28/01/2009

Vaughan, yr Haridans a Chenedlaetholdeb

Dydy Vaughan Roderick ddim mewn gwirionedd yn deall pam ond yn ddiweddar mae ambell i flogiwr a newyddiadurwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol y glymblaid .

Rwy' ddeall pam!

Am y reswm syml bod y cenedlaetholwyr wedi colli pob achos cenedlaethol sydd wedi codi ei phen, hyd yn hyn, yn y glymblaid!

Mae Vaughan yn ein hatgoffa bod y glymblaid coch-wyrdd wedi dod i fwcl oherwydd fe wnaeth Ieuan Wyn Jones gyfiawnhau ei benderfyniad i fod yn ddirprwy yn hytrach na'n brif weinidog trwy honni mai dim ond trefniant â Llafur fyddai'n sicrhâi refferendwm cyn 2011.

Mae Vaughan, fel pawb arall, yn gwybod mae esgus dros glymblaid, nid reswm oedd dweud mai dim ond Llafur oedd yn gallu dod a refferendwm i'r fei. Y brif reswm pam nad ddaeth y Glymblaid Enfys i fod oedd o herwydd bod criw bach o sosialwyr eithafol yng ngrŵp y Blaid yn methu goddef y syniad o fod mewn clymblaid gyda'r Torïaid.

Os nad ydy Vaughan a selogion Plaid Cymru wedi sylwi ar y ffaith yna, does dim ddwywaith bod yr unoliaethwyr yn y Blaid Lafur wedi sylwi arni, ac yn ei ddefnyddio i grogi'r Blaid.

Y gwir blaen yw bod y glymblaid wedi methu ar bob ymgais i blesio cenedlaetholwyr Plaid Cymru. Does dim papur dyddiol, dim cefnogaeth i ddiwydiannau yn etholaethau Plaid Cymru. Dim Coleg Ffederal, dim Deddf Iaith. Mae'r system ELCO wedi ei wyrdroi i dynnu grym oddiwrth y Cynulliad ac i gryfhau llaw'r Ysgrifennydd Gwladol. Ac mae'n eithriadol amheus os ddaw'r Refferendwm bondigrybwyll cyn 2012. A hyn oll oherwydd bod pedair aelod o grŵp y Blaid wedi rhoi eu buddiannau Sosialaidd o flaen buddiannau Cymru.

Mae Plaid Cymru mewn Llywodraeth yn y ffordd waethaf posibl. Bydd pob llwyddiant yn llwyddiant i Lafur, a phob methiant yn fethiant i'r glymblaid. Syniad hurt o'r cychwyn cyntaf, a methiant i'r Blaid hyd yn hyn.

Yr unig lygedyn o obaith sydd gan Blaid Cymru yw canlyniad gwael yn etholiadau Ewrop mis Mehefin. Bydd canlyniad gwael, siawns, yn rhoi ddigon o asgwrn cefn i'r asgell dde yn y Blaid i ddweud digon yw digon i'r haridaniaid, a thynnu nôl o'r cysylltiad gyda'r Blaid Lafur marwol. Boed hynny trwy arwain clymblaid Enfys neu trwy fod yn wrthblaid lwyddiannus.

12 comments:

  1. Anonymous10:33 am

    Dydy Coleg Ffederal ddim yn 'achos cenedlaethol'. Mater dadleuol o bolisi ydyw. Mae na nifer o genedlaetholwyr sy'n credu ei fod yn syniad gwirion all fod yn andwyol i'r iaith ac i addysg, ac yn gresynu ei fod yn nogfen Cymru'n Un yn y lle cynta.

    ReplyDelete
  2. Anonymous11:39 am

    Alwyn, nid oes yna Goleg Ffederal na Deddf Iaith eto. Wyt ti mor wleidyddol naif a chredu fod achosion yn cael eu hennill heb orfod gweithio?

    Am ba reswm wyt ti yn poeni am fethiant honedig y Blaid - ers pryd wyt ti yn aelod? Mae aelodau yn sylwi fod ein grwp ni yn y Llywodraeth yn gweithio ar nifer o bethau o ddiddordeb i genedlaetholwyr selog. Ydi, mae'r papur newydd wedi ei israddio, ond mae yna le i ddewis ein brwydray yn ofalus - ni ellir ymladd pob achos, neu anialwch gwleidyddol fyddai'r diben.

    ReplyDelete
  3. Er ei bod hi'n deg ac yn gywir dweud bod y glymblaid wedi methu â chyflawni dim byd o ran cenedlaetholdeb a bod Llafur yn mygu yr agwedd honno ar y glymblaid - y papur dyddiol, y coleg ffederal, y refferendwm annhebygol - dwi'n ei ffendio hi'n chwerthinllyd dy fod yn awgrymu dy fod o'r farn na fyddai'r Ceidwadwyr yn gwneud union yr un peth.

