan hanfodol o wleidyddiaeth y dyfodol, mae di ganu ar wleidydda trwy gyfrwn y Gymraeg yn ôl pob tystiolaeth.

2 comments:

  1. Anonymous12:38 am

    Paid digaloni. Mae gen i sefyllfa fanteisiol sy'n golygu fy mod yn gwneud yn weddol o safbwynt darllenwyr a sylwadau. Yn yr Hydref rwy'n gobeithio y bydd modd i ni yn y BBC roi cythraul o help llaw i flogwyr Cymraeg. Fedrai ddim dweud mwy.
    Vaughan

    ReplyDelete
  2. Dydi o fawr o syndod cofia. Mae'r blogsffêr Cymraeg yn ofnadwy o wan yn gyffredinol, o ran amrywiaeth a nifer y blogiau sydd ar gael, nifer y darllenwyr ac yn sicr nifer y bobl sy'n taro sylwadau. Er, yn bersonol dydw i ddim yn meddwl bod blogiau yn cael effaith enfawr ar wleidyddiaeth yng Nghymru felly dydyn nhw ddim mor bwysig â hynny yn y cyd-destun Cymreig. Byddai rhai yn dadlau fel arall, wrth gwrs!

    ReplyDelete