27/02/2009

Wylit, Wylit Lywelyn

Cyn imi gael fy ngorfodi i roi'r gorau i yrru oherwydd fy iechyd mi fûm yn gweithio i Brifysgol Bangor fel ymgynghorydd addysg a hyfforddiant. Fy ngwaith oedd mynd i gartrefi gofal a chartrefi nyrsio ar hyd a lled gogledd a chanolbarth Cymru i gynghori ar gyfleoedd i hyfforddi yn y gweithle trwy wneud cyrsiau NVQ ac ati.

Wrth wneud y gwaith ymwelais ag un neu ddau o gartrefi uffernol, rhai roedd rhaid imi gwyno amdanynt i'r awdurdodau. Roedd y mwyafrif mawr yn llefydd digon derbyniol yn cynnal safon dda a chlodwiw. Ond roedd ambell un yn sefyll allan fel llefydd arbennig iawn. Cartrefi lle'r oedd gofal y staff o'r radd uchaf, lle'r oedd y trigolion yn hapus. Cartrefi oedd yn rhan o'r gymuned yn hytrach na lle i guddio'r henoed allan o'r golwg. Cartrefi, pe bai'r angen yn codi, y byddwn yn ddiolchgar o gael treulio fy mlynyddoedd olaf ynddynt.

Un o'r rhain oedd Cartref Bryn Llywelyn Llan Ffestiniog.

Trist oedd clywed bod Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r cartref. Rwy'n ddeall bod rhaid i gynghorwyr gwneud penderfyniadau anodd ac ystyried oblygiadau ariannol a phob esgus arall caiff ei wneud dros gau Bryn Llywelyn. Ond, bobl annwyl, does neb yn taflu perl i'r lludw. Mae Bryn Llywelyn yn enghraifft o Ymarfer Gorau yn y maes. Lle i Wynedd ymfalchïo ynddo a defnyddio fel enghraifft i eraill. Cywilydd ar bob cynghorydd a bleidleisiodd o blaid y cau.

Pan ddaw henaint ac annhuedd i ran rai o gynghorwyr iau Plaid Cymru, a bleidleisiodd o blaid cau Bryn Llywelyn er mwyn undod eu plaid wleidyddol hwyrach byddant yn gwerthfawrogi'r gwahaniaeth rhwng gofal o'r radd flaenaf a gofal OK, a dod i ddifaru eu hagwedd cul ac unllygeidiog.

11 comments:

  1. Gyda phob parch, Alwyn, dwi ddim yn credu dy fod yn ymdrin a'r drafodaeth yma yn deg. Does neb yn awgrymu nad yw'r gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig ar y funud ym Mryn Llewelyn yn wasanaeth da iawn. Ond rhaid ystyried addasrwydd yr adeilad, a'r math o ddarpariaeth fydd ei angen yn y dyfodol. Y gwir yw bod 'na 13 o w'lau yn Bryn Llewelyn, ac fe fydd y ddarpariaeth yna yn diflannu gyda chau'r cartref. Ond mae'r Cyngor yn adeiladu estyniad modern i gartref Bryn Blodau - sydd filltir i fyny'r ffordd - a fydd yn golygu ychwanegu 10 gwely at y ddarpariaeth bresennol. Ac fe fydd y 10 ystafell yma yn ystafelloedd wedi eu hadeiladu yn arbennig ar gyfer anghenion trigolion cartref henoed, yn hytrach na bod yn ystafelloedd mewn heb blasdy, wedi ei addasu ar gyfer defnydd gan yr henoed. Yn ychwanegol at hyn, mae'r Cyngor yn codi 40 o dai gofal ychwanegol yn Blaenau, fydd - yn y dyfodol - yn cynnig cyfle i'r henoed dderbyn gofal proffesiynnol, ond o fewn cyd-destun lle maent yn dal eu gafael ar eu hannibynniaeth. Ac mae pob arolwg yn dangos mai dyna'r math o ofal y bydd pobl yn gofyn amdano yn y dyfodol.
    O ran y staff, mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n glir na fydd yr un aelod o staff yn cael ei ddi-swyddo, ac y bydd pob un yn cael cynnig swyddi gofal newydd. Felly fe fydd yr ymarfer da sydd i'w ganfod yn Bryn Llewelyn yn aros o fewn Gwynedd - a gobeithio yn aros ym Mlaenau, gan gyfrannu at y ddarpariaeth newydd sydd yn cael ei sefydlu.
    Dwi'n gwybod y bydd y broses o symyd o Bryn Llewelyn yn un anodd i nifer o'r trigolion, a bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud popeth sydd yn bosib i leihau'r anghyfleustra. Ond erys y ffaith bod 'na broblemau sylfaenol gyda adeilad Bryn Llewelyn. Petai'r Cyngor wedi mabwysiadu gwelliant Linda Jones ddoe - a oedd yn galw am newid defnydd y cartref - fe fyddai gwaith sylweddol wedi gorfod cael ei wneud ar yr adeilad, ac yn ol pob tebyg, fe fyddai'r trigolion wedi gorfod gadael Bryn Llewelyn dros dro, beth bynnag.
    Wrth gwrs, fyddai dim modd i ti wybod hyn oll o wrando ar y cyfryngau, gan mai dim ond ochr negyddol y stori sydd yn cael ei hadrodd. Ond y gwir yw bod Cyngor Gwynedd yn gwella y ddarpariaeth i'r henoed yn ardal Ffestiniog, ac yn sicrhau bod gan y fro arbennig honno ddarpariaeth sydd yn addas ar gyfer anghenion yr 21ain ganrif.

