08/04/2009

Anabl i ddefnyddio'r Gymraeg

Yn yr 80au cynnar mi fûm yn dilyn cwrs hyfforddi i ddyfod yn nyrs cofrestredig.

Fel rhan o'r hyfforddiant bu rhaid i'r efrydwyr gwneud prosiect ar argaeledd mynediad i bobl a oedd yn byw ag anabledd i ddefnyddio siopau trefi glan mor y gogledd. Roedd hyn cyn dyddiau deddfau hawliau i'r anabl.

Fel rhan o'r prosiect mi fûm yn holi perchennog siop fferyllydd (o bob man) nad oedd modd mynd iddi ond trwy ddringo set o bum gris. Ymateb y fferyllydd oedd ei fod o ddim yn gweld pwynt cael mynediad i'r anabl gan nad oedd wedi gweld cwsmer mewn cadair olwyn yn ei siop erioed.

Yh! Tybed pam?

Roedd gwrando ar raglen Taro Naw nos Fawrth yn rhoi teimlad o Deja Vu imi.

Roedd cynghorydd o Aberdaugleddau yn dalau gyda Aran Jones bod neb yn gofyn am wasanaethau Cymraeg gan y cyngor felly afraid yw eu cynnig.

Ond onid dyna'r pwynt?

Os oes raid gwneud ffỳs, mynd allan o'ch ffordd, mynd i drafferth di angen, bydd pobl ddim yn mynnu gwasanaeth!

Yr hyn dylid digwydd mewn gwlad ddwyieithog yw bod y gwasanaeth dwyieithog ar gael yn hollol naturiol a di-ffwdan fel bod pobl yn gallu eu defnyddio heb mynnu yn flin.

Yn siopau Tescos mae'r gwasanaethau hunan sganio a'r dewis arnynt i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n rhaid mynd i'r ffwdan o ddethol yr iaith eich hunain - dydy'r dewis ddim yn cael ei gynnig yn awtomatig.

Yn Nhesco y Gyffordd yr wythnos diwethaf yr oeddwn am brynu botel o win. Defnyddiais y ddewis Gymraeg wrth sganio a daeth y neges angen cymeradwyaeth oedran i fynu. Bu'n rhaid disgwyl, a disgwyl a disgwyl i'r cymeradwy-ydd dod i wirio fy oedran. A'i ymateb sur oedd I didn't hear the message authorisation needed because you chose Welsh - I can't understand that rubbish. Look at the queue you have caused now!

Gan fy mod yn Hen Rech Flin mi wnes gŵyn swyddogol i'r rheolwyr am yr agwedd!

Bydd sylwadau'r côc oen yn gwneud fi'n fwy penderfynol byth o ddefnyddio'r gwasanaeth Cymraeg eto.

Ond ow!

Rwy'n ddeall pam bydda ambell i un arall (gan gynnwys rhai oedd yn y ciw tu nol imi), yn penderfynu mae haws o lawer byddid osgoi'r Gymraeg ar bob cyfrif.

1 comment:

  1. Pob tro byddaf yn Nhesco neu rhywle arall, byddaf yn defnyddio'r periannau hunan-wasanaeth, achos fedrai fod yn eithaf bendant bydd gwasanaeth Cymraeg ar gael.

    Peiriannau Tesco greodd y ciw drwy wneud i chi fynd allan o'ch ffordd i wneud dewis iaith. Dwi'n gwybod er enghraifft fod hunan-wasanaeth yn Marks & Spencer angen dewis iaith o blith tua 6, gan gynnwys Saesneg. Mae hyn yn golygu fydd yr un hyd o amser yn cael ei dreulio gan bawb tra'n defnyddio'r peiriannau.

    Tro nesa rhowch y sain ar ei uchaf er sylw.

    ReplyDelete