31/10/2008

Gwobr Hen Rech Flin

Pe bai'r Hen Rech Flin am wobrwyo, idiotrwydd llwyr a chyfan gwbl, fel y mae Blog Menai yn awgrymu dylwn wneud byddwn yn enwebu'r post yma gan Flog Menai am urdd uchaf yr anrhydedd.

Oes yna unrhyw beth mwy idiotaidd nag aralleirio barn yr wyt yn anghytuno ag hi er mwyn ei bardduo, yn hytrach nag ymateb i'r ddadl graidd? A wnes i roi'r bai ar y cyfryngau am achosi ffliw'r adar neu am greu'r pwysau ariannol, fel mae Cai yn awgrymu? Naddo, yr hyn a ddywedais oedd bod y BBC ac eraill yn gyfrifol am greu panig gormodol parthed y pynciau. Mae nifer o arweinwyr busnes ac eglwysig wedi gwneud yr un sylw. Ond mae'n siŵr mae idiotiaid yw'r rhain hefyd gan nad ydynt yn cytuno a barn unllygeidiog Cai a'i blaid.

A ydy Madrwyddygryf yn idiot am wneud y sylw bod rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion yn gyfrifol am anfon Mark Williams AS i San Steffan, fel mae Cai yn honni? Wrth gwrs nad ydyw, mae o'n ddweud y gwir. Fe arhosodd rhai o Gymry Cymraeg Ceredigion adref yn hytrach na phleidleisio i Blaid Cymru oherwydd ffrae'r maer, fe bleidleisiodd nifer o Gymry Cymraeg Ceredigion i bleidiau eraill yn hytrach na chefnogi'r Blaid, ac mae yna graig o draddodiad o gefnogi rhyddfrydiaeth ymysg rhai o ffermwyr Cymraeg Ceredigion. Idiot bydda'r dyn sydd yn credu bod modd adennill y sedd i'r Blaid heb geisio cael y Cymry Cymraeg hyn i bleidleisio i Blaid Cymru eto neu am y tro cyntaf.

Mae ceisio cysylltu barn Still a Liberal a fy marn i yn gwbl chwerthinllyd o idiotaidd. Mae hyn mor hurt â phe bawn i yn ceisio cysylltu barn Cai a sylwadau diweddaraf David Davies AS.

Ond y prif reswm am gynnig gwobr am idiotrwydd i Flog Menai yw oherwydd ei fod yn rhy idiotaidd i sylweddoli pa mor idiotaidd yw ei ddiffiniad o idiotrwydd, sef barn nad yw'n cytuno a hi, ond nad yw'r gallu ganddo i gynnig ateb rhesymol iddi.

3 comments:

  1. Mae'n fraint ac yn anrhydedd gen i dderbyn y wobr wych yma - yr unig beth 'dwi wedi ei ennill yn fy mywyd hyd y gallaf gofio.

    'Dwi'n meddwl ei bod yn draddodiadol i golli deigryn neu ddau mewn amgylchiadau fel hyn, felly i ffwrdd a fi i chwilio am hances.

    ReplyDelete
  2. Diolch Cai, am ddod yn agos i ymddiheuro

    ReplyDelete
  3. Gyda ymatebion hollol diwerth fel sydd ar Menai Blog dwi'n hapus fod Llais Gwynedd wedi cael seti. Nid am fod nhw am neud pethe'n well, ond gwneud pethe'n waeth i ffyliaid fel fo.

    Dwi wir yn ystyried pwy fydd yn cael fy mhleidlais yn yr Etholiad Cyffredinol nesa. Ydwi isio'i roi i bobol sy'n nadu ac yn troi yn f'erbyn er fy mod wedi eu cefnogi, neu ei roi i rywun nid ydwyf yn rhy hoff ohono ond yn sicr ddim am gael fy ngalw'n idiot ganddo.

    ReplyDelete