    ReplyDelete
  2. Hmmmm.....He doth protest a bit too much me thinks!?

    ReplyDelete
  3. Anonymous11:06 am

    Wel am sylw gwirion Gwilym! Os oes gen ti ateb call i ddadl Dyfrig, gwna hi! Dwi fy hun yn deall yn iawn fod adeilad newydd wedi ei adeiladu i'r pwrpas yn llawer gwell nag addasiadau i hen adeilad - mae gen i brofiad personol o hyn!

    Mae Bryn Llywelyn yn hen adeilad sydd yn costio lot i'w gynhesu a'i gynnal. Yn ogystal, nid yw'n gwbl addas i anghenion ei drigolion. Mae'r rhain yn symud milltir i adeilad newydd wedi ei gynllunio i fod yn addas.

    Pam y cwyno felly?

    ReplyDelete
  4. Dim ond ffwl sydd yn siarad ar fater pan nad yw'n gwybod y ffeithiau i gyd...ac yn yr achos yma Rhydian, mi rwyt wedi dangos dy hyn i fod yn ffwl mae genai ofn.
    Dyma'r ffeithiau yn gryno;
    Mae Bryn Llywelyn yn gartref dryd i'w redeg, doeddwn i na neb arall yn dadlau i'r gwrthwyneb.
    Dyna pam aethpwyd ati yn ystod y misoedd diwethaf i lunio cynnig cwbwl ymarferol oedd yn lleihau costau yn sylweddol, cynyddu niferoedd y gwlau yn y cartref ac ynei wneud yn llawer mwy cynaliadawu nac yr oedd ar y pryd.
    Mi wyt ti wedi gwrando gormod ar propoganda eraill sydd yn ffyliaid Rhydian...rhagor o ffeithiau i ti;
    Mae Cyngor Gwynedd yn gwario £1.5m ar uned 10 gwelu yn nghrtref Bryn Blodau sydd hanner milltir (nid milltir) i ffwrdd ar gyfer henoed sydd yn dioddef o dimentia...nid oes unrhyw un o'r 13 preswylydd sydd yn Bryn Llywelyn yn dioddef o dimentia ar hyn o bryd felly ni fyddent yn gymmwys ar gyfer cael lle yn yr uned honno. Mae pob un gwely arall yn Bryn Blodau yn llawn ac mae rhestr aros am wely yno...nid oes lle felly i'r 13 yn y fan honno.
    Ffaith arall i ti, mae Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth a Tai Eryri yn adeiladu 34 o fflatiau/unedau byw yn annibynol hanner milltir o Bryn Llywelyn, ger Bryn Blodau, mae hwn yn gynllun gwych ac mi groesawais y datblygiad yma rhai misoedd yn ol ar fy mlog, wedi i mi ymweld a uned tebyg yng Nghasnewydd. Ti'n gwybod be?...Does dim un o drigolion Bryn Llwyelyn mewn iechyd digon da i gael eu ystyried ar gyfer yr unedau yma....mae nhw angen gofal parhaol 24 awr y dydd.
    Sydd yn dod a ni at ffaith arall a realiti y sefyllfa...mi fydd yr 13 person yma sydd yn hen ac mewn iechyd bregys yn cael ei symud maes o law, yn gwbwl groes yw dymuniad i Dywyn, Llanrwst neu Gonwy..hynny yw allan o'u cynefin a hynny yn nyddiau olaf eu bywydau.
    Ffaith arall, prynhawn dydd Iau wedi'r bleidlais tra roedd staff Bryn Llywelyn yn crio yn yr oriel gyhoeddus, roedd rhai o gynghorwyr Plaid Cymru yn gwenu fel tasent wedi cael rhyw fuddigoliaeth mawr symbolaidd o bwys...cau cartref henoed roeddynt newydd ei wneud ac roedd y peth yn warth llwyr yn fy marn i.
    Ffaith arall i orffen...es i draw i Bryn Llywelyn nos Iau ar y ffordd adra o'r Cyngor ac roedd yr awyrgylch yno yn ofnadwy...yn eistedd yn y lolfa, a'i phen yn ei dwylo yn crio oedd gwraig 88 mlwydd oed, oedd wedi ei dryllio gan penderfyniad rhai o gynghorwyr dy Blaid arbennig di i'w thaflu hi a'i chyd preswylwyr allan o'u cartref yn groes i'w dymuniad.
    Pam cwyno felly ti'n gofyn? Yn syml...am mai dyna ydi'r peth iawn i'w wneud..mae'n rhaid i rhywyn neud safiad dros gyfiawnder ac hawliau dynol y pobol yma yn does? Pan ti'n ystyried y ffeithiau uchod i gyd...fedri di ddeallt hynny ta be?

