04/04/2009

Sâl Tibars Cai

Wrth glodfori'r cyfraniad enfawr mae Blog yr Hen Rech Flin yn gwneud i ddealltwriaeth o wleidyddiaeth Gwynedd mae fy nghyfaill Blog Menai yn drysu ei gyfraniad, yn ei modd arferol, trwy son am gawl. Y mae'n debyg bod fy mlog i yn debyg i Gawl Cennin! Nid ydyw'n bolisi yma i siomi neb! Os oes ymwelydd wedi pigo draw ar gyngor fy nghyfaill i chwilio am reseit ar gyfer cawl gorau Cymru dyma ddolen i reseit gan Delia Smith.

Mae Mrs Smith yn un o dras Gymreig, mae ei gwreiddiau yn ardal yr Arthog Sir Feirionnydd. Mae'n siŵr y bydd hi wrth ei fodd o gael gwybod bod ardal ei hynafiaid bellach yn cael ei gynrychioli mor glodwiw ar y Cyngor Sir gan gynrychiolydd Llais Gwynedd.

Gan fod Cai yn credu mai Cawl Cennin (hynod flasus) yw fy mlog innau ac mae cawl rwdins yw blog y Cynghorydd Gwilym Euros, teg yw gofyn sut fath o gawl sydd yn cael ei gynnig gan Flog Menai? Yn rhyfedd iawn mae yna gawl o Lithwania sydd, fel petai, wedi ei enwi ar gyfer Blog Menai Sal Tibarsciai: Mae'n oer, yn ddiflas, yn sur ac yn cynnwys dim maeth o gwbl :-)

1 comment:

  1. Ddim lob sgows ydi'r gymysgedd anymunol, llysieuol, ryddfrydig, ol Gristnogol mae Delia Smith yn ei argymell y nionyn gwirion! Ti angen stec neu ar y lleiaf asgwrn.

    Lob sgows mam ydi'r un gorau yn y byd - nid cymaint oherwydd ei bod yn ymddiddori llawer mewn lobs sgows, ond oherwydd ei bod yn defnyddio stec sydd i fod i gael ei grilio neu ei ffrio i'w wneud - mae'r blas yn well, ond gas gen i feddwl beth ydi cost gwneud y lob sgows. Wedi'r cwbl, pryd rhad ydi lob sgows i fod.

    Ta waeth, roeddwn i'n hoff iawn o lob sgows fel plentyn, ac roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen yn arw at ei gael un diwrnod ar ol bod yn ei arogli'n coginio trwy'r prynhawn. Erbyn amser swper roedd fy nannedd yn dyfrio. Dyma frysio'r llwyad cyntaf yn fy ngheg, ond ach a fi, fedrwn i ddim bwyta dim ohono! - roedd mam wedi rhoi halen ynddo dair os nad pedair gwaith. Mae'n rhaid bod ei meddwl ar rhywbeth arall.

    Mae'r siom yna'n fyw i mi ddegawdau wedi'r digwyddiad. Peth rhyfedd ydi'r cof.

    ReplyDelete