11/10/2008

Ie dros Gymru ar Facebook

Mae Jim Dunckley a finnau wedi cychwyn ymgyrch ar Facebook i ofyn am gefnogaeth i'r alwad am refferendwm ac i annog pleidlais IE yn yr ymgyrch.
Mae Cymru Gyntaf / Wales First yn grŵp allbleidiol sydd yn galw am bleidlais "IE" yn y refferendwm arfaethedig ar hawliau deddfu llawn i Gynulliad Cymru.
Ein bwriad yw defnyddio'r we i godi cefnogaeth boblogaidd dros Senedd i Gymru.
Mynnwn fod ein corff etholedig democrataidd cenedlaethol yn cael y grym i roi Cymru GYNTAF

Gan fod ymgyrch Na eisoes yn bodoli ac yn cael cyhoeddusrwydd eang er gwaetha'r ffaith nad oes ganddi ond hanner dwsin o aelodau, mae'n hanfodol bod ymgyrch Ie gref yn bodoli i'w gwrthwynebu.

Mae rhai o gefnogwyr datganoli yn gwangalonni ac yn amau os oes modd ennill ymgyrch refferendwm. Maent am ohirio ehangu grymoedd y Cynulliad dan boeni bydd refferendwm yn cael ei golli. Mae'n bwysig cael ymgyrch ar lawr gwlad i ddangos i'r gwangalon bod yna gefnogaeth a brwdfrydedd dros achos Ie.

Fe ddywedodd John Dixon cadeirydd y Blaid ychydig yn ôl bod yna beryglon yn perthyn i'r strategaeth wleidyddol swyddogol o ddisgwyl am gefnogaeth i gynyddu cyn dechrau ymgyrchu a risk that we wait until the polls show that the argument has been clearly won before we start to present the case; and I don't understand how anyone would ever expect to decisively win any argument without putting the case.

Os ydych yn gefnogol i'r achos Ie mewn refferendwm ymunwch a'r grŵp ar facebook, gofynnwch i'ch cyfeillion i ymuno a dwedwch air bach o blaid yr ymgyrch ar eich lle ar y we, lle gwaith, tafarn lleol ac ati os gwelwch yn dda.

http://www.facebook.com/group.php?gid=40044911971

2 comments:

  1. Anonymous2:29 pm

    syniad da Alwyn - ac wedi ymaelodi. ond ddim cweit deall sut mae hwn am wthio'r ymgych ymlaen. Fydd y facebook yn cael ei ddefnyddio fel rhyw restr ebostio crand neu be? A be' di'r cysylltiad (os o gwbwl) gydag Ymgyrch Senedd i Gymru neu Cymru Yfory?

    ReplyDelete
  2. Pe tasai Cymru yn gyntaf, pwy fyddai'n ail?

    Os dych chi'n fframio y ddadl mewn termau cenedlaetholdeb, ac nid democratiaeth, dych chi'n debyg i golli cefnogaeth llawer o bobl a fyddai o'ch plaid fel arall. Dych chi'n meddwl na fydd pobl yr ochr arall yn wneud defyndd o hyn, pan daw'r dydd?

    Mae unrhywbeth sy'n rhoi ofn neu amheuaeth ym meddwl y di-Gymreig ac enwedig y di-Gymraeg yn mynd i helpu'r bobl "Na".

    ReplyDelete