    ReplyDelete
  5. Anonymous1:07 pm

    Bydd rhaid i rai gael eu symud i dderbyn gwasanaeth felly. Ddim yn anarferol. Dydi Bryn Llywelyn ddim yn addas, ac fe fyddai'n ddrud iawn ei godi i safon. Bydd y bobl yno yn symud i lefydd sydd yn addas i ofalu amdanynt - mae Llanrwst rhyw 20 munud yn y car o Flaenau i'r teuluoedd, felly tydi o ddim yn afresymol.

    Does gan ddim un mudiad yn y byd y gallu i fforddio popeth. Yn ystod y ddadl am ysgolion, dadleuodd un aelod mewn oed o dy blaid y byddai o a'r henoed eraill yn derbyn lefel is o wasanaeth i sicrhau fod ysgolion bach ar agor. Roedd dy blaid di hefyd yn dadlau na fyddai'r dewis rhwng yr henoed a'r anabl, a chadw ysgolion bach. Mi oedd o. Mi wnest ti dy ddewis. Dysga i fyw efo fo.

    ReplyDelete
  6. Braf weld dy fod ti a dy gyd aelodau yn edrych ar y pethau yma yn gwbwl di-emosiwn..da chi allan o gyswllt yn llwyr efo pobol ac da chi yn gynyddol yn dangos eich hunain i fod yn Balid digon anghynes o dan y wyneb. Mae mwgwd Plaid Cymru yn dechrau disgyn ac mae pobol yn decharu gweld erbyn hyn sut griw ydych chi....mi fedrai fyw efo hynny ac mi wani dal wnued safiad pan fydd angen yn erbyn anghyfiawnder fel sydd wedi digwydd yn y mater yma.

    ReplyDelete
  7. Anonymous1:54 pm

    Ia, di-emosiwn. Chdi sydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn emosiynol Gwilym - 'achubwn bob dim dan haul, er na allwn ei fforddio'. I wneud polisi yn gywir, rhaid pwyso a mesur heb emosiwn gan ystyried lles yr holl boblogaeth. Dydi o ddim yn syndod bod Llais Gwynedd yn methu deall y ffaith yma.

    Mae angen protestio weithiau, gan fod rhai pethau yn wir anghyfiawn. Dydi cau Bryn Llywelyn ddim - mae gan bawb hawl i wasanaeth ac mi wna i gwffio dros yr hawl yna, ond does gan neb hawl i wasanaeth yn union lle mae nhw eisiau.

    Pan mae dy blaid di yn gweithio allan sut i fforddio pob gwasanaeth dan haul - a dal i brotestio bod treth cyngor yn rhy uchel, efallai y byddaf yn eich cymryd o ddifrif.

    ReplyDelete
  8. Rhydian...mae dy gyfraniad diwethaf yn profi heb os mai ffwl wyt ti! FI sydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn emosiynol!!..dwi ddim yn meddwl rhywsut 'sti...penderfyniad ac agwedd cynghorwyr Plaid Cymru ddaru wneud i staff Bryn Llywelyn grio yn y siamber dydd Iau...yn yr un modd roedd y wraig oedranus yn crio gyda'r nos. Mi dwi wedi ceisio cynnig atebion ymarferol, synhwyrol a chynaliadwy yn ariannol i'r broblem yma dros y misoedd diwethaf ac mi gafwyd hynny i diystyru'n llwyr gan swyddogion ac "arwinyddiaeth" dy Blaid ar y Cyngor. Fyddai ddim yn ymateb i ddim mwy o dy negeseuon ar y mater yma nac unrhyw fater arall gan mae'n berffaith amlwg mai ffwl a cranc wyt ti....dwi yn edrych ymlaen i dy weld yn cwffio etholiad dros y Blaid rhyw ddydd er mwyn cael gweld pa mor bell ei di efo rhethreg ffol fel ti yn sbowtio o bryd i'w gilydd.
    Ar faterion arbedion sylweddol all Cyngor Gwynedd ei wneud heb effeithio yn uniongyrchol ar wasanaethau hanfodol, byddaf y cynnig syniadau go iawn ar hyn yn y dyddiau nesaf....cawn weld wedyn os bydd dy Blaid o ddifri am neud rhywbeth am y materion yma.