    Yr unig obaith ydi sefyll ar wahân: dylai'r SNP fod yn ysbrydoliaeth i'r Blaid yn hynny o beth.

    ReplyDelete
  4. Anonymous5:43 pm

    Mi gawn i bapur dyddiol pan fydd y Toriaid mewn grym.....gewch chi weld.

    ReplyDelete
  5. Anonymous10:17 pm

    Wel Anhysbys 5.43, os wyt ti yn coelio mai'r Toriaid fydd achubiaeth yr iaith Gymraeg, dwi'n teimlo trueni mawr dros dy gof byr...

    ReplyDelete
  6. Anonymous11:17 pm

    Rhydian Fôn,

    Chi'n mynd ati i nodi mai anhebygol iawn fod y Toriaid wedi newid eu hagwedd. Pam felly ydych chi'n meddwl fod y blaid Lafur wedi newid o fod yn blaid gwrth-Gymraeg?

    ReplyDelete
  7. Diolch am y sylwadau niferus.

    I ateb yr Hogyn o Rachub yn gyntaf. Nid ydwyf yn rhannu'r atgasedd "cynhenid" sydd gan nifer fawr o genedlaetholwyr i'r Blaid Geidwadol. Ar y cyfan mae'r ceidwadwyr yr wyf wedi dod ar eu traws wedi bod yn weddol gefnogol i Gymru a'i hiaith. Pwy all amau cefnogaeth pobl fel Guto Bebb, Y Parch Darren Millar, Y Parch Felix Aubel, David Jones AS, Lisa Francis, Yr Arglwydd Roberts o Gonwy, Roy Owen, Syr Geraint Morgan ac ati i'r iaith a'r genedl?

    Drwg y bobl yma yw eu bod oll yn anghytuno a sosialaeth.

    Mi fyddai'n llawer gwell gennyf i glymbleidio a Phaul a Glyn Davies nag efo Neil a Glenys Kinnock! Ond mae yna ormod o bobl yn y Blaid sydd yn fodlon gwerthu ei heneidiau i'r Kinnockiaid ffug sosialaidd yn hytrach na chydweithio a "Chymru Dda" Ceidwadol fel y ddau Davies.

    Does dim modd i'r Blaid "sefyll ar wahân" fel llywodraeth ar hyn o bryd, megis yr SNP. Mi grybwyllais yn y post mae un o'r dewisiadau i'r Blaid byddid sefyll fel gwrthblaid lwyddiannus - sef sefyll ar wahân!

    Anhysbys, rwy'n tueddu cytuno a chi. Mae yna well obaith cael papur dyddiol gan y Ceidwadwyr na gan Lafur. Wedi'r cwbl o dan lywodraeth Geidwadol daeth y Ddeddf Iaith ddiwethaf, S4C ac addysg Gymraeg a Chymreig orfodol o fewn y cwricwlwm cenedlaethol. Pethau a wrthwynebwyd gan y Blaid Lafur.

    Rhydian, rwy'n methu deall be sydd gan y cwestiwn "ers pryd wyt ti yn aelod?" i'w gwneud a'r ddadl. Diwrnod trist i ddemocratiaeth bydd y dydd pan na chaiff ond aelodau o blaid cwestiynu ei weithredoedd. Ond os ydy o'n wybodaeth mor dyngedfennol i'r ddadl mi ymunais a Phlaid Cymru am y tro cyntaf ar Fawrth 2il 1979.

    O ran dy sylw hurt am fod yn naïf am beidio â chredu mewn gwaith caled, mae dy hyfdra yn fy ngadael yn geg agored!

    Cafodd y gwaith caib a rhaw ei wneud trwy greu cytundeb Cymru'n Un. Mae awgrymu dylid ail-balu er mwyn cadw at y cytundeb yn dangos naïfrwydd gwleidyddol y sawl a arwyddodd y cytundeb!.

    ReplyDelete
  8. Fe ellir dweud hefyd yn gywir bod nifer i Lafurwyr wedi bod yn gefnogol i'r iaith, ond dydi hynny ddim yn gwneud y Blaid Lafur yn llai wrth-Gymraeg. Wrth gwrs, mae'r rhai rwyt yn enwi yn gefnogol (neu rai ddim yn elyniaethus yn hytrach) tuag at yr iaith - os wyt o'r farn eu bod yn nodweddiadol o agweddau'r Ceidwadwyr yng Nghymru, fodd bynnag, mae arna i ofn y bydd yn rhaid i mi anghytuno. Gellir yn hawdd enwi digon o Dorïaid gwrth-Gymraeg, onid yw hynny'n wir?

    ReplyDelete
  9. Anonymous12:21 pm

    Rhydian Fôn said...
    Wel Anhysbys 5.43, os wyt ti yn coelio mai'r Toriaid fydd achubiaeth yr iaith Gymraeg, dwi'n teimlo trueni mawr dros dy gof byr...

