27/12/2008

Cwestiwn o egwyddorion

Cwestiwn:
Aelod o ba Blaid Wleidyddol sydd yn dweud ar ei flog:

Bod y rhai sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru yn snobiaid
Bod y sawl sydd am amddiffyn yr iaith yn ideolegol naïf
Bod y rhai sydd am gefnogi cymunedau Cymreig yn bobl sydd heb unrhyw ddealltwriaeth wleidyddol

A) Aelod eithafol gwrth Gymreig o'r Blaid Geidwadol?
B) Un o ddinosoriaid Plaid Lafur y Cymoedd?
C) Un o gefnogwyr mwyaf triw Plaid Cymru?

Y syndod yw mai C yw'r ateb cywir.

24/12/2008

Cwestiwn Dyrys Nadoligaidd

Pam fod Bethlehem yn Ddinas yn y carol Cymraeg a dim ond yn little town yn y carol Saesneg?

I'r credinwyr ymysg fy narllenwyr dymunaf bob bendith wrth i chi ddathlu dyfodiad ein gwaredwr i'r byd. I'r rhai sydd eto i brofi grym gwaredigaeth yr Arglwydd Iesu Grist ddymunaf bob llawenydd wrth i chi dathlu'r hyn sydd yn bwysig i chi ar ŵyl gyhoeddus.

Nadolig Llawen iawn i bawb.

17/12/2008

Anabl i Fwynhau Sioe'r Nadolig

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi bodoli ers 1995! Mae busnesau a chyrff wedi cael amser maith i gydymffurfio a'r ddeddf. Rhoddwyd hyd at 2004 i adeiladau cyhoeddus sicrhau mynediad cyfartal i holl aelodau'r cyhoedd. Pedwar blynedd yn ddiweddarach mae nifer o adeiladau cyhoeddus dal heb ddarparu'r mynediad angenrheidiol, ac mae hyn yn warthus.

Mae mynediad yn fwy na sicrhau bod modd i ddefnyddiwr cadair olwyn cael mynd trwy ddrws. I mi, fel person trwm ei glyw, mae mynediad yn cynnwys darparu system lŵp, system sydd yn ddarlledu sain yn uniongyrchol i declynnau clywed. Mae y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol sydd yn rhedeg adeiladau cyhoeddus megis Eglwysi, capeli a neuaddau coffa yn darparu'r fath system bellach, fel sydd yn ofynnol a'r ddeddf - diolch iddynt.

Mae ysgolion, yn amlwg, yn adeiladau cyhoeddus. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn bydd miliynau o aelodau'r cyhoedd yn ymweld ag ysgolion i wylio'r Sioe Nadolig. Ond o'm mhrofiad i, prin ar y naw yw neuaddau ysgol sydd yn cynnig gwasanaeth lŵp. Wedi holi pobl eraill trwm eu clyw mae'n ymddangos nad yw'r gwasanaeth, gweddol rad, yma ar gael o gwbl yn ysgolion siroedd Conwy na Gwynedd.

Mae fy mab yn perfformio mewn sioe ysgol nos yfory. Af yno i wylio'r sioe. Piti na fydd modd imi glywed y sioe hefyd, gan bod y cyngor sir wedi dewis peidio â chydymffurfio a deddf sydd i fod i ganiatáu imi gael mwynhau'r sioe cystal â phawb arall yn y gynulleidfa.