21/11/2008

Ciwdos i'r Hen Rech a'r Iaith Gymraeg

Y mae'r blogiwr bach hwn wedi cael ciwdos mawr heddiw! Yr wyf wedi derbyn Datganiad i'r Wasg, yn gofyn imi roi cyhoeddusrwydd ar fy mlog i ddatganiad y mae'r datgeinydd am gael cyhoeddusrwydd amdani!

Ew! Rwyf wedi fy mhlesio! Nid rant bach hen ddyn blin mo'r safle hwn bellach, ond ffynhonnell newyddion o bwys. Un sydd werth danfon datganiadau i'r wasg iddo! Y mae fy mhwysigrwydd wedi ei chwyddo gymaint, hwyrach bydd angen ichi ail osod faint eich sgrin er mwyn darllen fy mhyst bellach.

Nid ydwyf am ail adrodd y datganiad yn ei gyfanrwydd; bydd o i'w gweld yn y Mule a'r Dail a Golwg a'r Cymro. Yr unig sylw yr wyf am wneud yw llongyfarch Alun Ffred am ddefnyddio'r Gymraeg am y tro cyntaf mewn pwyllgor y Gymuned Ewropeaidd a diolch i Jill Evans ASE am ei ddycnwch dros y blynyddoedd i sicrhau bod y Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth deilwng ar lefel Ewropeaidd.

Fel y dywedodd Ffred ar newyddion y BBC yn gynharach, bydd y ffaith ei fod ef wedi siarad Cymraeg mewn pwyllgor ddim yn cynyddu'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg erbyn y bore. Ond yr wyf yn credu bod yna werth symbolaidd pwysig i'r achlysur.

Rwy'n ddigon hen i gofio cynghorydd blaenllaw o Fôn yn gofyn ar raglen newyddion yn y 1960au Be di iws y Gymraeg yr ochor arall i Bont y Borth? Mae Ffred wedi dangos bod iws i'r Gymraeg ym mhell du hwnt i Borthaethwy, a thrwy hynny wedi gwneud gweithred fach symbolaidd i hybu gwerth yr iaith ym meddyliau holl drigolion ein gwlad.

Rhaid nodi nad ydwyf yn un o ffans mwyaf y Gymuned Ewropeaidd. Bonws bach iawn yw cael y Gymraeg yn un o ieithoedd y Gymuned o gymharu â'i swyddogaeth bydysawl fel Iaith y Nefoedd, wrth gwrs!

1 comment:

  1. Be am gychywn slogan:

    "Sut ddefnyddioch chi eich Cymraeg heddiw?"

    ReplyDelete