31/03/2009

Costau'r Costa Geriatrica

Prin bydd unrhyw un call yn methu cydymdeimlo a'r bobl hŷn yng Ngwynedd sydd yn wynebu cynnydd o 50% yn eu costau gofal o dan benderfyniad hunanddinistriol diweddaraf Plaid Cymru.

Bydd cyfiawnhau yn dod o du blogwyr y Blaid, maes o law, bid siŵr.

Prin bydd gwerth y cyfiawnhad i deuluoedd y sawl sydd yn gorfod dewis rhwng talu mwy am ofal yn y cartref neu ddanfon Mam, Dad, Taid neu Nain i gartrefi gofal sydd ar fin cau.

Ond rwy'n cydymdeimlo a chyngor Gwynedd yn yr achos yma.

Yr enghraifft a roddwyd o un a oedd am ddioddef o dan y cynllun ar newyddion y BBC oedd dynes o ganolbarth Lloegr a chostau mawr iawn am ei gofal!

Dyma broblem sydd gan Gyngor Gwynedd, Cyngor Conwy, Cyngor Bro Morgannwg a sawl gyngor ar lan môr hyfryd Lloegr hefyd. Problem y Costa Geriatrica!

Mae pobl mewn swyddi bras yn talu i mewn i'r pot cymdeithasol mewn ardaloedd breision. Ond o ymddeol i lan môr maent yn tynnu allan o bot cymdeithasol tlawd, lle mae llawer mwy yn cael ei dynnu allan na sydd yn cael ei roi i mewn.

Os yw unigolyn yn gweithio trwy ei oes ym Myrmigham ac yn talu trethi i gyngor Byrmingham, ac yna'n ymddeol i'r Bermo onid trethdalwyr Byrmingham ddylid talu am gostau'r gofal henoed yn hytrach na threthdalwyr Gwynedd?

06/03/2009

Polau Piniwn ac Amseru Refferendwm

Ychydig ddyddiau yn ôl, ar Ddydd Gŵyl Dewi, cyhoeddodd BBC Cymru pôl piniwn a oedd yn awgrymu bod 52% o bobl ein gwlad o blaid pwerau ychwanegol i'r Senedd a bod 39% yn wrthwynebus i bwerau ychwanegol.

Mewn adroddiadau ar y pryd cafwyd awgrym gan Betsan Powys, ymysg eraill, bod y gwahaniaeth rhwng yr Ie a'r Na ddim yn ddigon eang i liniaru ofnau'r sefydliad. Cyn i'r bobl bwysig dechrau alw am refferendwm bydda angen o leiaf 20% o wahaniaeth, yn nhyb Betsan.

Aelod o'r sefydliad yw Dafydd Wigley, Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru. Mae o'n cefnogi sylwadau'r newyddiadurwyr, gan rybuddio bod y polau piniwn wedi bod yn anghywir yn y gorffennol. Mae Dafydd yn nodi:

Dwi'n cofio yn 1978 bod pôl piniwn yn dangos bod 'na ddwywaith yn fwy o blaid nag oedd yn erbyn er bod y canlyniad yn 1979 bedair gwaith yn fwy yn erbyn nag oedd o blaid

Nid ydwyf yn cofio'r pôl y mae Dafydd yn ei gofio. Ond rwy'n parchu geirwiredd Dafydd, nid oes amheuaeth bod canlyniadau'r pôl y mae o'n ei gyfeirio ati ar gael yn rhywle. Ond os oedd ddwywaith gymaint o bobl wedi dweud ie yn y pôl, mae'n rhaid bod y gagendor rhwng yr ie ar na ym fwy nag 20% Betsan.

Fy atgof pennaf o'r ymgyrch ym 1979 oedd ei fod yn uffernol o oer, a doedd yr ymateb ar y drws ym Meirion '79 yn gwneud dim i gynhesu'r galon. Roedd pob Tori, pob Rhyddfrydwr a phob Llafurwr yn erbyn. Roedd nifer o Bleidwyr pybyr wedi eu dychryn gan atgasedd rhai o Lafurwyr y Deheubarth ac yn poeni mae pobl fel nhw bydda'n gyfrifol am bethau fel addysg Gymraeg os oedd senedd i ddyfod i Gaerdydd.

Roedd yn amlwg o ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch bod y refferendwm am gael ei golli yn drychinebus, beth bynnag fu canlyniad y polau piniwn.

Roedd yr un peth yn wir ym 1997. Roedd y polau piniwn yn awgrymu mwyafrif mawr i'r achos o blaid datganoli. Ar y drws rodd yn amlwg mae cael a chael oedd y canlyniad am fod - felly y bu!

Mae yna dwy wers yma.

Y gyntaf yw bod polau piniwn Cymreig sydd wedi eu selio ar arferion y DU yn fethedig ac annibynadwy parthed Cymru! Does dim modd rhoi cred ynddynt. Gwirion bydd amseru refferendwm ar sail polau o'r fath. Da o beth bydda weld gwyddoniaeth polio yng Nghymru yn gwella fel bod polau mwy dibynadwy ar gael - breuddwyd gwrach mae'n debyg.

Yr ail wers yw mai trwy ymgyrchu a chanfasio bydd gwybod pryd bydd yr amser gorau i alw refferendwm. Os am lwyddo cael pleidlais IE mae'n rhaid i'r ymgyrch a'r canfasio dechrau rŵan - nid tair wythnos cyn diwrnod y bleidlais.

02/03/2009

Cwestiwn Dyrys Gŵyl Dewi

Pam bod Cymry Anghydffurfiol, sydd ddim yn credu mewn eiriolaeth i'r Saint, yn gwneud gymaint o ffỳs am Ddydd Gŵyl Dewi?

Pam bod anghredinwyr rhonc yn gwneud mwy byth o ffỳs am yr Ŵyl?