27/12/2008

Cwestiwn o egwyddorion

Cwestiwn:
Aelod o ba Blaid Wleidyddol sydd yn dweud ar ei flog:

Bod y rhai sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru yn snobiaid
Bod y sawl sydd am amddiffyn yr iaith yn ideolegol naïf
Bod y rhai sydd am gefnogi cymunedau Cymreig yn bobl sydd heb unrhyw ddealltwriaeth wleidyddol

A) Aelod eithafol gwrth Gymreig o'r Blaid Geidwadol?
B) Un o ddinosoriaid Plaid Lafur y Cymoedd?
C) Un o gefnogwyr mwyaf triw Plaid Cymru?

Y syndod yw mai C yw'r ateb cywir.

2 comments:

  1. "Bod y rhai sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru yn snobiaid"

    Dim dyna ddarllenis i yn y linc yna. Beth ddarllenis i oedd fod rhai pobol sy'n cefnogi annibyniaeth yn snobs. Mae'n neid enfawr i fynd o "mae rhai cenedlaetholwyr yn snobs" i "mae;r rhai sy'n credu mewn annibyniaeth yn snobs".

    ReplyDelete
  2. Awgrymaf bod y sawl sy'n darllen hwn yn dilyn y linc a darllen cynnwys y sylwadau. Wedyn gellir dod i gasgliadau teg ynglyn a geirwiredd darn HRF.

    ReplyDelete