26/06/2009

Cysgod y Swastika

Mae Vaughan yn ail agor craith o'r saithdegau, pan wnaeth y Parchedig Dr Tudur Jones ymosodiad ffyrnig ar Fudiad Adfer. Yr oedd arweinydd Mudiad Adfer wedi cyhoeddi llyfr yn amlinellu ei freuddwyd am ddyfodol y Cymry Gymraeg o'r enw Adfer a'r Fro Gymraeg. Ysgrifennodd Dr Tudur "Adolygiad" o'r llyfr o'r enw Cysgod y Swastika a oedd yn honni (yn gwbl di-sail)bod Adfer wedi ei ddylanwadu yn gryf gan athronwyr ac athroniaeth Hitleraidd.

Dr Tudur Jones oedd un o'r bobl fwyaf anghynnes imi gael yr amhleser o'u cyfarfod erioed. Dyn oedd yn credu mewn annibyniaeth barn cyn belled a bod y farn yna yn cyd-fynd a'i farn haearnaidd ef. Dyn a oedd yn credu bod ganddo "hawl" i reoli, ac a oedd yn mynnu rheoli pob dim yn sffêr ei ddylanwad gyda gwialen haearn. Roedd mymryn o'r unben yddo ef i ddweud y gwir plaen. Y gwendid personol yma yn ei gymeriad oedd wrth wraidd Cysgod y Swastika, dim oll i wneud efo amddiffyn Cymru rhag ffasgiaeth.

Yr oedd Tudur a'i glic yn teimlo eu bod yn colli rheolaeth ar y mudiad cenedlaethol - ymgais (aflwyddiannus) i geisio ennill y rheolaeth yn ôl oedd yr ymosodiad ar Adfer. Lol botas oedd unrhyw ymgais i gysylltu'r hyn yr oedd Adfer yn ei wneud ag Hitleriaeth. I'r gwrthwyneb, trwy adfer tai ar gyfer pobl leol, trwy feithrin papurau bro, trwy annog sefydlu gwyliau Cymraeg lleol a thrwy gefnogi busnesau bach cefn gwlad roedd Adfer yn perthyn i'r traddodiad cydweithredol. Y traddodiad a rhoddodd spardyn i sosialaeth, yn hytrach na gwleidyddiaeth y de.

Trwy ymosod mewn ffordd mor giaidd ar Adfer fe wnaeth Tudur niwed mawr i'r achos cenedlaethol yn ei gyfanrwydd. Manion i'r mwyafrif oedd y gwahaniaeth rhwng y gwahanol garfanau yn y mudiad cenedlaethol "nashies" oedd y cyfan. Trwy ddweud bod carfan weithgar a dylanwadol o'r mudiad yn cael eu dylanwadu gan syniadaeth Hitler fe roddodd y doethur mel ar fysedd y gwrth Gymreig. Cofier mai adlais o sylwadau Tudur oedd yn ymosodiad Glenys Kinnock ar Simon Brook a rhan o etifeddiaeth Tudur oedd methiant llwyr y Blaid i amddiffyn y cynghorydd yn erbyn ei hymosodiad.

Fe ddaeth pob un o rybuddion Emyr Llew am dranc y Fro Gymraeg yn wir. Mae'n bosib, yn wir mae'n debyg, bydda hyn wedi digwydd hyd yn oed pe bai Tudur heb geisio llofruddio'r ymgyrch i amddiffyn y Fro. Ond mae'r diolch i Tudur a'i deip bod tranc y Fro wedi digwydd mor rhwydd heb frwydr gref i geisio ei hamddiffyn.

