06/02/2009

Croeso-ish i Garchar C'narfon

Os cofiaf yn iawn roedd yr alwad am garchar i ogledd Cymru yn un o'r pynciau cynharaf i Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas codi ar ôl eu hethol am y tro cyntaf ym 1974. Mae Elfyn Llwyd a Hywel Williams wedi parhau a'r frwydr gydag angerdd.

Yr wyf yn cael fy nghyhuddo gan rai (yn annheg fel arfer) o ladd ar y Blaid ar bob cyfle. Yn ddi-os roedd y cyhoeddiad heddiw bod carchar am gael ei godi yng Nghaernarfon yn enghraifft o werth Plaid Cymru ar ei orau. Mae creu polisi a dal ati, ac ati ac ati am 35 mlynedd hyd nes cael y maen i'r wal yn rhywbeth i'w clodfori. Felly llongyfarchiadau mawr i'r Blaid, i'r ddau Ddafydd i Hywel ac Elfyn ar eu llwyddiant.

Am yr holl resymau y mae'r Blaid wedi eu nodi dros gyfnod hir mae'r newyddion bod carchar newydd am gael ei hadeiladu yng Nghaernarfon yn newyddion da dros ben.

Ond, dydy cael y carchar ddim yn ddiwedd yr ymgyrch. Un o fanteision y carchar yw bydd hi'n dod a hyd at 1,000 o swyddi i'r ardal.

Mae profiad wedi dangos, ysywaeth, bod cynlluniau gwasanaeth cyhoeddus mawr yn aml yn dod a swyddi i ardal mewn modd llythrennol. Y DVLA, Y Bathdy Brenhinol, Y Swyddfa Breinlen a hyd yn oed swyddfeydd y Cynulliad ym Merthyr, Aberystwyth a'r Gyffordd yn mewnforio staff o ardaloedd eraill, yn dod a nhw, yn hytrach na chreu swyddi i'r boblogaeth leol.

Gall hyd at fil o swyddogion carchar yn mewnfudo i Gaernarfon bod yn niweidiol i un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Gall effeithio ar y farchnad tai, troi ysgolion cynhenid Cymraeg yn rhai Saesneg a chreu gelyniaeth gymdeithasol - ymysg pethau eraill.

Bydd llwyddiant y prosiect carchar yn hollol ddibynnol ar sicrhau bod canran uchel o'r swyddi ar gael i bobl leol. I gael y sicrwydd yna bydd rhaid i'r awdurdodau, yr asiantaethau cyflogaeth, gwasanaeth y carchardai a'r colegau lleol cyd weithio yn ystod y cyfnod adeiladu i hyfforddi pobl leol ar gyfer y swyddi bydd ar gael yng Ngharchar Caernarfon. Rwy'n mawr obeithio bydd y Blaid yn ychwanegu at y llwyddiant trwy sicrhau bod hyn yn digwydd.

2 comments:

  1. Cytuno efo dy sylwadau gant y cant. Er yn wahanol i'r enghreifftiau rwyt yn eu nodi, onid yr achos gyad'r carchar ydi ei fod yn cael ei godi o'r newydd, tra bod yr enghreifftiau eraill yn faterion o drosglwyddo swyddi?

    Ta waeth am hynny, gobeithio'n wir mai pobl leol a gaiff y swyddi; dwi'n siwr bod y gwleidyddion wedi meddwl am hynny ymlaen llaw....

    ReplyDelete
  2. Ddechreuais i sgwenu ymateb, ond fe aeth o'n hir ar y naw. Felly dwi wedi ei droi yn neges ar fy mlog fy hun - http://bloganswyddogol.blogspot.com/2009/02/carchar-i-gaernarfon.html

    ReplyDelete