31/03/2009

Costau'r Costa Geriatrica

Prin bydd unrhyw un call yn methu cydymdeimlo a'r bobl hŷn yng Ngwynedd sydd yn wynebu cynnydd o 50% yn eu costau gofal o dan benderfyniad hunanddinistriol diweddaraf Plaid Cymru.

Bydd cyfiawnhau yn dod o du blogwyr y Blaid, maes o law, bid siŵr.

Prin bydd gwerth y cyfiawnhad i deuluoedd y sawl sydd yn gorfod dewis rhwng talu mwy am ofal yn y cartref neu ddanfon Mam, Dad, Taid neu Nain i gartrefi gofal sydd ar fin cau.

Ond rwy'n cydymdeimlo a chyngor Gwynedd yn yr achos yma.

Yr enghraifft a roddwyd o un a oedd am ddioddef o dan y cynllun ar newyddion y BBC oedd dynes o ganolbarth Lloegr a chostau mawr iawn am ei gofal!

Dyma broblem sydd gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Cyngor Bro Morgannwg a sawl gyngor ar lan môr hyfryd Lloegr hefyd. Problem y Costa Geriatrica!

Mae pobl mewn swyddi bras yn talu i mewn i'r pot cymdeithasol mewn ardaloedd breision. Ond o ymddeol i lan môr maent yn tynnu allan o bot cymdeithasol tlawd, lle mae llawer mwy yn cael ei dynnu allan na sydd yn cael ei roi i mewn.

Os yw unigolyn yn gweithio trwy ei oes ym Myrmigham ac yn talu trethi i gyngor Byrmingham, ac yna'n ymddeol i'r Bermo onid trethdalwyr Byrmingham ddylid talu am gostau'r gofal henoed yn hytrach na threthdalwyr Gwynedd?

2 comments:

  1. Mae fy nain o Lansannan, sir Conwy. Yn ôl pob sôn, mae dwywaith cymaint o bensiynwyr a aned tu allan i Gymru a sydd o Gymru ei hun!

    ReplyDelete
  2. Rhoddwyd dau ddewis ger bron aelodau Cyngor Gwynedd - codi'r tal am wasanaeth, neu gyfyngu'r nifer sydd yn derbyn y gwasanaeth. O ystyried nad yw unrhyw un sydd a llai na £22,000 yn y banc yn talu am y gwasanaeth beth bynnag, fe bleidleisiais i dros gynyddu'r tal. Petai'r penderfyniad wedi mynd y ffordd arall, fe fyddai newyddion heddiw yn llawn straeon am hen bobl wedi derbyn llythyr yn dweud bod eu gwasanaeth gofal yn dod i ben yn gyfangwbl. Does dim ennillwyr yn y ddadl yma, mae gen i ofn.

    ReplyDelete