10/06/2009

Nawr neu fyth?

Ar wahân i ethol aelod o blaid gynhenid wrth Gymreig yng Nghymru, rhoddodd etholiadau Ewrop y sicrwydd sicraf fu nad oes modd i Lafur ennill yr etholiad nesaf i San Steffan.

Yr amser hwn y flwyddyn nesaf bydd Llywodraeth Dorïaidd wrth y llyw yn Llundain. Llywodraeth bydd, bron yn sicr, am wahardd unrhyw alw am refferendwm ar bwerau ychwanegol i'r Cynulliad.

Y rheswm dros gefnogi Cytundeb Cymru'n Un, yn ôl y son, oedd mai dyma'r unig gytundeb oedd yn gallu traddodi refferendwm. Bydd dim modd i Lafur sicrhau refferendwm wedi mis Mehefin 2010, a does dim golwg bydd un yn cael ei gynnal cyn hynny. Felly mae'r prif reswm dros gefnogi Llafur yn y Cynulliad wedi ei nacau.

Rwy'n credu bod dau ddewis gan y Blaid yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni. Mynnu refferendwm RŴAN, neu well byth ail drafod Cymru'n Un ar sail diddymu'r cymal refferendwm yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Heb y naill neu’r llall bydd dim symud yn y syniad o esblygiad datganoli am ddau ddegawd arall.

8 comments:

  1. rhydian fôn2:18 pm

    Alwyn, dwi yn cytuno gyda'r blog yma.

    ReplyDelete
  2. rhydian fôn2:45 pm

    A gaf ychwanegu Alwyn, fod Confensiwn Cymru Gyfan yn adrodd yn ol i'r Cynulliad erbyn diwedd 2009. Fel ti'n dweud rhaid i ni gael cytundeb ar refferendwm cyn dyfodiad llywodraeth Cameron.

    Nid wyf yn cytuno gyda dy baragraff olaf am y rheswm mai dyma'r ffordd i fethu ac ennill refferendwm. Ffordd gwell fyddai sicrhau fod y chwe mis rhwng adroddiad CCG a'r etholiad yn cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau fod San Steffan yn caniatau refferendwm.

    Byddai mynnu refferendwm rwan yn anhebyg o weithio, a'n ffordd da o golli cefnogaeth. Byddai gadael Cymru'n Un tra fod yna obaith o refferendwm yn wan. Os nad oes refferendwm wedi ei gytuno erbyn Mehefin 2010, cawn adael Cymru'n Un yn syth.

    Be' wyt ti'n ei feddwl?

    ReplyDelete
  3. Anonymous5:17 pm

    Mae angen cael Llafur i ddeall mai cynnal AC ENNILL Refferendwm ydi eu 'get out of jail card' nhw yma yng Nghymru. Mae angen sicrhau fod modd cynnal Refferendwm a hynny cyn etholiad Mai 20011 - gall fod ar ddiwrnod yr etholiad. Dyma fyddai orau. Bydd y Ceidwadwyr wedi ennill yn SS a byddant wedi cael blwyddyn o reoli.

    Tra bod hi'n naif i feddwl y bydd Cymru'n wlad di-Dori a fod angen deall y bydd nifer o bobl am i'r Toriaid ennill (a bod felly elfen o fandad Doriaidd yng Nghymru) a bod cyfran o Lafurwyr yn wrth-ddatganoli, dwi'n meddwl y bydd yn argoeli'n dda am bleidlais ie.

    Dwi'm yn maddwl na fydd yn amhosib i gael i Ceidwadwyr i gytuno ac efallai i ymgeisio dros bleidlais Ie mewn refferendwm. Gallwn ddychymygu pobl fel Guto Bebb neu Glyn Davies yn galw am hynny yn rannol allan o egwyddor ond hefyd fel rhan o strategaeth i Gymreigio eu plaid.

    Y peth bwysig yw fod y penderfyniad i gael Refferendwm a'i dyddiad yn cael ei phendefynnu nawr cyn lecsiwn San Steffan.

    ReplyDelete
  4. rhydian fôn10:46 pm

    Anhysbys: da iawn, cytuno'n llwyr.

    ReplyDelete
  5. Fel un sy'n digwydd meddwl bod y cysylltiad hwn a'r Blaid Lafur wedi bod yn un elfen amlwg dros berfformiad siomedig PC yn yr etholiadau Ewropeaidd, bydd rhaid i arweinwyr y Blaid feddwl o ddifrif am adael y glymblaid cyn bo hir er mwyn gallu cyflwyno'u hunain fel gwrthblaid credadwy ar gyfer 2010 a 2011. Dylai PC fygwth hyn mor fuan a phosib os na cheir cytundeb ar gyflwyno refferendwm ar yr un diwrnod ag etholiad 2011.

    ReplyDelete
  6. rhydian fôn3:25 pm

    al: Dwi'n dweud eto, heb Cymru'n Un, does yna ddim refferendwm. Fel y dywedais uchod, rhaid cytuno ar refferendwm erbyn Mehefin 2010 neu gadael y glymblaid.

    Ond byddai gadael y glymblaid rwan er mwyn amddiffyn delwedd y Blaid yn wirion. Mae cael refferendwm ar ddyfodol senedd i Gymru, a cham bwysig tua annibynniaeth, yn bwysicach na'r Blaid.

    ReplyDelete
  7. rhydian fôn3:28 pm

    al: gyda llaw, dwi'n credu bod gen ti bwynt da ynglyn a perfformiad y Blaid yn yr etholiad diweddar

    ReplyDelete
  8. Yn yr hinsawdd bresennol, dwi'n credu y byddai cynnal refferendwm yn drychineb. Petai Llafur yn cefnogi pleidlais "Ie" yn gyhoeddus, byddai rhai etholwyr yn pleidleisio "Na" er mwyn cosbi'r llywodraeth. Ond heb gefnogaeth gadarn gan Lafur, mae'n anodd gweld sut y byddai modd i'r garfan "Ie" ennill refferendwm. Hyd y gwela i, rydym ni mewn twll etholiadol go ddwfn, am y tro.
    Yn bersonol, dwi'n ffafrio diddymu'r glymblaid cyn gynted a bo modd, er mwyn dechrau blaenaru'r tir ar gyfer clymblaid newydd gyda'r Toriaid a'r Lib-Dems - gan anelu i gynnal refferendwm tua 2012-13.

    ReplyDelete