    ReplyDelete
  9. Anonymous6:58 pm

    Does gen i ddim eisiau rhedeg unrhyw etholiad yn dy erbyn di yn sicr. Holi am y sefyllfa, a pholisiau dy blaid oeddwn i, dim ond i ti fy ngalw'n ffwl ddwywaith... Diolch Gwilym

    ReplyDelete
  10. Ia, di-emosiwn. Chdi sydd yn gwneud gwleidyddiaeth yn emosiynol Gwilym -

    Onid dyma'r agwedd a damniodd y Blaid yn etholiadau'r Cyngor Sir llynedd?

    Mae gwleidyddiaeth yn beth emosiynol. Rwy’n genedlaetholwr oherwydd fy mod yn caru fy ngwlad. Iawn, gallwn greu dadleuon rhesymegol (neu afresymegol) i gefnogi fy marn ond mae'r gwreiddyn yn y galon, nid yn y pen.

    Pan fo polisïau llywodraeth, o unrhyw liw, am effeithio ar ofal Mam, Nain neu Hen Nain - yr wyf am ymateb yn emosiynol. Pan fo addysg fy mhlant neu fy wyrion ac wyresau o dan fygythiad rwyf am ymateb yn gwbl ddigywilydd emosiynol.

    Rwy'n derbyn bod rhaid i'r rhai sydd mewn llywodraeth edrych ar bethau sychion megis llyfrau a chyllideb. Ond mae'n rhaid i'r gwleidydd craff sylweddoli nad oes yr un bleidlais yn y fath bethau.

    Os oes wir yn yr honiad bod darpariaeth well i'r henoed i ddyfod, pam nad ydy'r ddarpariaeth wedi ei gyhoeddi efo band a razamataz, dathliad ac utgyrn cyn cyhoeddi cau Bryn Llywelyn?

    Pam na dorrwyd tywarchen gyntaf y datblygiad newydd gan yr hynaf o drigolion Bryn Llywelyn ar ddwthwn y cyhoeddiad o gau'r hen gartref?

    Dyma wendid y Blaid yng Ngwynedd (a'r Blaid yng nghlymblaid y Cynulliad). Mae'r aelodau etholedig yn ymddwyn fel cyfrifwyr yn hytrach na fel gwleidyddion. Maent yn ymateb i'r pen yn hytrach nag i'r galon, gan anwybyddu'r ffaith, diymwad, bod pobl yn pleidleisio o'r galon.

    ReplyDelete
  11. Anonymous11:22 am

    Alwyn, wnai ddim anghytuno - dwi wedi dadlau ers hir iawn a reolaeth newyddion gwell gan y Blaid.

    Ond rhaid cofio mai anaml iawn mae pob etholwr eisiau yr un peth. Rhaid bod yn ddi-duedd tuag at unigolion mewn llywodraeth, a mae hynny'n golygu na allem ganiatau i emosiwn reoli ein syniadaeth. Efallai fod Nain yn gorfod symud 20 munnud o Fryn Llywelyn, a gallem i gyd deimlo'n ddrwg dros ei thorcalon, ond os y byddem wedi dewis cadw Bryn Llywelyn, efallai y byddai 10 nain neu taid arall wedi cael eu amddifadu o wasanaeth da yn y dyfodol agos. Er mwyn ehangu un gwasanaeth, yn aml mae rhaid moderneiddio a datgymalu hen wasanaeth - ac er fod yr ehangiad o fudd i nifer mawr, mae'n anochel bod rhai yn colli allan. Ond heb fod yn ddewr i wneud penderfyniadau amhoblogaidd - a dwi'n sicr fod cau Bryn Llywelyn yn amhoblogaidd iawn - ni fydd dim yn newid, a fydd dim gwasanaeth yn cael ei wella.

    Ydi, mae gwleidyddiaeth yn beth emosiynol a dwi'n frwd iawn dros ddadlau am ymgyrchu a gwleidydda gwell, ond rhaid i polisi fod yn ddi-emosiwn. Mae ceisio cyrraedd rhyw gydbwysedd yn beth anodd i'w wneud - er dwi yn credu dy fod yn gywir i ddweud nad ydi'r Blaid yng Ngwynedd yno eto.

    ReplyDelete