16/05/2009

Baw yn dy lygad Jac?

Mae Jac Codi Baw yn y cylchgrawn Golwg yn hoff iawn o dynnu blewyn o drwynau'r sawl dylid gwybod yn well, sydd ddim yn defnyddio'r Gymraeg ar bob achlysur priodol.

Mae'r Cymro yn cael chwip dîn haeddiannol ganddo yn y rhifyn cyfredol am gynnal cyfweliad am olygydd newydd yn uniaith Saesneg. Mae esgus y Cymro yn un ddoniol, gyda llaw Roedd yr ymgeisydd yn hapus i siarad Saesneg - fel petai'r ymgeisydd ym mynd i gwyno yn y cyfweliad os oedd o neu hi eisiau'r job!

Ond dydy cyflogwyr Jac ddim yn wynnach na gwyn eu hunain. Rwyf yn siomedig iawn bod dolenni Golwg360 i gyd yn Saesneg dyma'r ddolen i'r dudalen blaen:

http://www.golwg360.com/UI/Users/HomeView.aspx

Dyma gyfieithiadau i gynorthwyo Golwg
Users = Defnyddwyr
Home = Hafan
View = ??? methu cofio.

Mae yna bwynt difrifol yma. Roedd Alun Ffred yn cyfiawnhau ariannu Golwg360 yn hytrach na'r Byd oherwydd ei fod yn bwysig dangos i Gymru ifanc bod yna lle i'r Gymraeg yn y dechnoleg newydd. Mae doleni Saesneg Golwg yn gwanhau'r neges yna.

1 comment:

  1. Sylwais i hynna am y wefan hefyd.

    Hefyd, pan aeth Golwg ati i ofyn i flogwyr gyfrannu erthyglau i'r cylchgrawn, mynd at sy'n blogio'n Saeseng mae nhw wedi wneud pob tro (Normalmouth, Chantiller (sll?) a Phil Stead). Nid beirniadau dim un o'r blogwyr uchod ydw i, mae pob hawl iddynt flogio ym mha bynnag iaith ymynent, ond roedd/mae nifer o flogwyr Cymraeg a all ysgrifennu llawn cystal a nhw (dw i ddum yn cynnwys fy hun gyda llaw!).

    ReplyDelete