07/10/2008

Edward Leigh a Iaith yr Iesu

Nid ydwyf yn un o ffans pennaf Edward Leigh AS. Mae o'n un o'r Ceidwadwyr yna sydd yn parhau i efengylu dros bolisïau mwyaf eithafol Thatcheriaeth. Ond ar flog yr eithafwyr Thatcheraidd, The Cornerstone Group, mae yna gopi o erthygl gan yr AS a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn The Catholic Herald.

Mae'n erthygl ddiddorol sydd yn son am un o effeithiau rhyfel Irac sydd ddim yn cael ei drafod yn aml; effaith y rhyfel ar gymdeithas Gristionogol Asyria. Mae'r Eglwys yn Asyria yn un bwysig o ran y traddodiad Cristionogol yn gyntaf gan mae hi yw ceidwad beddrod y proffwyd Nahum ac yn ail gan mae Asyriaid Ninefe yw'r bobl olaf i siarad yr Aramaeg, sef yr iaith pob dydd byddai'r Iesu yn ei ddefnyddio.

1 comment:

  1. Dwi di deud hwn o'r blaen; tydi George Bush & Co ddim wedi meddwl am y Cristnogion yn yr ardal.

    Dwi'n meddwl mai eu hanwybyddu fel mater o gyfleuster. Yr oedd un o bobol agosaf Saddam Hussain, Tyriq Aziz, yn Gatholig ond doedd hyn ddim o gymorth pan yn ceisio deud fod llywodraeth Saddam yn ymwneud ag Al Qaeda.

    Mae'r un beth yn wir trwy'r Dwyrain Canol i gyd. Tydi hyn ddim yn reol pendant, ond mae'r tensiynau rhwng y Cristnogion a'r Mwslemiaid ym Mhalesteina ddim yn bodoli fel maent rhwng y Mwslemiaid a'r Iddewon. Wedi deud hyn, mi fyddent yn siwr o droi'n chwerw wrth i fwy a fwy ohonynt eu cysylltu a'r UDA a'r DU.

    ReplyDelete