4 comments:

  1. Dyma rai sylwadau dwi wedi rhoi ar flog Vaughan, ond gwerth eu hail-adrodd yma.

    Nid sosialydd na dyn y chwith oedd RTJ - roedd yn Gristion. A dyna sut mae'r ail-ysgrif yn gorffen dwi'n meddwl, sef dweud fod ideoleg Emyr ac Adfer, yn anad dim, yn wrth-Gristnogol. Nawr dydw i heb ddarllen y llyfr gan Emyr Llew y mae RTJ yn ei adolygu eto ond o ddeall pethau fel ydw i nid oes llawer o le i Dduw os o gwbl gan Emyr yn ei athroniaeth ar y pryd. Mae'r cyfan yn Hegelaidd iawn, y geist ynom ni, y geist yn y gendl etc... Wrth gwrs i RTJ y Calfinydd y mae'r llwybr yma yn anathema ac i'r sylwebydd Calfinaidd pen-llanw datblygiad a dylanwad Hegeliaeth oedd Natsiaeth. Plentyn siawns Hegeliaeth, os hoffe chi, oedd Hitler. Felly mae RTJ yn "rhybuddio" fel mae Vaughan yn dweud rhag i Hegelwyr y wlad yma gael plentyn siawns. Gwybyddai, maen siwr, nad ffasgydd oedd Emyr, ond fe ofidiai y gallai genhedlaethau'r dyfodol fod ac mae Emyr, yn ddi ymwybod iddo ef ei hun fyddai wedi cychwyn yn gaseg eira.

    I R. Tudur Jones tarddai cenedlaetholdeb o ddwy brif ffynhonnell, sef Hegeliaeth a Chalfiniaeth. Gyda'r Hegeliaid, yn ôl RTJ, roedd lle canolog i’r genedl ar lwyfan byd eang ond nid oedd unrhyw beth y tu hwnt i’r genedl a allai gynnig beirniadaeth o’r wladwriaeth neu'r genedl. Perygl y math yma o genedlaetholdeb yw y gallai greu eilun o’r wladwriaeth, fel y digwyddodd yn Yr Almaen o dan y Natsïaid. Ond gyda Chalfiniaeth mae’r wladwriaeth a'r genedl yn ddarostyngedig i benarglwyddiaeth Duw, felly ni all ddatblygu’n eilun ac mae’n bosibl ei feirniadu.

    Hanfod beirniadaeth RTJ o Adfer ac Emyr Llywelyn oedd eu bod nhw'n blant Hegel nid Calfin. Ond nid dyma fy ngair olaf ar y mater, bydd rhaid i mi ddarllen gwaith Emyr drosof fi fy hun.

    Maen rhaid i mi anghytuno gyda ti pan wyt ti'n dweud fod RTJ yn gyfrifol am dranc y fro Gymraeg! Er nad wyt ti'n Galfinydd mi rwyt ti a chydymdeimladau efenyglaidd mi wyddwn ac felly mi wybyddi di fod tranc y fro Gymraeg wedi cael ei heffeithio llawer os nad yn bennaf gyda colli tir y ffydd Gristnogol yn y broydd - nodi dechrau'r pwdwr yma mae RTJ yn ei gyfrolau Ffydd ac Argyfwng Cenedl wrth gwrs. Calfinaiaeth gymhedrol a ynghyd a rhai Arminiaid fu cred yr holl enwadau Cymreig tan troad yr Ugeinfed Ganrif, ac yna fe ddaeth Rhyddfrydiaeth i wneud ei gwaith, i wadu llawer o rannau allweddol y Beibl yn enw 'rheswm', a gwagio'r capeli. Erbyn hyn, mae pethau wedi dechrau newid eto gyda mwy a mwy yn troi yn ol at yr hen 'lwybrau'; yn wir, mae mwy o weinidogion efengylaidd ymhlith yr Annibynwyr (ar enwadau eraill hefyd i raddau) heddiw nag sydd wedi bod ers dwy genhedlaeth.