    Dyma fi eto.....dwi i ddim yn meddwl y bydd y Toriaid yn achubiaeth i'r iaith Gymraeg ond mi wnaeth nhw rhai pethau drosti fel mae HRF wedi crybwyll. Ar y llaw arall, dwi ddim yn gweld Plaid Cymru yn achub yr iaith ychwaith o weld sut y gwnaeth nhw dorri'r addewid i sefydlu Papur (nid gwefan) dyddiol. Mae Adam Price (mae gennyf barch iddo ar y cyfan) wedi dweud fod cyfnod y papurau dyddiol yn dod i ben.....efalle fod hynny yn wir.....ond nid yw wedi cyrraedd eto ac mi fyddwn innau sy'n ysgrifennu sylwadau yma yn dipyn yn hyn pan ddaw'r llenu lawr am y tro olaf.....os byth!

    ReplyDelete
  10. Rhydian Fôn,

    Wrach bod dydd papurau dyddiol yn dod i ben, ond rhaid edrych ar gylchrediad y papurau bro. O ystyried gwerthiant nhw, a'r nifer sy'n gallu darllen Cymraeg, mae nhw'n ffigyrau reit iach. Rhaid hefyd ystyried fod un copi o bapur bro yn cael ei rannu rhwng teuluoedd. Mae'r ffigyrau wedi bod yn reit gyson dros y blynyddoedd.

    ReplyDelete
  11. Anheg ydi cyfeirio at 'giwed o sosialwyr eithafol' oddi fewn i Blaid Cymru, HRF.

    Ron i'n benboeth yn erbyn unrhyw gytundeb efo'r Blaid Lafur i ddechrau, cyn sylweddoli mai fy ysfa reddfol i weld y diawliaid gelyniaethus yn cael eu sgubo o'r neilltu oedd wrth wraidd hynny.

    Rwyf wedi dod i gytuno'n llwyr efo'r aelodau oddi fewn i Blaid Cymru o ran gwrthod cytundeb efo'r Toriaid. Byddai wedi bod yn drychineb ac ni fyddai etholwyr etholaethau'r Cymoedd wedi maddau iddyn nhw. Byddai'r etholiad nesaf yn landslide yn erbyn y Blaid (trwyn coch go iawn), ac mi fyddai'n drychineb hefyd i'r gobaith o fwy o rymoedd i'r Cynulliad, os nad i'r holl broses o ddatganoli'n gyfangwbl.

    Digon hawdd i genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd chwythu tân a brwmstan heb weld yn bellach na'u trwynau, a heb ddeall natur gwleidyddiaeth, hanes a natur y gymdeithas yn yr ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain.

    Yn bersonol, liciwn i fod wedi gweld Plaid Cymru'n ffrufio llywodraeth leiafrifol.

    ReplyDelete
  12. Digon hawdd i genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd chwythu tân a brwmstan heb weld yn bellach na'u trwynau, a heb ddeall natur gwleidyddiaeth, hanes a natur y gymdeithas yn yr ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain.

    Dyna rywbeth od ar y diawl - cael fy nghondemnio am fod yn un o "genedlaetholwyr diwylliannol Gwynedd" gan fardd a llenor o Wynedd!! Be sydd o'i le efo bod yn genedlaetholwr diwylliannol neu ddod o Wynedd?

    Dydy fy ngwrthwynebiad i sosialaeth ddim yn wrthwynebiad diwylliannol, mae'n ymateb gwleidyddol sydd wedi ei selio ar fy nealltwriaeth o'r niwed mae'r gred yna wedi achosi i ardaloedd diwydiannol yn y de-ddwyrain ac yn ardaloedd diwydiannol eraill Cymru.

    Beth bynnag fo rhinweddau'r cytundeb presennol rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, mae yna beryglon o ddweud na fydd y Blaid byth yn cynghreirio efo'r Torïaid, fel mae rhai o aelodau chwith y Blaid wedi gwneud.

    Y perygl mwyaf yw ei fod o'n ddweud wrth y gwrth Gymreig yn y Blaid Lafur nad oes gan Blaid Cymru dewis arall i lywodraethu. Os nad oes gan Blaid Cymru dewis arall does ganddi hi ddim byd i fwgwth ar Lafur pe na bai Llafur yn cadw at ei rhan hi o fargen Cymru'n un. Rwy'n ofni mae dyma'r hyn sy'n digwydd a dyna pam bod bron pob achos cenedlaethol-diwylliannol yn y cytundeb wedi methu hyd yn hyn.

    Pe ba'r Blaid Lafur yn gwybod bod y bygythiad o ail-godi'r enfys yn bosibilrwydd real, yna bydda nhw heb gachu ar bethau fel y Byd, y coleg ffederal ac ati.

    ReplyDelete