    Argyfwng y fro = argyfwng ffydd = dylanwad rhyddfrydiaeth. Beth bynnag am ddiffygion RTJ fel person does dim gwadu na wnaeth e fwy o safiad na llawer o'r gyfoeswyr a'r genhedlaeth gynt yn erbyn rhyddfrydiaeth ddiwinyddol. Rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ddinistriodd y dystioleth Gristnogol a gwanhau'r dystiolaeth Gristnogol yn fy nghyb i oedd yn bennaf gyfrifol am dranc yn fro Gymraeg.

    Sylwadau bler, ond dyna ni.

    ReplyDelete
  2. Diolch am dy ymateb Rhys.

    Fel yr ydwyf wedi deud wrthot ti eisoes, mae fy marn i am Dr Tudur wedi ei selio ar adnabyddiaeth bersonol o'r pwdryn.

    Yr wyt ti am geisio doethuriaeth trwy ysgrifennu hagiograffi i sant a oedd wedi marw cyn dy eni!

    Pa farn sydd yn debycach o fod yn wir?

    Fy marn i o adnabod côc oen a hanner mewn cig a gwaed, neu dy farn di, o ganfod arwr mewn dogfennau sychion?

    Gwir yr Rhys, pe buaset wedi cyfarfod a dy arwr, bydda ti ddim yn leicio’r bastard!

    ReplyDelete
  3. Alwyn, nid sgwennu hagiograffi ydw i - ysgrifennu thesis academaidd. Fedra i ddim dweud fod RTJ yn "arwr" i mi fel rwyt ti'n ei awgrymu oherwydd na fu i mi erioed ei gyfarfod heb son am ei adnabod. Rwy'n astudio ei waith ysgrifennedig (a rhai tapiau o ddarlithoedd ac anerchiadau) ac ar sail hynny mi fydda i'n cloriannu ei gyfraniad ef i'r mudiad cenedlaethol. Rwyt ti'n awgrymu nad oedd yn ŵr hoffus - er na fydda i'n astudio ei bersonoliaeth ar ryw wedd fe fyddi di'n hoff o fy nghasgliadau gan mae fy nghasgliad debyg iawn bydd nodi nad oedd yn berson poblogaidd/caresmataidd ac mae cyfraniad fwy sedd gefn a wnaeth i'r mudiad cenedlaethol - cyfraniad deallusol hynny yw. Cyfraniad sylweddol a phwysig, ond cyfraniad fwy tu ol i ddrysau yn wahanol i Gwynfor. Er nad ydyw'n "arwr" mi rydw i yn cydsynio gyda llawer o'i syniadau am y ffydd a chenedlaetholdeb, ond gyda threigl amser dwi hefyd yn gweld mwy a mwy o bennau lle dwi'n anghytuno gydag ef.

    Os fydde ti i roi dy adnabyddiaeth bersonnol ohono i'r neulltu dwi'n siwr a base ti fel Cristion yn gweld fod llawer o'r hyn roedd e'n dweud yn graff a phroffwydol tu hwnt.

    ReplyDelete
  4. Anonymous6:58 pm

    Rhys Llwyd: "Rhyddfrydiaeth ddiwinyddol ddinistriodd y dystioleth Gristnogol a gwanhau'r dystiolaeth Gristnogol yn fy nghyb i oedd yn bennaf gyfrifol am dranc yn fro Gymraeg."

    Ar ba blaned wyt ti'n byw Rhys Llwyd? Trasiedi fwyaf yr iaith Gymraeg oedd ei hymlyniad at brotestaniaeth. Do, bu budd o'r ysgol Sul a'r addysg Gymraeg. Do, bu budd o'r Beibl Cymraeg. Ond roedd y tueddiad i ddiwylliant Cymraeg fod yn ran anatod o grefydd a visa versa yn llwyr negyddol.

    Mae pobl yn gadael y capeli oherwydd eu bod yn amherthnasol. Canlyniad clymu'r capeli a'r iaith yw'r broblem.

    Os wyt ti'n sgwennu barn fel yna yn dy PhD - druan ohonot! Bydd y cyfweliad clo i dy waith ymchwil yn un ddigri tu hwnt!

    ReplyDelete